Cofnodion:
Gofynnwyd i aelodau ystyried cais gan Iechyd yr Amgylchedd i adolygu
trwydded mangre ar gyfer The Other Place (Live Lounge)
Enw'r fangre |
The Other Place (Live Lounge) |
Cyfeiriad y fangre |
9 Heol Ynysderw, Pontardawe, |
Enw'r ymgeisydd |
Rachel Matthews - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd |
Cyfeiriad yr ymgeisydd |
Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Castell-nedd Port
Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG |
Enw deiliad trwydded y Fangre |
HD Pub Investments Ltd |
Goruchwyliwr Mangre Dynodedig |
Mr Hans Andrei Dionisio Erive |
Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrth benderfynu ar yr adolygiad, y dylid addasu
amodau'r Drwydded Mangre, yn unol ag a52(4)(a) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gydag
amodau ychwanegol i gefnogi'r Amcanion Trwyddedu.
I'w
ddileu (o Atodiad 2)
Dileu'r amodau canlynol o'r Drwydded Mangre, sef:
a. Amod 2 - Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth
bod cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae; ac
b. Amod 4 - Darparu dyfais cyfyngu sain sy'n weithredol pryd
bynnag y bydd cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae.
I'w
hatodi (i Atodiad 3)
Ychwanegu'r amodau canlynol i'r Drwydded Mangre, sef:
a. Drwy rinwedd a177A o Ddeddf Trwyddedu 2003, bydd amodau'r
Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant wedi'i reoleiddio mewn grym rhwng
08:00 a 23:00.
b. Rhaid cadw'r holl ffenestri a'r drysau allanol ar gau ar
unrhyw adeg pan fydd adloniant wedi'i reoleiddio yn cael ei gynnal ac eithrio i
ganiatáu i bobl ddod i mewn neu adael yn syth.
c. Ni chynhelir adloniant wedi'i reoleiddio, ar ffurf
cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio ("Adloniant"),
yn y fangre hyd nes y bydd Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y
fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith
Sŵn a bod y mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar
waith.
Darperir copi o'r
Asesiad Effaith Sŵn, ynghyd â'r dystiolaeth ategol y cydymffurfiwyd â'r
gofynion, i'r awdurdod lleol i'w cymeradwyo'n ysgrifenedig cyn i'r adloniant
ddechrau.
I gydymffurfio â'r
uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod:
i.
Rhaid i ymgynghorydd
acwstig, a fydd yn aelod o'r Association of Noise Consultants ac yn
aelod o'r Institute of Acoustics, gynnal yr Asesiad Effaith Sŵn.
ii.
Bydd
methodoleg yr Asesiad Effaith Sŵn yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU,
a'r Sefydliad Safonau Prydeinig, ac yn cael ei chytuno â'r awdurdod lleol cyn
i'r asesiad ddechrau.
iii.
Cyn rhoi’r
mesurau rheoli ar waith, bydd yr awdurdod lleol yn cael cyfle i adolygu a rhoi
sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn, a’i argymhellion.
Ni chaniateir unrhyw adloniant, p'un ai ei fod wedi'i recordio neu ei fod
dan nawdd dadreoleiddio Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012, ar ffurf cerddoriaeth fyw
neu gerddoriaeth wedi’i recordio ym mar blaen y fangre hyd nes bod
Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig
annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y mesurau rheoli a
argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar waith.
I gydymffurfio â'r
uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod:
i.
Rhaid i
ymgynghorydd acwstig, a fydd yn aelod o'r Association of Noise Consultants ac
yn aelod o'r Institute of Acoustics, gynnal yr Asesiad Effaith Sŵn.
ii.
Bydd
methodoleg yr Asesiad Effaith Sŵn yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU,
a'r Sefydliad Safonau Prydeinig, ac yn cael ei chytuno â'r awdurdod lleol cyn
i'r asesiad ddechrau.
iii.
Cyn rhoi’r
mesurau rheoli ar waith, bydd yr awdurdod lleol yn cael cyfle i adolygu a rhoi
sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn, a’i argymhellion.
Pe bai newid mawr yn yr amgylchedd sŵn lleol, bydd ymgynghorydd
acwstig Deiliad y Drwydded Mangre yn cynnal Asesiad Effaith Sŵn
amgylchynol pellach. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid oes disgwyl i lefelau
sŵn amgylchynol newid blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Caniateir adloniant yn unol â'r Asesiad Effaith Sŵn. Mae'r holl
adloniant yn y bar cefn yn amodol ar y Cynllun Rheoli Sŵn y cytunwyd arno,
ac yn cael ei ddarparu drwy'r cyfyngydd sŵn a osodir ar lefel y cytunwyd
arni gydag Is-adran Iechyd yr Amgylchedd.
Rhaid i adloniant, yn y bar cefn, gael ei gynnal rhwng yr oriau 19:00 a
22:30, a chaniateir un digwyddiad yn unig fesul mis calendr. Ni chynhelir
unrhyw ddigwyddiad ar benwythnosau olynol ac eithrio mis Rhagfyr, lle caniateir
dau ddigwyddiad, ond nid ar ddiwrnodau olynol. Sylwer: yn unol â Rheoliad 33
o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005, mae'r cyngor wedi cywiro gwall
sy'n deillio o'r Hysbysiad Penderfyniad (3 Chwefror 2023) o gamgymeriad neu
hepgoriad damweiniol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ac i'w wneud yn
glir, mae’r geiriau, "yn y bar cefn", wedi’u cynnwys fel y cytunwyd
ar 30 Ionawr 2023.
Bydd Cynllun Rheoli Sŵn – un yr un ar gyfer y bar blaen a chefn – yn
cael ei gyflwyno i’w archwilio a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan Swyddogion yr
awdurdod lleol. Rhaid dilyn y Cynllun Rheoli Sŵn a gymeradwywyd a
chydymffurfio ag ef yn llawn. Bydd y mesurau rheoli a nodir yn y Cynllun Rheoli
Sŵn yn cael eu rhoi ar waith bob amser pan fydd y fangre'n cynnal
adloniant. Bydd y Cynllun Rheoli Sŵn yn:
i.
Diffinio’n
glir y mesurau i’w cymryd i gyflawni (e.e. ymlediad, cyfrifo, mapio sain neu
debyg), a sicrhau cydymffurfiaeth (e.e. monitro lleoliadau/sylwadau) â’r Lefel
Sŵn Cerddoriaeth y cytunwyd arni o fewn y fangre.
ii.
Darparu
manylion ynghylch sut mae Deiliad y Drwydded Mangre'n bwriadu sicrhau y
cydymffurfir ag amodau sŵn ar draws y fangre.
iii.
Diffinio'n
glir y trefniadau monitro sŵn a'r lleoliadau i'w monitro, er mwyn
penderfynu ar gydymffurfiaeth â'r Amcanion Trwyddedu.
iv.
Ystyried
gweithgareddau sensitif eraill y gallai'r digwyddiad[au] effeithio arnynt.
v.
Diffinio'r
trefniadau'n glir i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Amcanion Trwyddedu drwy gydol y
digwyddiad(au], a rhaid i'r rheolwyr trefniadol sicrhau hynny hefyd.
vi.
Manylu'r
camau unioni lle/os ystyrir bod cerddoriaeth wedi dianc yn amhriodol.
vii.
Diffinio'n
glir y trefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i gwynion gan y gymuned am sŵn
a phroblemau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwaith paratoi, a chlirio isadeiledd
y fangre ynghyd â’r digwyddiad ei hun.
Cedwir cofnod ysgrifenedig o'r holl gwynion, yn cynnwys: y dyddiad a'r
amser y derbyniwyd y gŵyn; manylion cyswllt yr achwynydd; manylion y
person sy'n derbyn y gŵyn; manylion y gŵyn; manylion yr ymchwiliad a
gynhaliwyd; a'r dyddiad a'r amser y darparwyd unrhyw adborth i'r achwynydd.
Ni fydd unrhyw sain allanol wedi'i mwyhau mewn ardaloedd allanol o’r
fangre, gan gynnwys yr ardd gwrw a’r maes parcio, ac eithrio un penwythnos
digwyddiad y flwyddyn (y "Digwyddiad"), y disgwylir
iddo fod yn benwythnos gŵyl Pontardawe:
i.
Ar ddydd
Gwener: 18:00 – 23:00
ii.
Ar ddydd
Sadwrn: 13:00 – 23:00
iii.
Ar ddydd Sul:
13:00 – 23:00
Neu
awr olaf yr ŵyl, p'un bynnag fydd gynharaf.
Ni chaniateir i siaradwyr fod wrth fynedfa nac allanfa'r fangre, na thu
allan i'r adeilad, ac eithrio ar gyfer y digwyddiad.
Rhoddir rhybudd o wyth niwrnod ar hugain (28) o’r digwyddiad a'r
gweithgareddau i Is-adran Iechyd yr Amgylchedd, a Gwasanaethau Rheoleiddiol
Cyfreithiol, yr awdurdod lleol.
Rhoddir rhybudd o wyth niwrnod ar hugain (28) o’r digwyddiad a'r
gweithgareddau i’r holl breswylwyr o fewn cyffiniau'r fangre. Mae hyn yn
cynnwys: pob eiddo ar Francis Steet; a phob eiddo hyd at, ac yn cynnwys, 36
Ynysderw Road.
Bydd Deiliad Trwydded y Fangre, neu berson enwebedig, yn cynnal arsylwadau
sŵn rhagweithiol y tu allan i’r fangre o leiaf unwaith yr awr wrth fod
adloniant yn cael ei ddarparu a bydd yn cymryd unrhyw gamau adferol
angenrheidiol.
Cedwir cofnod ysgrifenedig o arsylwadau sŵn rhagweithiol y tu allan
i'r fangre o'r amseroedd, y dyddiadau, unrhyw broblemau a ddarganfuwyd a, lle y
bo'n berthnasol, pa gamau unioni a gymerwyd. Cedwir y cofnodion hyn am o leiaf
dri deg un (31) diwrnod. Rhaid sicrhau bod y cofnodion ar gael, ar gais, i'w harchwilio
gan swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol bob amser pan fydd y fangre ar
agor.
Bydd Deiliad y Drwydded Mangre yn sicrhau bod unrhyw berfformiwr
(adloniant) yn cael gwybod am yr amodau sŵn sydd wedi'u cynnwys yn y
Drwydded Mangre. Bydd gofyn i'r perfformiwr gydymffurfio ag unrhyw
gyfarwyddiadau a roddir iddo gan Ddeiliad y Drwydded Mangre a/neu'r
ymgynghorydd acwstig.
Bydd polisi gwasgaru yn cael ei lunio gan Ddeiliad y Drwydded Mangre a'i
gyflwyno i'r Gwasanaeth Rheoleiddio Cyfreithiol i'w gymeradwyo. Bydd y polisi
yn cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i) mesurau i: reoli sŵn; ac i reoli
ymadawiad cwsmeriaid. Unwaith y cytunir arnynt yn ysgrifenedig gan y Gwasanaeth
Rheoleiddio Cyfreithiol, bydd Deiliad y Drwydded Mangre yn rhoi'r polisi ar
waith.
Dogfennau ategol: