Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 16/03/2021
Penderfyniad:
Nododd yr
Aelodau nad oedd yn ofynnol cynnal Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Penderfyniad:
Rhoddir y
gymeradwyaeth honno i roi grantiau i fusnesau cymwys ar gyfer 2020/2021 fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac yn unol â'r canllawiau a dderbyniwyd
oddi wrth Llywodraeth Cymru.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Galluogi'r
cyngor i wneud taliadau i fusnesau cymwys yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 21/03/2021
Wards affected: Onllwyn; Seven Sisters;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 21/03/2021
Penderfyniad:
Nododd yr
Aelodau y dylai'r Polisi Sylwadau, Canmoliaethau a Chwynion ddarllen 2021 ac
nid 2024, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
ystyriaeth briodol i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo’r
Polisi Sylwadau, Canmoliaethau a Chwynion diwygiedig fel y nodir yn Atodiad 1
i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau bod
gan y cyngor ymagwedd gyson wrth ymdrin â sylwadau, canmoliaethau a chwynion a
sicrhau bod arferion a gweithdrefnau'r cyngor ar gyfer ymdrin â chwynion yn
unol â Phroses ac Arweiniad Trin Cwynion Model Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Cymru o dan Adran 38 o Ddeddf Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Bod Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi Flynyddol, y Polisi Darpariaeth
Isafswm Refeniw a Dangosyddion Darbodus, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu hargymell i'r cyngor i'w cymeradwyo.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Galluogi'r
Awdurdod i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi
Flynyddol, Strategaeth Gyfalaf a Pholisi Darpariaeth Isafswm Refeniw fel sy'n
ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chôd Darbodus ar gyfer Cyllid
Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (2017).
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
ystyriaeth briodol i'r Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd;
1. Dirprwyo'r materion canlynol i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod
Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol:-
·
Ffïoedd a thaliadau sy'n gymwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022
·
Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen
penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
2. Bod sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb
2020/2021 yn cael ei hargymell i'r cyngor i gymeradwyo sefyllfa a threfniadau
diwygiedig y gyllideb ar gyfer 2020/2021.
3. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r
cyngor i'w cymeradwyo:
a) Y sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig
ddiweddaraf ar gyfer 2020/2021 a'r trefniadau ar gyfer 2020/2021;
b) Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2021/2022.
Ystyried effeithiau'r Asesiad Effaith Integredig a Throsedd ac Anhrefn wrth
benderfynu ar y gyllideb ar gyfer 2021/2022.
c) Cymeradwyo gofynion y Gyllideb
Refeniw Net ar gyfer 2021/2022, a chynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer cyflwyno’r
cyllidebau.
ch) Cymeradwyo'r arbedion yn y gyllideb/blaengynllun
ariannol a amlinellir yn Atodiad
4 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
d) Cyfarwyddo Cyfarwyddwyr
Corfforaethol i weithredu'r arbedion a'r rhaglen wella ar gyfer yr Awdurdod.
4. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r
cyngor i'w cymeradwyo:
a)
Dirprwyo ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor,
y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol.
b)
Ffïoedd a thaliadau sy'n gymwys yn 2021/2022
c)
Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt
cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
5.
Bod y swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 2021/2021 Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o £1,660.02, yn cael ei argymell i'r
cyngor i'w gymeradwyo.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i gyflawni ei ofyniad statudol i benderfynu ar gyllideb
ar gyfer 2021/2022.
Sicrhau cefnogaeth i Flaengynllun Ariannol y cyngor a rhoi trefniadau ar
waith ar gyfer talu Ffïoedd a Thaliadau.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ymgysylltu helaeth rhwng 13 Ionawr 2021 a 12
Chwefror 2021 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1. Argymell y Strategaeth Gyfalaf a
Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/2022 i 2023/2024, fel a nodwyd yn Atodiad 2 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd i'r cyngor i'w chymeradwyo;
2. Caiff y Rhaglen Gyfalaf ei hadolygu
a'i diweddaru dros y flwyddyn sydd i ddod.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Cymeradwyo
Rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod yn unol â'r Cyfansoddiad.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau
1. Bod y symudiadau o ran arian wrth
gefn fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu cymeradwyo;
2. Bod y trosglwyddiadau o ran arian
wrth gefn sy'n fwy na £500,000 yn cael eu hargymell i'r cyngor i'w cymeradwyo.
3. Bod y materion gweithredol ac
ariannol fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu nodi;
4. Bydd y cyngor yn parhau i weithio
gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a chyfeiriadau, i
gyflwyno gwasanaethau yn ystod yr adeg heriol hon;
5. Bod y grantiau ychwanegol a
dderbyniwyd yn cael eu nodi;
6. Bod y cyngor yn parhau i geisio
cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am ganlyniadau COVID-19.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Diweddaru
Cyllideb y cyngor ar gyfer 2020/2021 a rhoi gwybod i'r Aelodau am y risgiau
ariannol sy'n deillio o COVID-19.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/03/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/04/2021
Effective from: 08/03/2021
Penderfyniad:
Derbyniodd
yr Aelodau ddiweddariad llafar y dylai rhoi'r penderfyniad ar waith fod wedi
nodi i'w weithredu ar unwaith ac nid fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer y
cyfnod galw i mewn o dridiau.
Penderfyniadau:
1. Bod Rhaglen Gyfalaf 2020/2021 yn
cael ei hargymell i'r cyngor i'w chymeradwyo.
2. Cymeradwyo cyllideb 2020/2021 gwerth
cyfanswm o £65.387m;
3. Nodi'r £39.1m o wariant ar 31 Ionawr
2021.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Diweddaru
Rhaglen Gyfalaf y cyngor ar gyfer 2020/2021.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/01/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 31/03/2021
Effective from: 22/01/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Bod egwyddorion cytundeb y
Cynllun Argyfwng Bysiau 2 fel y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd
yn cael eu cymeradwyo i sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysiau ac
i sefydlu perthynas â'r awdurdod arweiniol rhanbarthol a'r llofnodwr, sy'n
sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn cyflawni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn
cael ei ddarparu ar ei ran.
2.
Rhoddir yr awdurdod
dirprwyedig hwnnw i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a'r Pennaeth Peirianneg
a Thrafnidiaeth mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod Cabinet perthnasol i
ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Gwirfoddol ymbarél newydd gyda Thrafnidiaeth
Cymru Llywodraeth Cymru, y cynghorau a'r gweithredwyr rhanbarthol cyfansoddol
yn ôl y gofyn.
3.
Bod y broses gaffael bresennol
a'r ymgynghoriad ar gyfer y rhwydwaith bysiau lleol cymorthdaledig yn cael eu
terfynu a bod y trefniadau contract presennol yn cael eu hestyn gyda
gweithredwyr am gyfnod o flwyddyn hyd at 31 Awst 2022 ac eithrio gofynion Rheol
11 o'r Rheolau Caffael Contractau.
4.
Bod adroddiad ar y cynigion i
ddiwygio bysiau sy'n ymwneud â rheoli'r gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y
dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yng Ngwanwyn 2021.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Sicrhau'r cyllid ar
gyfer gweithredwyr bysiau tra bo nawdd yn isel ac wrth i'r pandemig effeithio
ar wasanaethau.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau
i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Ymgynghoriad:
Ymgynghorwyd yn llawn â
phartneriaid rhanbarthol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Gymdeithas
Swyddogion Cydlynu Trafnidiaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 31/03/2021
Effective from: 24/02/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod y rhestr o Gamau Brys yn cael ei nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 31/03/2021
Effective from: 24/02/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod y cynnydd hanner blwyddyn a wnaed ar y Cynllun
Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer 2020-2021 ar gyfer y
cyfnod rhwng 1 Awst a 31 Ionawr 2021 fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd yn cael ei nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 31/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Nododd yr Aelodau nad
oedd yn ofynnol cynnal Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Penderfyniadau:
1.
Nodi'r cynnydd a wnaed yn
erbyn y camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg ar
gyfer y cyfnod Hydref 2019 – Mawrth 2020.
2.
Cymeradwyo'r trefniadau adrodd
newydd fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i
fodloni gofynion statudol y Gymraeg.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/02/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 31/03/2021
Effective from: 01/03/2021
Penderfyniad:
Nododd yr Aelodau nad
oedd yn ofynnol cynnal Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo Cynllun
Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 ac Adroddiad Blynyddol 2019-2020.
2.
Bod y Pennaeth Datblygu Dynol
a Sefydliadol yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau y gallai
fod eu hangen i'r Adroddiad Blynyddol cyn cyhoeddi, ar yr amod nad yw
newidiadau o'r fath yn newid cynnwys y ddogfen a ystyriwyd gan y Cabinet yn
sylweddol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Bodloni'r
gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau
Statudol) (Cymru) 2011.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.