Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 24ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2021.

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Cynnig Llywodraeth Cymru i roi Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar waith ar draws Cymru

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran terfyn cyflymder diofyn 20mya arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch effeithiau ariannol y cynllun hwn; gofynnwyd a fydd Swyddogion yn lobïo am fwy o arian ar gyfer clustogau cyflymder a chyfyngiadau ffisegol a fydd yn arafu modurwyr, gan y cydnabuwyd nad oedd digon o adnoddau o fewn yr Heddlu i orfodi hyn ar draws y fwrdeistref sirol gyfan. 

 

Esboniodd swyddogion mai'r bwriad o'r gorchymyn cyffredinol oedd nad oedd mesurau peirianyddol caled wedi'u cynllunio fel rhan o'r terfyn 20mya diofyn ehangach; ac y byddai angen symud i ffwrdd o'r nifer helaeth o glustogau cyflymder fel rhan o'r cynllun hwn, oherwydd y costau y byddai Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu ledled Cymru gyfan. Ychwanegwyd y gallai fod arian ar gael ar gyfer nodweddion mynediad i gymunedau, gan rybuddio pobl eu bod yn mynd i ardal adeiledig o lwybr strategol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynlluniau peilot ar draws wyth Awdurdod Lleol; cynhwyswyd Castell-nedd Port Talbot yn y cynllun peilot hwn, gan gyfeirio'n benodol at gymuned Cil-ffriw.

 

Cadarnhawyd bod Swyddogion wedi bod yn codi mater cyllid gyda Llywodraeth Cymru, ac roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi nifer o feysydd a oedd yn cael eu trafod gan gynnwys cynnal adolygiad o'u mapiau.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai costau sylweddol o ran nifer yr arwyddion y gallai fod eu hangen, ac unrhyw newidiadau i'r gorchmynion deddfwriaethol. Byddai enghraifft o newid mewn gorchmynion deddfwriaethol yn cynnwys pe bai'r cyngor yn penderfynu y byddai'n well cadw rhai o'r prif ffyrdd neu lwybrau strategol, lle mae gwasanaethau bysiau'n rhedeg, ar 30mya; byddai'n rhaid i'r cyngor hysbysebu i ofyn i'r ffordd ddod yn 30mya, fel yn y cynigion gan Lywodraeth Cymru, bydd yr holl ffyrdd yn cael eu lleihau i 20mya.

 

 

 

Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd nad oedd yr effeithiau ariannol yn hysbys ar hyn o bryd, a chadarnhawyd bod hyn oherwydd bod hyn yn ddarn mor helaeth o waith; Roedd swyddogion yn lobïo Llywodraeth Cymru, ac yn cael sicrwydd y bydd cyllid ar gael. Soniwyd y byddai gwaith sylweddol o ran cefnogi'r ffyrdd y teimlwyd y dylid eu cynnal ar 30mya.

 

Esboniodd swyddogion fod cyfarfod wedi'i drefnu gyda'r Dirprwy Weinidog, Arweinwyr Cynghorau ledled Cymru ac Aelodau perthnasol y Cabinet; yn y cyfarfod hwn, codir yr holl bryderon, yn enwedig goblygiadau ariannol y cynllun hwn.

 

Nodwyd bod seminar ar gyfer yr holl Aelodau wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun 27 Medi 2021 i friffio'r Aelodau ar gynnig Llywodraeth Cymru i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith ar draws Cymru Roedd swyddogion hefyd yn mynd i roi drafft o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a baratowyd o safbwynt yr Awdurdod i'r Aelodau; Gofynnwyd i'r Aelodau adolygu'r ddogfen hon cyn y seminar. Ychwanegwyd nad oedd llawer o'r cwestiynau a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad yn gallu cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Strydlun a Pheirianneg 2020/21.

 

Dywedwyd bod Gweithdy Blaenraglen Waith Craffu Strydlun a Pheirianneg wedi'i drefnu ar gyfer 14 Hydref 2021.