Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod ar y cyd Pwyllgorau Craffu’r Cabinet/Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Iau, 30ain Gorffennaf, 2020 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd L Purcell yn Gadeirydd a phenodi'r Cynghorydd M Harvey yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn ar y cyd.

 

2.

Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID, gan ganolbwyntio ar Gartrefi Gofal

Cofnodion:

Derbyniodd y Cydbwyllgor wybodaeth am y Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID-19 a oedd yn canolbwyntio ar Gartrefi Gofal, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac a goladwyd gan Jack Straw, Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol.

Rhoddwyd cyflwyniad gan Andrew Jarrett, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a oedd yn cynnwys cyd-destun gwahanol feysydd cyfrifoldeb rhannau elfennol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac esboniad ohonynt. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y feirws wedi cael effaith ddofn ar y cartrefi gofal, y preswylwyr a'r staff ledled y DU; roedd 46 o drigolion cartrefi gofal Castell-nedd Port Talbot wedi marw, gan gynnwys un aelod o staff.

Dywedwyd wrth yr Aelodau, gan fod yr don gyntaf wedi mynd heibio bellach, fod y maes gwasanaeth ar draws Rhanbarth Bae Abertawe am roi sicrwydd eu bod wedi gwneud yr hyn yr oedd angen ei wneud a'r hyn yr oedd yn ofynnol iddynt ei wneud o ran diogelu cartrefi gofal ac y byddent yn gallu ystyried y gwersi a ddysgwyd a fyddai'n helpu pe bai ail ymchwydd.

Yn gynnar iawn yn ystod y pandemig, nodwyd bod isadeiledd ymateb brys wedi'i sefydlu a fyddai'n adrodd wrth grŵp rheoli aur, y comisiynwyd Jack Straw i'w gadeirio; roedd yr isadeiledd ymateb brys hefyd yn cynnwys dau gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Bwrdd Iechyd. Esboniwyd bod llawer o grwpiau a oedd yn adrodd wrth y grŵp rheoli aur, gan gynnwys grŵp arian, a fu'n edrych ar fanylion gweithredol yr ymateb ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Ychwanegwyd bod y grŵp rheoli aur yn adrodd wrth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol, a sefydlwyd o ganlyniad i COVID-19.

Hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys tri phartner statudol, y Bwrdd Iechyd, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, a gomisiynwyd i ddarparu'r gwasanaeth statudol yn unigol. Nodwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol wedi'i sefydlu ar ddechrau'r pandemig gyda'r tri phartner statudol, a oedd yn golygu nad oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyffredinol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r trydydd sector, gofalwyr, cleifion, dinasyddion a landlordiaid cymdeithasol, wedi cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau gan ei fod wedi'i hatal dros dro fel y gallai'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol symud ymlaen gyda'r tri phartner statudol yn gwneud y penderfyniadau.

Eglurodd swyddogion fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi'i sefydlu i edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Rhanbarth Bae Abertawe; y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol gomisiynodd yr adroddiad a ddosbarthwyd, a Phartneriaeth Gorllewin Morgannwg yw'r enw cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ychwanegol at yr ardal iechyd a gofal cymdeithasol.

Ychwanegwyd mai'r adroddiad oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru i edrych yn ôl yn feirniadol fel rhanbarth i'r ymateb i COVID-19 mewn cartrefi gofal, fodd bynnag roedd yn debygol y byddai llawer mwy i ddod gan fod ffocws clir ar y mater hwn ledled Llywodraeth Cymru, y DU ac Ewrop.

Hysbyswyd yr Aelodau bod Partneriaeth Gorllewin Morgannwg wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.