Agenda item

Strategaeth Adferiad

Cofnodion:

Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r aelodau ar sefydlogi, y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19. Roedd y strategaeth yn nodi fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi ymagwedd gyson a chydlynol wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu i dderbyn sylwadau cyn cyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo.

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y strategaeth, gan esbonio ei bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng, edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffordd o gamau gweithredu.

 

Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod y cyfnod ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o gamau allweddol wedi'u cymryd gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr wythnos fel y gellid anfon canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru pan oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y Cyngor wedi cau gwasanaethau i helpu i leihau lledaeniad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er enghraifft y gwasanaeth sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y strategaeth hefyd yn nodi'r newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth a llywodraethu, gan gynnwys defnyddio'r ddarpariaeth Cam Gweithredu Brys a nodir yn y Cyfansoddiad, i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud yn ystod y cyfnod ymateb.

 

Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, a oedd yn cynnwys edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod sefydlogi, sef y cam cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u nodi fel canolbwynt wrth i'r Cyngor symud ymlaen:

 

1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

 

2. Sefyll gwasanaethau a swyddogaethau'r Cyngor

 

3. Deall ac ymateb i'r effaith y mae'r firws wedi'u cael ar ddinasyddion, sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port Talbot

 

Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn ogystal â rhai o'r risgiau a'r materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth i'r cyngor fynd ati i roi'r strategaeth ar waith.

 

Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffordd o gamau gweithredu a oedd wedi'i fframio ar sail system goleuadau traffig, a oedd yn nodi sut i symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system goleuadau traffig, i sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto. Nodwyd bod nifer o'r gwasanaethau ar y map ffordd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant.

 

Gofynnodd yr Aelodau am adborth ar sut roedd gweithio gyda phobl ifanc o bell wedi mynd, a nodwyd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol, er bod gan y gwasanaeth ieuenctid staff a gafodd eu hadleoli i'r gwasanaeth 'Safe and Well', felly roedd yn rhaid i weddill y staff reoli'r nifer y gellid ymdrin â hwy yn y gwasanaeth ieuenctid, gan flaenoriaethu'r bobl ifanc fwyaf diamddiffyn. Ychwanegwyd bod y staff wedi cwblhau galwadau ffôn wythnosol i sicrhau bod y bobl ifanc yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a oedd ganddynt fel pryder. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod system hunangyfeirio hefyd wedi'i sefydlu i bobl ifanc ei defnyddio, fel y gallent gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth pe baent yn teimlo dan bwysau. Nodwyd bod Swyddogion yn fodlon ar lefel yr ymgysylltu, fodd bynnag roedd manteision cwrdd wyneb yn wyneb â phobl ifanc ar goll.

 

Gofynnwyd i swyddogion a oedd unrhyw fanylion am drefniadau teithio ar gyfer disgyblion wedi'u cadarnhau, yn enwedig a fyddai angen i ddisgyblion wisgo mygydau wyneb ar fysus ysgol a sut byddai'r mygydau wyneb yn cael eu prynu. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Medi, fodd bynnag nid oedd rhai meysydd wedi'u datblygu hyd yn hyn, gan gynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol felly nid oedd y canlyniad yn hysbys hyd yma. Ychwanegwyd mai'r disgwyliad oedd pe bai mygydau wyneb yn cael eu mandadu, byddai hynny ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd (Cyfnodau Allweddol 3 a 4) yn unig ac nid disgyblion ysgolion cynradd. Er nad oedd swyddogion yn ymwybodol o sut byddai'r mygydau wyneb yn cael eu prynu, nodwyd eu bod yn ymwybodol bod tua 3,000 o ddisgyblion oedran uwchradd yn cael eu cludo bob dydd, ddwywaith y dydd, felly byddai angen darparu 6,000 o fygydau wyneb bob dydd, ac amcangyfrifwyd y byddai hynny’n gost sylweddol o oddeutu £4miliwn. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai’r swyddogion yn adrodd yn ôl i'r aelodau unwaith y byddent yn ymwybodol o’r sefyllfa cludiant o'r cartref i’r ysgol yng Nghymru.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y golofn 'werdd' ar y Map Ffordd yn wag ar gyfer y blynyddoedd cynnar, y gwasanaeth ieuenctid a gwasanaethau addysg oedolion, a gofynnodd yr Aelodau a oedd hyn oherwydd na chafwyd diweddariad diweddar gan Lywodraeth Cymru. Soniodd yr aelodau hefyd eu bod yn ymwybodol y bu cynnydd mewn problemau iechyd meddwl gyda phobl ifanc a gofynnwyd a oedd unrhyw ystyriaethau wrth symud ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hyn cyn i ysgolion agor ym mis Medi.
Darparodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd gwasanaeth a grybwyllwyd, gan gynnwys y gwasanaethau dysgu cymunedol a oedd yn gweithredu ar hyn o bryd drwy Microsoft Teams a thrwy ddarpariaethau technolegol eraill, ac oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol dwy fetr a oedd ar waith, nid oedd yn debygol y byddai darpariaeth wyneb yn wyneb yn cael ei ailgyflwyno yn y dyfodol agos.
O ran darparwyr gofal plant, nodwyd bod 79 allan o 129 o ddarparwyr ar hyn o bryd yn gweithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot (tua 61%) ond tynnwyd sylw at yr angen i sicrhau bod pob un o'r 129 o ddarparwyr yn dod yn ôl i wasanaethu'r cymunedau lle maent yn gweithredu.
Mewn perthynas â chyllid, dywedwyd bod gan y cyngor ddwy ffrwd ariannu sylweddol:

 

1. Cymorth haf i ddysgwyr diamddiffyn, sy'n cynnwys gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion ac asiantaethau eraill megis yr heddlu ac iechyd, i nodi'r dysgwyr mwyaf diamddiffyn. Cadarnhawyd bod £75,000 wedi'i neilltuo i ddarparu gofal seibiant a chymorth tebyg arall dros yr haf.

 

2. Gweithgareddau cyfoethogi'r haf a fydd yn cymryd lle SHEP, gan y byddai'n anodd cynnal rhaglen mor helaeth o ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol. Yn hytrach, darperir gweithgareddau cyfoethogi'r haf o chwech o gyfleusterau'r cyngor dros bythefnos ac fe’i targedir at ysgolion sydd â phroffil Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) o dros 17%. Cadarnhawyd bod tua £46,000 wedi'i ddyrannu i ddarparu'r gweithgareddau.

 

Nododd yr Aelodau y darperir cefnogaeth iechyd a lles emosiynol o bell i blant ac y byddai'n parhau dros yr haf i'r rheini y mae angen cymorth o’r fath arnynt. Ychwanegwyd bod y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion yn weithredol o hyd, ond ei fod hefyd yn cael ei ddarparu o bell.

 

Dogfennau ategol: