Manylion y penderfyniad

Accessibility to Aberavon beach via the new Slipway Access Ramp at Scarlett Avenue Car Park

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Esboniodd swyddogion y byddai Opsiwn 3 yn caniatáu mynediad i'r traeth drwy gât i gerddwyr ond byddai hygyrchedd yn gyfyngedig oherwydd goblygiadau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â darparu mynediad anghyfyngedig yn y lleoliad hwn - roedd hyn oherwydd graddiant y ramp a’r prosesau llanw.

 

Eglurodd y Swyddogion hefyd y byddent yn ymchwilio i fynediad i gadeiriau gwthio yn y lleoliad hwn.

 

Canmolodd yr Aelodau Gynghorwyr Lleol am yr holl waith caled a wnaed yn y maes hwn.

 

Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r gwelliant i'r argymhelliad fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, fel a ganlyn:

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer mynediad i draeth Aberafan drwy'r ramp mynediad llithrfa newydd drwy'r gât i gerddwyr yn unig, a chaiff y brif gât ei chadw dan glo a bydd yn hygyrch ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac argyfwng yn unig. Bydd y gât i gerddwyr i'r traeth yn parhau i fod ar agor a gellir ei defnyddio fel pwynt mynediad i'r traeth ym mhen gorllewinol y promenâd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys ychwanegu rhwystr, arwyddion a mannau parcio ychwanegol i'r anabl ger y ramp mynediad pwrpasol i'r anabl, fel y nodir yn Opsiwn 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar unrhyw fynediad cyhoeddus mewn perthynas â'r ramp cynnal a chadw mynediad i'r traeth sydd newydd ei adeiladu ym maes parcio Rhodfa Scarlett.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet

Effective from: 26/05/2021

Dogfennau Cefnogol: