Cofnodion:
Derbyniodd y Cydbwyllgor
wybodaeth am y Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID-19 a oedd yn
canolbwyntio ar Gartrefi Gofal, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac a goladwyd
gan Jack Straw, Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol.
Rhoddwyd cyflwyniad gan Andrew
Jarrett, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a oedd yn
cynnwys cyd-destun gwahanol feysydd cyfrifoldeb rhannau elfennol y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol ac esboniad ohonynt. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
feirws wedi cael effaith ddofn ar y cartrefi gofal, y preswylwyr a'r staff
ledled y DU; roedd 46 o drigolion cartrefi gofal Castell-nedd Port Talbot wedi
marw, gan gynnwys un aelod o staff.
Dywedwyd wrth yr Aelodau, gan
fod yr don gyntaf wedi mynd heibio bellach, fod y maes gwasanaeth ar draws
Rhanbarth Bae Abertawe am roi sicrwydd eu bod wedi gwneud yr hyn yr oedd angen
ei wneud a'r hyn yr oedd yn ofynnol iddynt ei wneud o ran diogelu cartrefi
gofal ac y byddent yn gallu ystyried y gwersi a ddysgwyd a fyddai'n helpu pe
bai ail ymchwydd.
Yn gynnar iawn yn ystod y
pandemig, nodwyd bod isadeiledd ymateb brys wedi'i sefydlu a fyddai'n adrodd
wrth grŵp rheoli aur, y comisiynwyd Jack Straw i'w gadeirio; roedd yr
isadeiledd ymateb brys hefyd yn cynnwys dau gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Bwrdd Iechyd. Esboniwyd bod llawer o
grwpiau a oedd yn adrodd wrth y grŵp rheoli aur, gan gynnwys grŵp
arian, a fu'n edrych ar fanylion gweithredol yr ymateb ar draws y sector iechyd
a gofal cymdeithasol. Ychwanegwyd bod y grŵp rheoli aur yn adrodd wrth y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol, a sefydlwyd o ganlyniad i COVID-19.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys tri phartner statudol, y Bwrdd
Iechyd, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, a gomisiynwyd i
ddarparu'r gwasanaeth statudol yn unigol. Nodwyd bod y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Eithriadol wedi'i sefydlu ar ddechrau'r pandemig gyda'r tri
phartner statudol, a oedd yn golygu nad oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
cyffredinol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r trydydd sector, gofalwyr, cleifion,
dinasyddion a landlordiaid cymdeithasol, wedi cymryd rhan yn y broses gwneud
penderfyniadau gan ei fod wedi'i hatal dros dro fel y gallai'r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol symud ymlaen gyda'r tri phartner statudol
yn gwneud y penderfyniadau.
Eglurodd swyddogion fod y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi'i sefydlu i edrych ar iechyd a gofal
cymdeithasol ar draws Rhanbarth Bae Abertawe; y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Eithriadol gomisiynodd yr adroddiad a ddosbarthwyd, a Phartneriaeth Gorllewin
Morgannwg yw'r enw cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ychwanegol at yr ardal
iechyd a gofal cymdeithasol.
Ychwanegwyd mai'r adroddiad
oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru i edrych yn ôl yn feirniadol fel rhanbarth
i'r ymateb i COVID-19 mewn cartrefi gofal, fodd bynnag roedd yn debygol y
byddai llawer mwy i ddod gan fod ffocws clir ar y mater hwn ledled Llywodraeth
Cymru, y DU ac Ewrop.
Hysbyswyd yr Aelodau bod
Partneriaeth Gorllewin Morgannwg wedi cynnal cronfa ddata gynhwysfawr o
ryngweithio â'r gymuned cartrefi gofal, ar draws pob agwedd gan gynnwys profi a
chymorth bugeiliol a'i bod yn cwmpasu llawer o'r manylion a oedd yn cefnogi'r
adroddiad. Ychwanegwyd y byddai'r lefel hon o wybodaeth yn bwysig pan gaiff
adolygiadau eu cynnal yn y dyfodol, er bod yr Athro John Bolton, ar ran
Llywodraeth Cymru, eisoes yn gwneud gwaith adolygu yr oedd cyfarwyddwyr
statudol y bartneriaeth wedi cyfrannu ato.
Dywedwyd bod prif ffocws yr
adolygiad ar sicrwydd, ac a oedd y bartneriaeth wedi cydymffurfio â'r
canllawiau presennol drwy gydol y broses; a dysgu, yr hyn a ddysgwyd ac a
fyddai paratoadau gwell yn cael eu rhoi ar waith rhag ofn y bydd ail don a/neu
ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
O ran statws yr adroddiad,
tynnwyd sylw at y ffaith ei fod wedi'i gomisiynu ac y byddai'n cael ei gyflwyno
i'r tri chorff statudol unigol er mwyn iddynt hwy nodi pa waith pellach a/neu
waith craffu yr oedd angen ei wneud a pha dystiolaeth neu drywyddau ymholi
pellach y dylid eu dilyn. Soniwyd bod yr adroddiad yn dangos gwaith
partneriaeth cryf iawn rhwng Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
a'r Bwrdd Iechyd; roedd y tri pharti wedi cytuno ar yr holl faterion allweddol
a bydd hyn yn bwysig pan gynhelir yr adolygiadau.
Nodwyd bod yr adroddiad yn
dangos y gellid cael sicrwydd cryf o ran cydymffurfio â'r canllawiau presennol,
er bod adegau pan oedd canllawiau'n newid yn gyflym a chafwyd oediadau byr
rhyngddynt; fodd bynnag, dywedwyd mai logisteg oedd yn gyfrifol am hyn ac nid
methiant i gydymffurfio â'r canllawiau. Dywedwyd mai ffactor arall y gellir ei
arddangos yn glir oedd y dystiolaeth amlwg bod arweinyddiaeth wedi ceisio
dylanwadu ar bolisi a chanllawiau cenedlaethol, yng ngolau'r sefyllfa gyfredol
mewn cymunedau, a herio canllawiau lle roedd hynny'n briodol. Hysbyswyd yr
Aelodau fod tystiolaeth a oedd yn dangos weithiau bod gweithgarwch lleol yn y
rhanbarth wedi arwain at ddiweddaru'r canllawiau a rhoi newidiadau ar waith o
ran y y ffordd y rheolwyd materion.
Trafodwyd y meysydd heriol,
a'r her fwyaf ledled y DU, Cymru a'r rhanbarth oedd yr haint yn cael ei
throsglwyddo rhwng sectorau, er enghraifft, gwacáu ysbytai i baratoi ar gyfer
cleifion COVID-19. Soniwyd bod yr haint yn dod i'r amlwg pan oedd cleifion yn
cael eu trosglwyddo i leoliadau cartrefi gofal, ac roedd yn fater y byddai
angen mynd i'r afael ag ef yn genedlaethol.
I grynhoi, tynnwyd sylw at y
ffaith bod creu adnoddau a'r gallu i symud adeileddau o gwmpas yn dibynnu ar yr
hyn yr oedd ei angen ar y pryd, a bod popeth ar draws y system yn llawer gwell
yn awr nag yr oedd ym mis Mawrth 2020, gan olygu bod y maes gwasanaeth wedi'i
baratoi'n well pe bai ton arall o'r feirws. O ran rheoli heintiau ac atal
ymlediad heintiau, nodwyd ei fod hefyd mewn sefyllfa well o lawer gan fod
arferion a gweithdrefnau wedi esblygu a datblygu dros y misoedd diwethaf.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
unrhyw wybodaeth am faint o bobl a heintiwyd ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty
gan ei bod yn hysbys bod y rhai nad oedd ganddynt y feirws pan aethon nhw i
mewn i'r ysbyty, wedi cael y feirws ar ôl mynd yno. Gofynnwyd hefyd faint o
gleifion oedd â'r feirws ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Dywedodd swyddogion
nad oedd unrhyw ffigurau ar gael oherwydd nad oedd profion yn cael eu cynnal ar
ddechrau'r pandemig, felly nid oeddent yn ymwybodol o faint o bobl oedd wedi
cael y feirws; er bod profion wedi'u cynnal ers hynny, ni fyddai'r ffigurau'n
gywir nac yn ddibynadwy oherwydd diffyg profi ar y dechrau.
Yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, roedd yn dweud, er gwaethaf pwysau cenedlaethol i beidio â bod
mor dryloyw, fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi lansio meini prawf
cymhwysedd diwygiedig ar gyfer gofal cymdeithasol, a hynny'n yn gyhoeddus.
Soniodd yr Aelodau y gellid ystyried bod y meini prawf diwygiedig hyn yn rhai
risg uchel, felly roeddent am wybod pa waith monitro a wnaed wedi hyn mewn
perthynas â'r meini prawf diwygiedig, gan gofio bod gofal cymdeithasol yn
ofyniad statudol. Sicrhaodd swyddogion y Cydbwyllgor y cydymffurfiwyd â statud
a chanllawiau bob amser; soniwyd bod y gyfraith wedi newid ar ddechrau'r
pandemig gan newid y gallu o fewn y gwasanaethau i oedolion i edrych ar
achosion yn wahanol. Tynnwyd sylw at y ffaith mai dogfen oedd y meini prawf
cymhwysedd a oedd yn nodi sut y byddai angen i staff ymateb pe bai ton arall, a
oedd yn ffordd o hysbysu'r Aelodau a'r cyhoedd o'r cynlluniau pe bai hynny'n
digwydd. Esboniwyd bod holl achosion y gwasanaethau oedolion yng Nghastell-nedd
Port Talbot wedi'u graddio drwy system Coch Ambr Gwyrdd (CAG) a oedd yn ffurf
ar baratoi ac ymateb cymesur; dynodai gwyrdd yr achosion lle y trafodwyd
materion â'r teulu a ffrindiau ac yna byddent yn dechrau darparu gofal a
chymorth, roedd ambr yn dynodi mwy o risg pe bai gwasanaethau'n cael eu tynnu'n
ôl a choch yn dynodi nad oedd unrhyw ffordd bosib o dynnu gwasanaethau'n ôl.
Soniwyd na fu erioed adeg pan y bu angen diffodd yr holl achosion a raddiwyd yn
wyrdd, ond roedd swyddogion am egluro, yn y meini prawf cymhwysedd, y byddent
yn barod i ddiffodd yr achosion a raddiwyd yn wyrdd pe bai'r galw a'r don yr
oeddent yn eu disgwyl yn dod. Dywedwyd wrth yr Aelodau, er bod yr unigolion ar
statws CAG, fod y staff mewn cysylltiad â hwy bob dydd/wythnos a'u bod yn dal i
gadw mewn cysylltiad er nad oedd yr ymweliadau'n cael eu cynnal ar y pryd. Yn
dilyn cwestiwn ynglŷn â pha mor hir y byddai'r meini prawf diwygiedig yn
bodoli, cadarnhaodd swyddogion fod y gwasanaeth yn dal mewn cyfnod addasol ac
yn paratoi ar gyfer gwahanol bosibiliadau, fodd bynnag pe bai angen deddfu
unrhyw ran o'r meini prawf cymhwysedd, byddai swyddogion yn barod i hysbysu'r
Pwyllgor o'r hyn a wnaed, pryd y byddai'n cael ei wneud ac am ba hyd y byddai
ar waith.
Gofynnodd yr Aelodau pam nad
oedd yr adroddiad yn adlewyrchu profiadau'r preswylwyr, teuluoedd a staff y cartrefi
gofal a gofynnwyd a wnaed unrhyw ymdrechion i gysylltu â'r rhai yr effeithiwyd
arnynt neu eu heiriolwyr, gan y dywedwyd bod angen rhoi'r cyfle iddynt sicrhau
bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Esboniodd swyddogion fod grŵp gofal a
gomisiynwyd yn allanol wedi'i sefydlu fel is-grŵp o'r grŵp rheoli
arian, a oedd yn cynnwys swyddogion comisiynu ar draws y rhanbarth a oedd yn
cyfathrebu'n gyson â'r cartrefi gofal preswyl ac yn cael eu mewnbwn, sydd ar y
cyfan yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau. Eglurwyd bod yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn gipolwg tra oeddem yng nghanol y pandemig, i nodi'r gwersi a
ddysgwyd gan gynnwys y penderfyniadau a wnaed a'r ffordd y dadansoddwyd y
penderfyniadau hynny. Fodd bynnag, mynegodd swyddogion yr angen i lunio
adroddiad a'i gyflwyno i'r Aelodau, a fyddai'n ymdrin â barn cartrefi gofal a'u
preswylwyr. Cytunodd Angela Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, i
lunio'r adroddiad.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â gofal bugeiliol a pha wersi a ddysgwyd o ynysu preswylwyr a chleifion o'u
teuluoedd; gofynnwyd a fyddai unrhyw newidiadau i ymweliadau a'r wybodaeth a
roddir i berthnasau, gan gynnwys y ffordd y byddai angladdau'n cael eu rheoli
yn y dyfodol pe bai ail don yn digwydd. Dywedwyd bod y staff, drwy gydol y
pandemig, yn cydnabod eu bod yn cydbwyso risgiau, y risg o haint yn erbyn y
risg o ynysu pobl o'u teuluoedd a allai fod wedi bod ar ddiwedd eu hoes.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi ceisio rheoli'r risgiau mor
effeithiol â phosib, wrth ddilyn canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Crybwyllwyd
bod cartrefi gofal wedi bod yn flaengar iawn wrth geisio trefnu i breswylwyr
gael cyswllt â'u teuluoedd, er enghraifft drwy sianeli digidol gan gynnwys
Microsoft Teams a WhatsApp a lle y bu'n bosib, ganiatáu i deuluoedd gael cyswllt
drwy sefyll y tu allan. Nododd yr Aelodau nad oedd yr amgylchiadau'n
ddelfrydol, ond oherwydd yr ansicrwydd ynghylch y feirws yn yr awyr ac
effeithiolrwydd masgiau wyneb, bu'n rhaid cymryd y mesur hwn i atal y risg o
drosglwyddo'r feirws mewn cartrefi gofal. Dywedwyd mai'r gwersi a ddysgwyd oedd
bod ffyrdd eraill o ddarparu cyswllt rhwng teuluoedd i helpu i atal ymlediad y
feirws, ond roedd y penderfyniadau a wneir o ddydd i ddydd yn anodd iawn a'r
unig ffordd o wneud y penderfyniadau hyn oedd trwy gydbwyso'r risgiau â'r
canllawiau a ddarparwyd gan wyddonwyr. Ychwanegwyd bod awdurdodau y rhan fwyaf
o'r amser wrth weithredu'r cyfyngiadau llym, yn cael eu harwain a'u cyfarwyddo
gan Lywodraeth Cymru gyda gwasanaethau fel mynwentydd ac amlosgfeydd, a bod angen
cydymffurfio â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol, sy'n yn dal i fod yn
gyfraith yng Nghymru, er mwyn helpu i atal ymlediad y feirws hefyd.
Cyfeiriwyd at y materion
allweddol sy'n ymwneud â PPE, ac esboniwyd bod yr awdurdod, yn seiliedig ar y
canllawiau a oedd yn cael eu rhoi ar y pryd, yn cydymffurfio â'r holl ofynion
PPE; oherwydd y newidiadau parhaus a oedd yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth,
bu'n rhaid i'r awdurdod hefyd ailwerthuso penderfyniadau a wnaed. Nodwyd mai
£10 miliwn oedd y gwariant blynyddol presennol yng Nghymru ar PPE, fodd bynnag
yn ystod tri mis cyntaf y pandemig roedd Llywodraeth Cymru wedi gwario £200
miliwn yn ceisio darparu PPE effeithlon. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod pwynt yn
ystod y pandemig lle'r oedd Cymru'n agos iawn o fynd yn brin iawn o PPE, ond
fel rhanbarth cydweithiom gyda'n gilydd gan ddefnyddio prosesau rhanbarthol i
brynu a chael PPE naill ai drwy'r sianeli arferol neu drwy ei chyrchu'n
annibynnol. Soniwyd bod yr adnoddau ar gael yn ardal Castell-nedd Port Talbot i
roi digon o PPE i gartrefi gofal ac ardaloedd eraill, a bod ffatri bellach yng
Nghastell-nedd Port Talbot a oedd wedi newid ei phroses gweithgynhyrchu i
gynhyrchu PPE yn unig. Hwn bellach yw'r cwmni PPE gweithgynhyrchu mwyaf yn y
DU. Yn dilyn hyn, daeth Cymru mor effeithlon gyda PPE fel y dechreuodd y wlad
gyflenwi gwledydd eraill yn y DU gan gynnwys Gogledd Iwerddon a Lloegr.
O ran gwneud penderfyniadau,
gofynnwyd a ellid fod wedi gwneud hynny'n wahanol er mwyn cael llai o effaith
ar y gymuned. Dywedwyd mai diben y trosolwg oedd nodi'r hyn y gellid fod wedi'i
wneud yn well, fodd bynnag, yn seiliedig ar y wybodaeth a'r cyngor a oedd yn
cael eu cyfleu gan y Llywodraeth a'r gwerthusiadau a gwblhawyd gan swyddogion,
gwnaed y penderfyniadau gorau posib ar y pryd; pan oedd y canllawiau, y cyngor
cyfreithiol a'r wyddoniaeth yn newid, addasodd yr awdurdod ei brosesau a'i
benderfyniadau.
Gofynnwyd i swyddogion a
fyddent yn gallu darparu'r ffigurau i ddangos faint o bobl oedd wedi'u heintio
â'r feirws yn y cartrefi gofal fel y gallai Aelodau gael dealltwriaeth o faint
o breswylwyr oedrannus sy'n goresgyn y feirws. Nodwyd y gallai swyddogion roi'r
wybodaeth hon i'r Aelodau pe bai angen.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y
bartneriaeth ar y cyd ag Iechyd y Cyhoedd a gofynnodd am eglurhad ynghylch sut
byddai'r argymhellion yn cael eu monitro a sut byddent yn cael sicrwydd bod y
gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Amlygodd swyddogion y byddai Cyngor Abertawe a'r
Bwrdd Iechyd Cyhoeddus yn mynd drwy'r un broses o graffu ar y adroddiad a ddosbarthwyd.
Ychwanegwyd bod y gwaith partneriaeth mewn perthynas â hyn wedi bod yn
effeithiol ac y byddai'n parhau, gyda'r ddau barti'n dwyn ei gilydd i gyfrif ac
yn dod o hyd i atebion cyffredin; cynhaliwyd cyfarfodydd yn wythnosol, gan
ganiatáu i'r berthynas bartneriaeth a ffurfiwyd gryfhau.
Hysbyswyd y Pwyllgor, er bod y
profion wedi'u cynnwys yn uniongyrchol yng nghylch gwaith y GIG, fod trefniadau
bellach ar gyfer cynlluniau profi cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru, a chynlluniau profi lleol y byddai cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol yn
ymwneud yn uniongyrchol â hwy; felly, byddai trefniadau partneriaeth lleol ar
waith gyda mewnbwn uniongyrchol i ddatblygiad y cynllun.
Cafwyd trafodaeth bellach mewn
perthynas â phrofion a ffyrdd o wella dibynadwyedd y canlyniadau a pha mor
gyflym y mae unigolion yn cael eu canlyniadau'n ôl. Nodwyd bod dau ddull profi,
profi lleol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd a phecynnau hunanbrofi cenedlaethol;
dywedwyd bod y profion lleol yn gweithio'n effeithlon gyda chanlyniadau profion
yn cael eu dychwelyd yn brydlon. Fodd bynnag, roedd y profion cenedlaethol yn
aml yn broblem gydag unigolion yn cael anhawster derbyn eu canlyniadau; nodwyd
bod Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Iechyd wedi trosglwyddo
hyn yn ôl i Lywodraeth Cymru. Soniodd swyddogion y byddai cael unigolion i
gwblhau profion dwbl at ddiben dibynadwyedd yn debygol o roi baich ar y ddau
ddull profi, yn enwedig gan fod y system brofi leol eisoes dan rywfaint o
bwysau. Cadarnhawyd bod Seminar Pob Aelod ar Brofi, Olrhain a Diogelu wedi'i
drefnu ar gyfer mis Medi.
Nodwyd drwy gydol yr adroddiad
bod cyfeiriadau'n cael eu gwneud at yr egwyddor o 'beidio â throsglwyddo haint
yn fwriadol'; Gofynnodd yr Aelodau a allai swyddogion ymhelaethu ar hyn a
chadarnhau a oedd yr egwyddor yn unigryw i aelodau'r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Eithriadol neu a oedd yn berthnasol i bob aelod. Esboniodd
swyddogion fod hon yn egwyddor bwysig, y gellid o bosib fod wedi'i rhoi ar
waith yn gynt; dechreuodd gyda pheidio â rhyddhau rhywun y gwyddid ei fod yn
heintus i gartref gofal, ac yna symudodd i beidio â rhyddhau rhywun y gwyddid
ei fod yn heintus i leoliadau cymunedol. Nodwyd bod y rhanbarth ar y blaen i
ganllawiau Llywodraeth Cymru ac yn un o'r unig ranbarthau i roi'r egwyddor ar
waith ar y pryd.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod rhai clinigwyr yn parhau i weithredu ar y sail y gellid
trosglwyddo unigolyn i leoliad cartref gofal unwaith ei fod yn feddygol ffit
i'w ryddhau, hyd yn oed os yw'n profi'n bositif o hyd am COVID-19; Gofynnodd yr
Aelodau a allent gael sicrwydd y byddai'r broblem hon yn cael ei datrys pe bai
ail don yn digwydd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhwystrau a gwrthbwysau ar
waith bellach i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, er enghraifft, sicrhau bod
profion cyfoes yn cael eu cynnal; er y dywedwyd y byddai'n anodd ei rheoli gan
ei bod yn system fawr, roedd swyddogion yn dawelach eu meddwl wrth symud
ymlaen.
Gofynnwyd i swyddogion a oedd
unrhyw syniadau blaengar i'w cael mewn perthynas â lle y byddai cleifion sy'n
profi'n bositif am COVID-19 yn cael eu rhoi pe bai ail don, oherwydd cydnabuwyd
y gallai fod risgiau'n eu hwynebu wrth aros mewn ysbyty cyffredinol neu
gartrefi gofal. Nodwyd bod nifer y cleifion sydd â'r feirws yn isel iawn ar hyn
o bryd, a oedd wedi creu ei anawsterau ei hun, fodd bynnag roedd lleoli
cleifion yn flaenoriaeth a phe bai ail don yn digwydd, byddai carfan o gleifion
yn cael eu rhoi mewn wardiau COVID-19 penodol a byddai'r ysbytai maes yn cael
eu defnyddio.
Gofynnodd yr Aelodau am
eglurhad ar ddiweddglo'r yr adroddiad a ddosbarthwyd lle'r oedd yn dweud bod
nifer o feysydd, yn benodol, allu cenedlaethol y GIG i greu lle, lle na ellid
rhoi sicrwydd mewn perthynas â throsglwyddo haint neu niwed. Nodwyd mai un o'r
prif bwysau ar y GIG a'r system gofal cymdeithasol yn gynharach yn y pandemig
oedd gwagio gwelyau ysbytai a bod y canllawiau a fodolai bryd hynny'n dibynnu
ar y ffaith ei bod hi'n ddiogel rhyddhau cleifion i'r gymuned a phe baent
wedi'u heintio â'r feirws, yna gallent hunanynysu. Nodwyd bod hwn yn bwysau
rheoli enfawr ledled y DU, gan nad oedd system brofi reolaidd ar waith a bod
pwysau ar wacáu ysbytai, a oedd yn golygu bod pobl a heintiwyd yn symud o
amgylch y system, gan ddod i mewn i ysbytai a'u gadael.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i
nodi'r adroddiad.
Ar ran y Pwyllgor
Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, diolchodd y Cadeirydd i bawb sy'n
gweithio yn y sector gofal, o lefel y swyddogion i'r gweithwyr rheng flaen, gan
drosglwyddo gwerthfawrogiad pawb iddynt.