Lleoliad: Multi Location Hybrid Micosoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cytunodd y Cadeirydd, a hysbysodd bawb, y byddai'r
cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn i'r Ymgeisydd a Deiliad y Drwydded drafod
rhagor o fanylion am yr amodau arfaethedig. |
|||||||||||||
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section
100B(4)(b) of the Local Government Act 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||
Cais i Adolygu Trwydded Safle - The Other Place Pontardawe. PDF 277 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnwyd i aelodau ystyried cais gan Iechyd yr Amgylchedd i adolygu
trwydded mangre ar gyfer The Other Place (Live Lounge)
Penderfynodd yr Is-bwyllgor wrth benderfynu ar yr adolygiad, y dylid addasu
amodau'r Drwydded Mangre, yn unol ag a52(4)(a) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gydag
amodau ychwanegol i gefnogi'r Amcanion Trwyddedu. I'w
ddileu (o Atodiad 2) Dileu'r amodau canlynol o'r Drwydded Mangre, sef: a. Amod 2 - Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth
bod cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae; ac b. Amod 4 - Darparu dyfais cyfyngu sain sy'n weithredol pryd
bynnag y bydd cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae. I'w
hatodi (i Atodiad 3) Ychwanegu'r amodau canlynol i'r Drwydded Mangre, sef: a. Drwy rinwedd a177A o Ddeddf Trwyddedu 2003, bydd amodau'r
Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant wedi'i reoleiddio mewn grym rhwng
08:00 a 23:00. b. Rhaid cadw'r holl ffenestri a'r drysau allanol ar gau ar
unrhyw adeg pan fydd adloniant wedi'i reoleiddio yn cael ei gynnal ac eithrio i
ganiatáu i bobl ddod i mewn neu adael yn syth. c. Ni chynhelir adloniant wedi'i reoleiddio, ar ffurf
cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio ("Adloniant"),
yn y fangre hyd nes y bydd Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y
fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith
Sŵn a bod y mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar
waith. Darperir copi o'r
Asesiad Effaith Sŵn, ynghyd â'r dystiolaeth ategol y cydymffurfiwyd â'r
gofynion, i'r awdurdod lleol i'w cymeradwyo'n ysgrifenedig cyn i'r adloniant
ddechrau. I gydymffurfio â'r
uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod:
i.
Rhaid i ymgynghorydd
acwstig, a fydd yn aelod o'r Association of Noise Consultants ac yn
aelod o'r Institute of Acoustics, gynnal yr Asesiad Effaith Sŵn.
ii.
Bydd
methodoleg yr Asesiad Effaith Sŵn yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU,
a'r Sefydliad Safonau Prydeinig, ac yn cael ei chytuno â'r awdurdod lleol cyn
i'r asesiad ddechrau.
iii.
Cyn rhoi’r
mesurau rheoli ar waith, bydd yr awdurdod lleol yn cael cyfle i adolygu a rhoi
sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn, a’i argymhellion. Ni chaniateir unrhyw adloniant, p'un ai ei fod wedi'i recordio neu ei fod
dan nawdd dadreoleiddio Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012, ar ffurf cerddoriaeth fyw
neu gerddoriaeth wedi’i recordio ym mar blaen y fangre hyd nes bod
Deiliad y Drwydded Mangre a/neu berchennog y fangre yn comisiynu ymgynghorydd acwstig
annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y mesurau rheoli a
argymhellir yn yr asesiad yn cael eu rhoi ar waith. I gydymffurfio â'r
uchod, rhaid bodloni'r meini prawf isod: i. Rhaid i ymgynghorydd acwstig, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
Eitemau atodol - atodiad 1, 2 a 3 PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adolygwyd Atodiadau 1, 2 a 3 fel rhan o'r pecyn
atodol a ddosbarthwyd. |
|||||||||||||
Cofnodion: Proseswyd a chyhoeddwyd Atodiad 4 o'r eitemau
atodol yn ystod y cyfarfod. |