Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Cadarnhaodd y swyddogion fod yr adroddiad hwn yn
dangos incwm a gwariant tan fis Mehefin 2024 ac yna defnyddir y data hwn i
wneud amcanestyniad ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol. Ar hyn o bryd, y
gorwariant amcanestynedig i'r Cyngor cyfan ar ddiwedd y flwyddyn yw £1.8m.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr eitemau a nodwyd gan
ddefnyddio'r dull Coch Oren Gwyrdd a gwnaethant holi am statws yr eitemau oren:
a ydynt yn agos at gael eu cwblhau ai peidio. Cadarnhaodd y swyddogion fod
eitemau gwyrdd wedi'u cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin. Os nodir bod eitem yn
oren, mae swyddogion yn hyderus y bydd yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis
Mawrth.
Holodd yr aelodau am y gorwariant mewn Addysg. Ar
ben hynny, a oedd awgrym ynghylch lefel ddisgwyliedig cronfeydd wrth gefn
ysgolion gan y bydd yn effeithio ar gyllideb ehangach y Cyngor.
O ran y gorwariant, tynnodd yr aelodau sylw at y
targedau nas cyrhaeddwyd o ran swyddi gwag. Holodd yr aelodau a oedd y targedau
nas cyflawnwyd o ran swyddi gwag yn broblem barhaus a beth fyddai effaith
cyflawni'r rheini ar y straen ar staff yn y dyfodol? O ran ysgolion,
cadarnhaodd y swyddogion fod disgwyl i'w diffyg gynyddu £7.6m erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Mae swyddogion wedi cwrdd â'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Prif
Weithredwr i geisio penderfynu beth a all liniaru hyn. Mae adroddiad hefyd
wedi'i drefnu ar gyfer un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol a fydd yn
ystyried yr eitem hon yn fanylach.
Cyfeiriodd yr aelodau at barciau gwledig eraill, yn
ogystal â'r Gnoll yn benodol. Nodwyd bod yr adroddiad hyd at ddiwedd mis
Mehefin, ond crybwyllir rhesymau sy'n cyfeirio at fis Awst. Cadarnhaodd y
swyddogion y byddant yn defnyddio gwybodaeth y maent yn ymwybodol ohoni i
ragfynegi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, darperir gwybodaeth
sy'n cyfeirio at y flwyddyn gyfan.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr eitem goleuadau
cyhoeddus a'r tabl Coch Oren Gwyrdd. Mae'r adroddiad yn nodi nad yw'r nod o
arbed £220k yn debygol o gael ei gyflawni oherwydd bod prisiau wedi cynyddu, er
bod yr eitem yn wyrdd ar y tabl Coch Oren Gwyrdd ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y
swyddogion y cyflawnwyd yr arbedion mewn perthynas â phylu goleuadau, o ran
defnydd ynni'r goleuadau, ond gan nad yw'r pris wedi gostwng cymaint ag y
rhagwelwyd, mae'n dal i ddangos fel gorwariant. Mae'r sgôr yn wyrdd oherwydd y
cyflawnwyd y targed o ran defnydd, ond mae'n dangos fel gorwariant oherwydd
pris yr unedau, nid y defnydd.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr eitem goch yn yr
adroddiad, sef moderneiddio isadeiledd technegol gwasanaethau digidol. Holodd
yr aelodau a yw hyn yn dal i fynd rhagddo ac am esboniad ynghylch y statws
coch. Dywedodd y swyddogion, er bod yr arbedion yn gysylltiedig â gwasanaethau
digidol, mai Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am y gyllideb dan sylw.
Gan na fydd yr arbedion yn cael eu cyflawni gan wasanaethau digidol, mae ganddo
statws coch, ond mae'r arbedion wedi'u cyflawni drwy Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
sy'n gyfrifol am y gyllideb.
Cyfeiriodd yr aelodau at y gorwariant a nodwyd yng
nghyllideb cludiant ysgolion a chostau ymgynghori. Holodd yr aelodau pa
wasanaeth a gynhaliwyd gan yr ymgynghoriaeth na allai'r staff mewnol fod wedi
ei wneud a beth fyddai swm y gorwariant pe bai staff mewnol wedi cael eu
defnyddio i gyflawni'r gwaith?
Dywedodd y swyddogion fod y gorwariant yn deillio o
gynnydd mewn lleoedd ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol ers i'r gyllideb
gael ei phennu. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am yr ymholiad ymgynghori ac os
ydynt am fwrw ymlaen â hyn, dylid gwneud hynny drwy'r pwyllgor craffu priodol,
sef Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd, sy'n gyfrifol am gontractau ysgolion yn y pen
draw.
Yn dilyn gwaith craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad.
Dogfennau ategol: