Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

13/05/2021 - Five Year West Glamorgan Regional Carers Strategy ref: 2571    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/05/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/05/2021

Effective from: 13/05/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir cefnogi Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Pum Mlynedd Gorllewin Morgannwg a’r ddogfen ganllaw Cyfeirio Cyflym.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Gwella ymhellach y broses o nodi, cydnabod a chefnogi gofalwyr ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Wards affected: (All Wards);


13/05/2021 - Welsh Government Housing Capital Grant Programme ref: 2570    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/05/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/05/2021

Effective from: 13/05/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

Wards affected: (All Wards);


13/05/2021 - Regional Co-Production Pack For The Regional Partnership ref: 2569    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/05/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/05/2021

Effective from: 13/05/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, sy'n cynnwys Fframwaith Cyd-gynhyrchu, Pecyn Cymorth Cyd-gynhyrchu a Siarter Cyd-gynhyrchu.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Gwella cyd-gynhyrchu ymhellach wrth ymgymryd â rhaglenni, prosiectau a fforymau rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Wards affected: (All Wards);


13/05/2021 - Residential and Non-Residential Care Charging Policy ref: 2568    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/05/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/05/2021

Effective from: 13/05/2021

Penderfyniad:

Ar gais y Cyfarwyddwr, cytunwyd y dylid dileu'r eitem hon o gyfarfod heddiw er mwyn cysoni'r polisi â deddfwriaeth. Byddai'n cael ei chyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn penderfynu arni.

 

Penderfyniad:

 

Gohirir ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod heddiw.

 

Wards affected: (All Wards);


25/11/2020 - Christmas and New Year Opening Times 2020. Libraries, Theatres, Community Centres, Margam Country Park, Leisure Centres and Swimming Pools ref: 2454    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo amseroedd agor a chau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd fel y nodir yn Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Sicrhau bod cyfleusterau'r cyngor ar gael i'r cyhoedd pan fydd galw iddynt fod ar agor a galluogi rheolwyr i wneud trefniadau priodol gyda staff rheng flaen o ran eu gwyliau blynyddol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 


25/11/2020 - Information Technology Equipment for Schools ref: 2451    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

 

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd y Rheolwr Gwasanaeth TGCh yn gwneud archebion drwy blatfform Llywodraeth Cymru i brynu dyfeisiau ar gyfer ysgolion fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.   Bydd y cyllid ychwanegol hwnnw o £303,500 ar gael o Raglen Gyfalaf yr Awdurdod i ariannu'r dyfeisiau ychwanegol gofynnol.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ddarparu cymorth TG i ddysgwyr fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith.

 

 

 

 

         

 

 

 

 


25/11/2020 - Traffic Order 2020 and Traffic Calming Measures at Penscynor, Cilfrew (Revocation) (20 MPH Speed Limits) ref: 2449    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

(Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd D Jones ei budd yn yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r bleidlais ar ôl hynny.)

 

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau gyda mesurau lleihau cyflymder parhaol amgen yn cael eu ceisio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Gan Bwyll.

 

2.   Cynghori Llywodraeth Cymru yn unol â hynny.

 

3.   Hysbysu gwrthwynebwyr o'r penderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Lleihau cyflymder traffig yn barhaol er budd diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ym mis Medi 2020 gyda thua 30 eiddo yn derbyn llythyrau wedi'u dosbarthu â llaw gyda chynllun fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

 

 

Wards affected: Aberdulais; Cadoxton;


25/11/2020 - Admission to Community Schools:2022/2023 ref: 2452    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo ymgynghori ar bolisi derbyn arfaethedig ysgolion cymunedol 2022/2023 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion   cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'n ofynnol i'r cyngor, fel awdurdod lleol, ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae'n awdurdod derbyn iddynt.

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol.  Cyfrifoldeb y cyrff llywodraethu perthnasol yw derbyn i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. Ffydd).

 

Nodir gofynion yr ymgynghoriad yng Nghôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

 

Yn achos y cyngor hwn, mae angen ymgynghori â'r canlynol:

 

·        cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol

·        cyrff llywodraethu gwirfoddol a gynorthwyir (h.y. ysgolion ffydd)

·        pob awdurdod lleol cyfagos

 

Yn ogystal â hyn, dylai'r cyngor hefyd ymgynghori â'r Fforwm Derbyn ar gyfer yr ardal berthnasol.  Daw'r broses ymgynghori i ben ar 29 Ionawr 2021.

 


25/11/2020 - Leisure Services Financial Arrangements (Exempt Under Paragraph 14) ref: 2453    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020


25/11/2020 - Neath Business Improvement District Ballot ref: 2448    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd yr ail bleidlais ar gyfer BID Castell-nedd yn cael ei chefnogi gan y cyngor i helpu i adfer canol trefi.

 

2.   Bydd y cyngor yn gweithredu fel deiliad y bleidlais at ddibenion yr ail bleidlais.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Mae BID Castell-nedd wedi cael cefnogaeth dros y 5 mlynedd diwethaf ac wedi gwella canol y dref. O ganlyniad, cefnogwyd BID ym Mhort Talbot gan CBSCNPT yn 2019.  Mae BID Castell-nedd yn nesáu at ddiwedd ei dymor (21 Mawrth) ac mae'n awyddus i barhau.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgynghorwyd â busnesau dros y ddau fis blaenorol gan 'Neath Inspired' i roi gwybod iddynt am y sefyllfa bresennol ac i benderfynu pa welliannau ar gyfer y tymor nesaf fyddai'n fuddiol.  Cynhaliwyd holiadur canfyddiad busnes i benderfynu pa fusnesau yr hoffent fynd i'r afael â hwy a  pha welliannau yr hoffent eu gweld.  Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ffurfio eu cynnig pum mlynedd nesaf a fydd ar gael i bob busnes yn yr ardal BID cyn y bleidlais.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gyda dros 50% o dalwyr ardoll, ac roedd 87 o'r 125 yr ymgynghorwyd â hwy wedi dychwelyd yr holiadur. Dangosodd y canlyniadau hynny fod 72% o blaid parhau â'r BID, nid oedd 10% o blaid ac roedd 13% heb benderfynu. Methodd 5% â rhoi sylwadau ar y cwestiwn penodol hwnnw.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


25/11/2020 - Gnoll Estate Country Park Masterplan ref: 2447    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

Penderfyniadau   

 

1.   Cytuno ar brosiectau cynllun gweithredu profiad ymwelwyr wedi'u blaenoriaethu erbyn 31 Mawrth 2021 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd (paragraffau 19.1 i 19.2).

 

2.   Bydd gweithgor swyddogion yn cael ei ffurfio i gysylltu â phartneriaid allweddol ar gyflawni'r camau gweithredu sy'n weddill o fewn y cynllun gweithredu profiad ymwelwyr dros gyfnod o 3-5 mlynedd.

 

3.   Bydd swyddogion yn cynnal ymchwil pellach i'r ffrydiau ariannu sydd ar gael ar gyfer y bwriad i ddatblygu llety i ymwelwyr ar y safle, yn ogystal â chynnal ymarfer mynegiant o ddiddordeb gyda'r sector preifat.

 

4.   Bydd canfyddiadau'r ymarferion hyn yn cael eu dwyn yn ôl i'r aelodau er mwyn gallu cytuno ar fodel cyflawni.

 

 

      Rheswm dros y penderfyniadau:

 

      Er mwyn galluogi'r cyngor i hwyluso'r gwaith o wella cyfleusterau a mynediad ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll, gan alluogi'r parc i barhau i ddenu cynulleidfa leol wrth gynyddu ei gyfraniad i'r economi ymwelwyr hefyd drwy ddatblygu llety i ymwelwyr ar y safle.

 

      Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

      Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

      Ymgynghoriad:

 

      Cynhaliwyd arolwg fel rhan o'r brif broses gynllunio gyda'r gymuned leol, ymwelwyr presennol.  Cafwyd 818 o ymatebion, adlewyrchwyd yr adborth yng nghynllun gweithredu profiad ymwelwyr fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

      Cynhaliwyd gweithdai hefyd gydag aelodau lleol, staff y parc, Cyfeillion Parc Gwledig y Gnoll a Coed Cadw i ofyn am eu barn ar sut y dylai'r parc ddatblygu.

 

Wards affected: Cimla; Neath North; Neath South; Tonna;


25/11/2020 - Miscellaneous Grant Fund Applications ref: 2450    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/05/2021

Effective from: 01/12/2020

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd grant o £800 y flwyddyn yn cael ei ddarparu, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent o fis Ebrill 2021 i Ymddiriedolwyr Clwb Bechgyn a Merched Baglan, Clwb Pêl-droed Baglan Dragons a Chlwb Criced Baglan fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.   Bydd grant o £125 y flwyddyn yn cael ei ddarparu, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent o fis Ebrill 2021 i Siglen Rhianna fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.   Bod grant o £1,800 y flwyddyn yn cael ei ddarparu, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent o fis Ebrill 2021 i Gyngor Tref Coed-ffranc fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Galluogi cytuno ar gymorth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grant.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Wards affected: Baglan; Coedffranc Central; Neath North;


01/04/2021 - Future of Trem Y Glyn Residential Care Home (Exempt under Paragraph 14) ref: 2556    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Wards affected: Glynneath;


01/04/2021 - Annual Update on the Supporting People Local Commissioning Plan ref: 2549    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

Wards affected: (All Wards);


01/04/2021 - Contractual Arrangements for a Range of Children and Young People Services (Exempt under Paragraph 14) ref: 2555    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Wards affected: (All Wards);


01/04/2021 - Distribution of Welsh Government’s £500 Payment for Care Workers ref: 2551    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

Wards affected: (All Wards);


01/04/2021 - Early Intervention, Prevention and Carer Services (Exempt under Paragraph 14) ref: 2554    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Wards affected: (All Wards);


01/04/2021 - Housing Related Support Grant (Exempt under Paragraph 14) ref: 2553    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Wards affected: (All Wards);


01/04/2021 - Disabled Facilities Grant Waiver (Exempt under Paragraph 14) ref: 2552    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Wards affected: Dyffryn;


01/04/2021 - Quality Assurance Framework for the Provision of Learning Disability and Mental Health Supported Living Services in Neath Port Talbot ref: 2550    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/05/2021

Effective from: 01/04/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Gan ystyried yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, y dylid rhoi caniatâd i Swyddogion ymgynghori ar y Fframwaith Sicrhau Ansawdd arfaethedig ar gyfer Darparu Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Byw gyda Chymorth Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I sicrhau bod cynlluniau byw â chymorth cynaliadwy o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

Wards affected: (All Wards);