Agenda item

Blaenoriaethau Corfforaethol 24/25 Cynllun Corfforaethol 2023-2028

Cofnodion:

Darparodd swyddogion drosolwg gryno am yr adroddiad a gynhwysir ym mhecyn yr agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynllun gweithredu a gynhwysir ym mhecyn yr agenda, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch sut mae'r Grŵp Cyfarwyddwyr Adfywio yn rhyngweithio â'r Cyd-bwyllgor. Nodwyd bod bylchau yn yr wybodaeth sydd ar gael ar gyfer rhai camau gweithredu.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod pedwar is-bwyllgor wedi'u ffurfio mewn perthynas â'r amcanion lles i sicrhau bod llywodraethu, gwneud penderfyniadau, a gwybodaeth, syniadau ac awgrymiadau yn cael eu rhaeadru o ranbarthau i'r Cyd-bwyllgor ac i'r gwrthwyneb. Mae Cyfansoddiad y Cyd-bwyllgor yn nodi arweinwyr gweithredol ac arweinwyr gwleidyddol ar gyfer pob amcan lles, fel a ganlyn:

 

         Trafnidiaeth Ranbarthol – arweinydd gweithredol - Abertawe, arweinydd gwleidyddol - Sir Gaerfyrddin.

         Datblygu Economaidd a Llesiant Economaidd - arweinydd gweithredol - Sir Gaerfyrddin, arweinydd gwleidyddol - Abertawe.

         Ynni Rhanbarthol - arweinydd gweithredol – Castell-nedd Port Talbot, arweinydd gwleidyddol - Sir Benfro.

         Cynllunio Strategol - arweinydd gweithredol – Sir Benfro, arweinydd gwleidyddol – Castell-nedd Port Talbot.

 

Cyn ffurfio'r Cyd-bwyllgor, ffurfiwyd gweithgorau craidd a gweithgorau cyfarwyddwyr. Ym mhob awdurdod mae'r Cyfarwyddwyr sy'n arwain pob thema'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd Rhaglen a'r grŵp llywio a ffurfiwyd o dan y Cyd-bwyllgor.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder bod rhai diweddariadau o ran cynnydd yn cael eu gohirio i'r Grŵp Cyfarwyddwyr Adfywio Rhanbarthol, heb sylwadau; dylid nodi unrhyw gynnydd yn y ddogfen. Mae amwysedd ynghylch y grŵp sydd y tu allan i strwythur y Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd swyddogion y cynhaliwyd ymgynghoriadau ar y camau gweithredu, ac wrth symud ymlaen roeddent am ganolbwyntio ar gynyddu gweithgarwch a chynnwys rhanddeiliaid. Trefnwyd gweithdy ar gyfer mis Tachwedd i edrych ar y blaenoriaethau i weld a ydynt yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer 2025-2026, mae cyfleoedd i wella'n barhaus. Nid yw'r amcanion lles yn destun newid, ond mae angen adolygu'r camau gweithredu. Fel rhan o waith cyfranogiad ac ymgysylltu, mae angen sicrhau ymgysylltiad priodol, mae hyn yn cynnwys cymunedau yn ogystal â gweithgorau presennol a swyddogion ym mhob awdurdod.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder mewn perthynas â lefel ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gwestiynu gwerth ymgynghoriad ag ymatebion cyfyngedig; mae lefel yr ymatebion ar draws y rhanbarth yn amrywiol. Holodd yr Aelodau sut y gellir gwneud pobl yn ymwybodol o'r nodau. Nododd yr Aelodau fod sefydliad o'r enw '4TheRegion' wedi gwneud gwaith yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar a gofynnwyd pwy yr ymgysylltir â nhw i gynnal yr ymgynghoriad ar ran y pwyllgor.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y Cynllun Corfforaethol wedi cael ei gyhoeddi a'i hyrwyddo drwy wefan y Cyd-bwyllgor. Mae ymgynghoriad dilynol annibynnol ar yr amcanion a'r swyddogaethau lles. Mae'r ymgynghoriad yn fyw ac mae manylion pellach ar gael ar y we-dudalen. Mae cynrychiolaeth ar y gweithgorau gan swyddogion o bob awdurdod, Llywodraeth Cymru, a chyrff arbenigol eraill. Mae'r ymgynghoriad yn seiliedig ar ganfyddiadau a gafwyd o roi'r cynllun corfforaethol cychwynnol ar waith ac adeiladu ar adborth a thynnu sylw at gyfleoedd i wella. Mae pob awdurdod yn hyrwyddo'r ymgynghoriad ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol a'u gwefannau annibynnol eu hunain.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y cynllun sy'n dangos y rhwydwaith trafnidiaeth a'r parciau cenedlaethol ar dudalen 124 yr adroddiad a gofynnwyd pam na chafodd yr A477 i Ddoc Penfro ei nodi fel llwybr strategol.

 

Nid oedd swyddogion yn gallu ateb yn llawn ar hyn o bryd, ond cadarnhawyd, cyn i'r ddadl o blaid newid gael ei gymeradwyo, bod yr aelodau wedi codi pwysigrwydd sicrhau bod pob rhanbarth yn cael ei ystyried yn llawn, yn enwedig ardaloedd gwledig; cafodd hyn ei gynnwys o fewn cwmpas y ddogfen Dadl o Blaid Newid. Cadarnhaodd swyddogion y gallai fod yn fwy priodol trafod hyn ymhellach yn dilyn datblygu dogfen bolisi a chanfyddiadau'r ymgynghoriad sydd i'w cyflwyno i'r pwyllgor craffu a'r Cyd-bwyllgor ar ddechrau mis Medi.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder bod y mater hwn wedi'i godi o'r blaen; byddai'n ddefnyddiol i aelodau gael sicrwydd bod yr adborth a roddir gan aelodau'n cael ei nodi.

 

Ymatebodd swyddogion, o ran y ddogfen, ei bod yn bwysig tynnu sylw at y ffaith nad yw cynnwys y cynllun corfforaethol wedi newid, mae newidiadau wedi digwydd o fewn yr atodiadau. Caiff barn yr aelodau ei chynnwys yn yr adborth a gesglir gan bob un o'r pwyllgorau, a'r hyn a gymeradwyir gan y Cyd-bwyllgor. Atgoffwyd yr aelodau fod gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer yr hydref; lle gellir ystyried y sefyllfa bresennol, a gellir rhoi blaenoriaethau a chamau gweithredu newydd ar waith ar gyfer 2025-2026.

 

Nododd aelodau'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: