Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 30ain Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Multi Location Hybrid Micosoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunodd y Cadeirydd, a hysbysodd bawb, y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn i'r Ymgeisydd a Deiliad y Drwydded drafod rhagor o fanylion am yr amodau arfaethedig.

 

3.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100B(4)(b) of the Local Government Act 1972.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Cais i Adolygu Trwydded Safle - The Other Place Pontardawe. pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais gan Iechyd yr Amgylchedd i adolygu trwydded mangre ar gyfer The Other Place (Live Lounge)

Enw'r fangre

The Other Place (Live Lounge)

Cyfeiriad y fangre

9 Heol Ynysderw, Pontardawe,
Abertawe SA8 4EG

Enw'r ymgeisydd

Rachel Matthews - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG

Enw deiliad trwydded y Fangre

HD Pub Investments Ltd

Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Mr Hans Andrei Dionisio Erive

 

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrth benderfynu ar yr adolygiad, y dylid addasu amodau'r Drwydded Mangre, yn unol ag a52(4)(a) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gydag amodau ychwanegol i gefnogi'r Amcanion Trwyddedu.

 

I'w ddileu (o Atodiad 2)

Dileu'r amodau canlynol o'r Drwydded Mangre, sef:

a.   Amod 2 - Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth bod cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae; ac

b.   Amod 4 - Darparu dyfais cyfyngu sain sy'n weithredol pryd bynnag y bydd cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae.

 

I'w hatodi (i Atodiad 3)

Ychwanegu'r amodau canlynol i'r Drwydded Mangre, sef:

a.   Drwy rinwedd a177A o Ddeddf Trwyddedu 2003, bydd amodau'r Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant wedi'i reoleiddio mewn grym rhwng 08:00 a 23:00.

 

b.   Rhaid cadw'r holl ffenestri a'r drysau allanol ar gau ar unrhyw adeg pan fydd adloniant wedi'i reoleiddio yn cael ei gynnal ac eithrio i ganiatáu i bobl ddod i mewn neu adael yn syth.

 

c.   Ni chynhelir adloniant wedi'i reoleiddio, ar ffurf cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio ("Adloniant"), yn y fangre hyd nes y bydd Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar waith.

 

Darperir copi o'r Asesiad Effaith Sŵn, ynghyd â'r dystiolaeth ategol y cydymffurfiwyd â'r gofynion, i'r awdurdod lleol i'w cymeradwyo'n ysgrifenedig cyn i'r adloniant ddechrau.

 

I gydymffurfio â'r uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod:

                                     i.        Rhaid i ymgynghorydd acwstig, a fydd yn aelod o'r Association of Noise Consultants ac yn aelod o'r Institute of Acoustics, gynnal yr Asesiad Effaith Sŵn.

                                    ii.        Bydd methodoleg yr Asesiad Effaith Sŵn yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU, a'r Sefydliad Safonau Prydeinig, ac yn cael ei chytuno â'r awdurdod lleol cyn i'r asesiad ddechrau.

                                  iii.        Cyn rhoi’r mesurau rheoli ar waith, bydd yr awdurdod lleol yn cael cyfle i adolygu a rhoi sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn, a’i argymhellion.

 

Ni chaniateir unrhyw adloniant, p'un ai ei fod wedi'i recordio neu ei fod dan nawdd dadreoleiddio Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012, ar ffurf cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi’i recordio ym mar blaen y fangre hyd nes bod Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar waith.

 

I gydymffurfio â'r uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod:

                                     i.        Rhaid i ymgynghorydd acwstig,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau atodol - atodiad 1, 2 a 3 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygwyd Atodiadau 1, 2 a 3 fel rhan o'r pecyn atodol a ddosbarthwyd.

 

6.

Ategu amodau sŵn pdf eicon PDF 576 KB

Cofnodion:

Proseswyd a chyhoeddwyd Atodiad 4 o'r eitemau atodol yn ystod y cyfarfod.