Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2021
Effective from: 26/05/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwywyd penodi Earth Science Partnership i
ymgymryd â'r gwaith o ymchwilio i'r opsiynau dylunio, gan gynnwys cynhyrchu
amcangyfrifon cyllideb ar gyfer yr holl waith sy'n gysylltiedig ag adfer tomen
wastraff Cilmaengwyn, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Helpu i gynhyrchu opsiwn adfer addas ar gyfer
Tomen Cilmaengwyn.
Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2021
Effective from: 26/05/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 20 mya arfaethedig ym Mhentref Cil-ffriw,
Castell-nedd, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel
y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Helpu i leihau cyflymder traffig er budd
diogelwch ar y ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau
Wards affected: Aberdulais; Cadoxton;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2021
Effective from: 26/05/2021
Penderfyniad:
Esboniodd swyddogion y byddai Opsiwn 3 yn caniatáu
mynediad i'r traeth drwy gât i gerddwyr ond byddai hygyrchedd yn gyfyngedig
oherwydd goblygiadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â darparu mynediad
anghyfyngedig yn y lleoliad hwn - roedd hyn oherwydd graddiant y ramp a’r
prosesau llanw.
Eglurodd y Swyddogion hefyd y byddent yn ymchwilio
i fynediad i gadeiriau gwthio yn y lleoliad hwn.
Canmolodd yr Aelodau Gynghorwyr Lleol am yr holl
waith caled a wnaed yn y maes hwn.
Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r
gwelliant i'r argymhelliad fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
fel a ganlyn:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer mynediad i
draeth Aberafan drwy'r ramp mynediad llithrfa newydd drwy'r gât i gerddwyr yn
unig, a chaiff y brif gât ei chadw dan glo a bydd yn hygyrch ar gyfer gwaith
cynnal a chadw ac argyfwng yn unig. Bydd y gât i gerddwyr i'r traeth yn parhau
i fod ar agor a gellir ei defnyddio fel pwynt mynediad i'r traeth ym mhen
gorllewinol y promenâd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys ychwanegu rhwystr,
arwyddion a mannau parcio ychwanegol i'r anabl ger y ramp mynediad pwrpasol i'r
anabl, fel y nodir yn Opsiwn 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Penderfynu ar unrhyw fynediad cyhoeddus mewn perthynas â'r ramp cynnal a
chadw mynediad i'r traeth sydd newydd ei adeiladu ym maes parcio Rhodfa
Scarlett.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau
Wards affected: Sandfields East; Sandfields West;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2021
Effective from: 26/05/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, dylid cynnwys y cwmnïau canlynol yn y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy:-
Cwmni |
Categori |
Kompan Ltd (K011) |
104 |
Spartan Scaffolding Solutions Ltd (S097) |
11 |
Eurosafe Solutions Ltd (E031) |
64, 66, 111 |
Andrew D'Auria Solutions Ltd (A073) |
37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46 |
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.
Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol.
Rhoi Penderfyniadau ar
Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);