Cofnodion:
Derbyniodd yr aelodau
gyflwyniad ar y ddarpariaeth gwasanaethau a'r cynllunio adferiad presennol gan
y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
Castell-nedd Port Talbot, drwy gydol y cyfyngiadau symud, wedi darparu taliad
wythnosol o £19.50 i bob plentyn cofrestredig a oedd â hawl i Brydau Ysgol am
Ddim (PYDd) i sicrhau eu bod yn cyrraedd mwy o blant yn y gymuned. Nodwyd bod
bagiau casglu a mynd wedi’u darparu yn y gorffennol, fodd bynnag 20% yn unig
o'r disgyblion PYDd d defnyddiodd y rhain a bellach, drwy'r cynllun talu, roedd
95% o ddisgyblion PYDd yn derbyn prydau bwyd. Cadarnhaodd swyddogion fod
cyfanswm o £1.1 miliwn wedi'i dalu i deuluoedd cymwys hyd yma ac y byddai hyn
yn parhau drwy'r haf ac o bosib i bythefnos cyntaf y tymor newydd.
Fel y nodwyd yn y cyflwyniad a
ddosbarthwyd, mae'r Swyddogion yn disgwyl y byddai bron pob aelod o staff yn
gallu dychwelyd i'r gwaith ym mis Medi, er bod 12 aelod o staff addysgu'n
gwarchod ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai asesiadau risg yn
cael eu cynnal gan bob ysgol i egluro'r trefniadau ar gyfer y staff addysgu a
oedd yn gwarchod, fel eu bod yn gallu dychwelyd i'r gwaith ym mis Medi.
Ychwanegwyd y bydd ysgolion yn cynnal asesiadau risg ar gyfer pob gweithgaredd
ac y byddai hynny rhywbryd ar ddiwedd mis Awst (gyda dyddiad cau o 27 Awst
2020).
O ran cynhwysiant a lles,
dywedwyd y rhoddwyd cymorth i ddisgyblion drwy gydol y cyfyngiadau symud;
parhawyd â hyn gyda chymorth gwasanaeth TG y cyngor, a roddodd ddarpariaethau
ar waith yn gyflym iawn ac a roddodd yr offer hanfodol i'r timau i'w galluogi i
barhau i wasanaethu'r plant diamddiffyn yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y gwasanaeth cynhwysol wedi gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddatblygu'r gofrestr dysgwyr diamddiffyn a bod y staff wedi
cydweithio fel rhan o grŵp amlasiantaeth, i drafod darpariaeth, mynd i'r
afael â materion a sicrhau bod y gofrestr yn cael ei diweddaru'n wythnosol.
Ychwanegwyd bod y gwaith hwn yn bwysig iawn oherwydd y pryderon a oedd gan y
staff ynghylch plant diamddiffyn gartref; roedd y gofrestr yn cynnwys system
CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) i fesur risgiau'r plant a'r cymorth yr oeddent yn ei
dderbyn yn wythnosol, fel bod y staff yn gallu rhoi digon o gefnogaeth ar waith
lle'r oedd ei angen.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â chyfleusterau hamdden a oedd yn cynnwys llyfrgelloedd, Parc Margam a Hamdden
Celtic. Nodwyd bod y staff wedi cymryd ymagwedd ofalus iawn wrth ailagor
llyfrgelloedd a Pharc Margam a'u bod bob amser wedi dilyn canllawiau gan
Lywodraeth Cymru. Tynnodd swyddogion sylw at y rhaglen ailagor ar gyfer
llyfrgelloedd a ddisgrifiwyd yn y cyflwyniad, yn ogystal â sôn am drefniadau
ailagor Parc Margam, yr ymdriniwyd â hwy fesul cam.
O ran Hamdden Celtic, soniwyd
bod yr aelodau, ar 17 Mawrth 2020, wedi cytuno i gynnal proses gaffael a oedd
yn cynnwys cwblhau gwahoddiad i dendro am ddarparu gwasanaethau hamdden yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn unol â manyleb bresennol y gwasanaeth ac i
gychwyn ar broses dendro fel y nodir yn yr adroddiad; nodwyd bod y broses yn
parhau ac y bu cyfres o gyfarfodydd gyda'r ymgynghorydd, a oedd wedi bod yn
heriol i'w gwneud o bell. Ychwanegwyd bod 95% o'r dogfennau'n barod a
chynhigiwyd eu bod yn mynd i'r farchnad ym mis Medi 2020, er mwyn caffael i
sicrhau darparwr newydd, gyda'r bwriad o fynd yn ôl at Aelodau ym mis Ionawr
2021 i gael penderfyniad terfynol.
Oherwydd yr argyfwng, dywedwyd
ei bod hi’n anodd rhoi cynlluniau ar waith i ailagor cyfleusterau oherwydd
gallai amgylchiadau newid, ond dywedodd swyddogion eu bod yn deall y byddai
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi'n fuan y gallai cyfleusterau hamdden ailagor o
10 Awst 2020. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y swyddogion wedi gofyn i Hamdden
Celtic am gynllun agor, a fyddai'n cael ei rannu'n gamau ac yn cynnwys yr
asesiadau risg angenrheidiol; ychwanegwyd, pe bai'r cyhoeddiad yn digwydd, y
byddai'r prif gyfleusterau trefol yn agor yn gyntaf ac o fewn wythnos, y byddai
disgwyl i'r cymoedd a chyfleusterau cymunedol ailagor.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
glanhau ac arlwyo yn wasanaethau allweddol wrth sicrhau bod gan bobl hyder yn y
broses ailagor ysgolion yn ddiogel ac mewn modd hylan. Soniwyd y byddai'r
prosesau'n parhau i dymor yr hydref, yn enwedig o ran cyfarpar amddiffyn
personol.
Gofynnodd yr Aelodau sut roedd staff wedi cadarnhau pa ddisgyblion yr
oedd angen offer ychwanegol arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud, yn enwedig y
Chromebooks a'r gliniaduron. Esboniwyd bod gan ysgolion gryn ddealltwriaeth o
anghenion disgyblion, felly nhw fu’n gwneud y penderfyniadau ynghylch ble roedd
angen darparu'r cyfarpar. Soniwyd bod y buddsoddiad ychwanegol, a oedd ar gael
drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, yn golygu bod cannoedd o liniaduron a
Chromebooks wedi cael eu dosbarthu i'r plant. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod 1,500 o liniaduron, iPads a Chromebooks yn cael eu storio ar hyn o
bryd, a fyddai'n cael eu darparu i ysgolion ac roedd cynllun ar waith i archebu
gwerth £1.3miliwn o offer TG o'r un ffynhonnell grant. Nodwyd bod
trafodaethau'n cael eu cynnal gydag ysgolion i benderfynu pa offer yr oedd ei
angen, gydag ysgolion uwchradd yn gobeithio darparu Chromebook i bob plentyn
i'w alluogi i gynllunio ar gyfer dysgu parhaus, ond soniodd swyddogion y byddai
angen cadarnhau cost hyn cyn y gellid ei gadarnhau. O ran ysgolion cynradd,
roedd trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch pa lefel o ddarpariaethau y byddai
eu hangen ar bob cyfnod allweddol a chydnabuwyd
nad oedd angen i bob plentyn gael darn o gyfarpar yr un ar hyn o bryd.
Gofynnwyd i swyddogion a oedd
ysgolion mewn sefyllfa i ymdopi ag unrhyw newidiadau cyfeiriad sydyn, newydd ac
a oedd disgwyl iddynt ddarparu ar gyfer dysgu mwy cyfunol, ac a ellid gwneud
hynny'n gyflym. Esboniwyd mai'r disgwyliad presennol oedd y byddai pob ysgol
wedi agor i bob disgybl, o'r dosbarth meithrin hyd at ddiwedd cyfnod allweddol
5 erbyn 14 Medi 2020. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod ysgolion wedi
agor yn ddiweddar yn ystod yr wythnosau diwethaf, a bod presenoldeb tua 55-60%
o boblogaeth y disgyblion; nodwyd mai'r agwedd ar hyn a oedd yn peri gofid oedd
nad oedd disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn mynychu ar yr un
gyfradd â'r disgyblion nad oedd ganddynt hawl i gael prydau ysgol am ddim ac o
fis Medi ymlaen, byddai angen cynnal asesiadau o anghenion y plant hynny. O ran
dysgu cyfunol, dywedodd swyddogion mai'r hyn sydd bwysicaf yw bod technoleg yn
cael ei defnyddio fel llwyfan i ganiatáu addysgu effeithiol, a dylai bob amser
ymwneud ag egwyddorion craidd dysgu da sy'n cynnwys ymgysylltiad cryf rhwng
disgyblion a'r athro, adborth da o ran sicrhau cynnydd dysgu a sicrhau bod y
camau nesaf yn cael eu cynllunio, yn seiliedig ar ddealltwriaeth pob disgybl
unigol. Ychwanegwyd y dylai'r egwyddorion hyn fod ar waith ni waeth beth yw'r
dull o ddarparu'r addysgu.
Gofynnwyd a oedd dyddiad
wedi'i bennu ar gyfer ailagor llyfrgelloedd y cymoedd a'r cymunedau, yn enwedig
ar gyfer mynediad at eu cyfleusterau rhyngrwyd. Eglurodd swyddogion nad oedd
dyddiad wedi'i bennu ar hyn o bryd, ac fel y soniwyd eisoes, roedd ymagwedd
ofalus yn cael ei defnyddio wrth ailagor gwasanaethau ac roedd cyfyngiadau o
ran staffio oherwydd roedd rhai aelodau o staff wedi derbyn llythyrau gwarchod.
Cytunwyd y byddai Andrew Thomas, Pennaeth Trawsnewid, yn cael rhagor o
wybodaeth am ailagor llyfrgelloedd y cymoedd ac yn cadarnhau hyn gyda'r
Cynghorydd Del Morgan.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
unrhyw gynlluniau ar waith i ailagor theatrau yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ailagor theatrau, ond
roedd cynlluniau i ailagor Neuadd Gwyn fel cyfleuster sinema ar 17 Awst 2020.
Dywedwyd na fyddai'n ariannol ddichonadwy i ailagor theatrau gyda'r mesurau
cadw pellter cymdeithasol cyfredol ar waith. Yn dilyn hyn, gofynnwyd a oedd
unrhyw opsiynau o ran agor cyfleusterau, megis Canolfan Celfyddydau Pontardawe,
y gellid eu defnyddio fel canolfannau cymunedol. Eglurodd swyddogion fod gallu
i wneud hyn ac y gellid ei gynllunio dros amser gydag asesiadau risg sylweddol
ar waith; fodd bynnag, roedd holl staff Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi'u
hadleoli i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, sy'n wasanaeth hollbwysig i'w
gefnogi. Soniwyd bod staff newydd yn cael eu recriwtio ar gyfer y gwasanaeth
hwn ar hyn o bryd, ac o ganlyniad, gallai staff a oedd wedi'u hadleoli ddechrau
dychwelyd i'w swyddi gwreiddiol.
Gofynnwyd i swyddogion pwy
sy'n hwyluso Aqua Splash Aberafan ac a oedd bwriad i’w ailagor eleni. Nodwyd
bod Hamdden Celtic yn hwyluso'r parc sblasio ac nad oedd ganddo unrhyw
gynlluniau i'w agor ar hyn o bryd oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i'w
gomisiynu (tua thair wythnos), a'r ffaith bod y parc sblasio’n cau ar gyfer yr hydref/gaeaf
yng nghanol mis Medi. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi gofyn am
gynlluniau ailagor Hamdden Celtic ar gyfer pob cyfleuster ac y byddai barn yn
cael ei chymryd pan gyflwynir y cynlluniau hyn i swyddogion.
Trafodwyd y nifer mawr o bobl
a fanteisiodd ar ddarpariaeth yr haf. Nodwyd bod y ddarpariaeth gyntaf wedi'i
thargedu at oddeutu 150 o blant, yn seiliedig ar y gofrestr dysgwyr
diamddiffyn, a oedd fwyaf mewn perygl yn ôl yr asesiad ar y cyd. Esboniodd
swyddogion fod y ddarpariaeth wedi'i rhannu'n dair adran. Yr adran gyntaf oedd
yr un fwyaf dwys a fyddai'n cynnwys galwadau ffôn gan y Gwasanaethau
Cymdeithasol a thynnu plant allan o'r cartref bob dydd a’r drydedd yn cael ein
thargedu at ar y rheini byddai angen eu tynnu allan o'r cartref unwaith yr
wythnos efallai i gymryd rhan mewn gweithgareddau mwy penodol. Nodwyd bod
rhaglen gyfoethogi'r haf yn targedu disgyblion blwyddyn 5 a 6 y sector cynradd,
gyda'r potensial i gynnwys oddeutu 900 o blant. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y
broses gofrestru ar gyfer y rhaglen yn parhau, ond nid oedd y nifer oedd yn
manteisio ar y rhaglen mor uchel ag yr oedd swyddogion wedi gobeithio, gydag
oddeutu 50% yn manteisio arni ar hyn o bryd. Cadarnhawyd y byddai swyddogion yn
cysylltu ag ysgolion i gysylltu â theuluoedd plant i geisio cynyddu'r nifer
sy'n manteisio ar y rhaglen, gan y byddai'r broses gofrestru'n dod i ben ar
ddiwedd yr wythnos; fodd bynnag, os na fydd y niferoedd wedi newid yn
sylweddol, gellid ymestyn y dyddiad cau er mwyn gallu canolbwyntio ar ystod
ehangach o ddisgyblion.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor
o wybodaeth ynghylch y sefyllfa bresennol Cymunedau am Waith (CFW) a'r Rhaglen
Datblygu Gwledig (RhDG) a’u ffocws yn y dyfodol. Dywedodd swyddogion eu bod yn
pryderu'n fawr am effaith yr argyfwng ar ddiweithdra a diffyg diddordeb ymysg
pobl ifanc. Nodwyd bod 43 o bobl ifanc
nad oeddent mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) y llynedd, ac roedd
y swyddogion yn credu y gallai'r ffigur hwn gynyddu 300%. Soniwyd bod
swyddogion yn pryderu am nifer o faterion gan gynnwys y ffaith nad oedd y bobl
ifanc wedi bod yn yr ysgol ers diwedd mis Mawrth 2020, na fyddent yn sefyll eu
harholiadau ac y byddent yn derbyn eu graddau’n seiliedig ar asesiadau
athrawon. Tynnwyd sylw at y ffaith y gallai chwyddiant graddau gael effaith ar
rai disgyblion sy'n symud ymlaen i addysg bellach, wrth i CBAC a Chymwysterau
Cymru roi algorithm ar waith sy'n edrych ar berfformiad pob ysgol yn y
gorffennol dros y tair blynedd diwethaf, ac os ydynt yn credu bod chwyddiant
graddau wedi digwydd, byddant yn dadchwyddo'r graddau. Soniodd swyddogion hefyd
na fyddai'r broses o ailsefyll arholiadau mor helaeth ag y bu yn y gorffennol,
gan y byddai’n berthnasol i'r pynciau craidd yn unig ac nid y meysydd pwnc
ehangach. Dywedwyd mai pryder arall oedd y bobl ifanc a fyddai'n chwilio am
waith a/neu brentisiaethau yn y farchnad lafur, gan ei fod ar hyn o bryd yn
farchnad a oedd yn wynebu cryn heriau ac nid oedd pobl ifanc yn debygol o gael
yr un ystod o ddewis ag y byddent wedi'i gael yn y gorffennol. Fodd bynnag,
hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a
Phensiynau (DWP) i sefydlu fforwm ieuenctid ar gyfer yr awdurdod lleol, a fydd
yn dod â’r gwasanaeth ieuenctid, colegau ac adrannau o fewn y cyngor ynghyd i
geisio manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd dysgu a chyflogaeth i bobl ifanc.
Ychwanegwyd eu bod hefyd yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd
prentisiaeth i bobl ifanc gan gynnwys yn yr Heddlu a’r sector Iechyd.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i
nodi'r adroddiad.
Diolchodd y pwyllgor i'r
gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes am ei holl waith caled yn ystod
argyfwng COVID-19.
Dogfennau ategol: