Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 13eg Mai, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021 fel cofnod cywir.

 

3.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 37 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.

 

4.

Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gais y Cyfarwyddwr, cytunwyd y dylid dileu'r eitem hon o gyfarfod heddiw er mwyn cysoni'r polisi â deddfwriaeth. Byddai'n cael ei chyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn penderfynu arni.

 

Penderfyniad:

 

Gohirir ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod heddiw.

 

5.

Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y Bartneriaeth Ranbarthol pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, sy'n cynnwys Fframwaith Cyd-gynhyrchu, Pecyn Cymorth Cyd-gynhyrchu a Siarter Cyd-gynhyrchu.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Gwella cyd-gynhyrchu ymhellach wrth ymgymryd â rhaglenni, prosiectau a fforymau rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

6.

Rhaglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

7.

Strategaeth bum mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i’r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir cefnogi Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Pum Mlynedd Gorllewin Morgannwg a’r ddogfen ganllaw Cyfeirio Cyflym.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Gwella ymhellach y broses o nodi, cydnabod a chefnogi gofalwyr ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.