Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. E V Latham yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 71 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6 Rhagfyr, 2019. |
|||||||||||||
CLUDIANT I DEITHWYR - FFRAMWAITH BYSUS LLEOL PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Rhoddir yr awdurdod
dirprwyedig hwnnw i Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth mewn ymgynghoriad â'r
Arweinydd neu'r Aelod Cabinet perthnasol i:- 1.
Lunio Cytundeb Fframwaith gyda gweithredwyr bysiau ar
gyfer darparu gwasanaethau bysiau lleol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot. 2.
Ymrwymo i unrhyw gontractau cynhwysfawr o'r fframwaith ar
gyfer gwasanaethau bysiau lleol. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn gwneud y broses dendro'n fwy effeithlon a lleihau'r gost i'r
awdurdod lleol, bydd fframwaith yn creu mwy o gyfleoedd a mwy o hyblygrwydd i
weithredwyr bysiau lleol wrth dendro am lwybrau bysiau cymorthdaledig. Bydd cyflwyno'r fframwaith yn arbed amser i swyddogion drwy negyddu'r angen
i werthuso gwybodaeth a ddarperir gan weithredwyr bysiau bob tro y bydd angen
llwybr ar y cyngor. Mae cystadleuaeth
fach yn ddull cyflymach a symlach i bawb sy'n ymwneud ag ef. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||
RHESTR O GONTRACTWYR CYMERADWY PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Cynnwys y contractwyr canlynol ar y Rhestr
Gymeradwy o Gontractwyr yn y categorïau isod:-
Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo
modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||
RHAGLEN CAFFAEL CERBYDLU CERBYDAU A PHEIRIANNAU TRWM 2020-2021 PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r Rhaglen Caffael Cerbydau/Peirianwaith ar gyfer 2020/2021 i
adnewyddu cerbydau, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm
dros y penderfyniad: Bydd gan y cerbydau a'r gwaith newydd safon Ewropeaidd
uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy
ddefnyddio llai o danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau
allyriadau. Mae Cludiant Integredig
hefyd wedi cynnal ymarfer effeithlonrwydd cerbydau i sefydlu defnydd o
gerbydau/beirianwaith mewn adrannau gyda'r posibilrwydd o gyflwyno cerbydau
trydan llawn a cherbydau ag allyriadau isel iawn (ULEV) a pheirianwaith i mewn
i'r cerbydlu i leihau allyriadau carbon a gollwng o gerbydau cerbydlu'r
awdurdod ymhellach. Gwneir hyn ar y cyd
â gwelliannau seilwaith yn y dyfodol o fewn yr awdurdod a thrwy weithio mewn
partneriaeth ag awdurdodau lleol a chwmnïau eraill. Datblygir y manylebau i fodloni gofynion Iechyd a
Diogelwch yr awdurdod a chaiff eu trafod gydag adrannau defnyddwyr,
gwneuthurwyr a'r adran Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod y cerbydau cywir
yn cael eu caffael. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||
MAES PARCIO STATION ROAD PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Mabwysiadu’r strwythur
gost a'i chyflwyno'n unol â'r costau presennol sy'n gweithredu ar ddydd Llun,
dydd Mercher a dydd Gwener, a'u bod yn cael eu hysbysebu a'u cyflwyno os na
cheir unrhyw wrthwynebiadau. Rheswm
dros y penderfyniad: Dod â pharcio am ddim yn y lleoliad hwn i ben. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag ymarfer gynghori pan gaiff y cynllun
ei hysbysebu. |
|||||||||||||
GORCHYMYN TRAFFIG: SAFLE TACSIS, PORT TALBOT PDF 2 MB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo hysbysebu
dirymu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Safle Tacsis presennol, Gorchmynion
Rheoleiddio Safle Tacsis Rhan-amser a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Aros Cyfyngedig
a rhoi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Safle Tacsis parhaol ar waith, cyfyngu hyd
y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Aros Cyfyngedig cyfagos a diddymu'r Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig Safle Tacsis Rhan-amser yn Lower Station Road, Port Talbot. Hysbysebu'r Gorchymyn Traffig, ac os na
dderbynnir gwrthwynebiadau, ei roi ar waith ar y safle. Rheswm dros y penderfyniad: Darparu safle tacsis estynedig parhaol er mwyn diogelwch priffyrdd a
cherddwyr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag ymarfer gynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu. |
|||||||||||||
GORCHYMYN TRAFFIG: OLD ROAD, LLANSAWEL, CASTELL-NEDD PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Gwrthod y
gwrthwynebiadau a gweithredu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros,
Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg yn Hen Heol, Llansawel, Castell-nedd ar y
safle fel y'i hysbysebwyd (fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad a
ddosbarthwyd) a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny. Rheswm dros y penderfyniad: Cynnal cyfleuster croesi'n ddiogel er diogelwch y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||||||
GORCHYMYN TRAFFIG: PENYARD ROAD, MYNACHLOG NEDD, CASTELL-NEDD PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Cadarnhau'r
gwrthwynebiadau a diwygio'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros,
Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg yn Heol Penyard, Mynachlog Nedd,
Castell-nedd, Castell-nedd (fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad a
ddosbarthwyd), a'i weithredu ar y safle a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â
hynny. Rheswm dros y penderfyniad: Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||||||
GORCHYMYN/GORCHMYNION TRAFFIC: BAGLAN PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: Gwrthod y
gwrthwynebiadau a gweithredu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros,
Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg yn Rhodfa Sant Illtyd, Cilgant yr Eglwys,
Heol San Catherine a Heol yr Eglwys, Baglan (fel y nodir yn Atodiad A) ar y safle
a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny. Rheswm dros y penderfyniad: Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad
allanol. |
|||||||||||||
GORCHYMYN/GORCHMYNION TRAFFIC: MARGAM PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi'r terfyn cyflymder 40mya (Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig) sydd ar yr A48 ym Margam, Port Talbot (fel a fanylwyd yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith ar y safle. 2.
Gwrthod y gwrthwynebiadau a gweithredu'r Terfyn Cyflymder
30mya (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) ar Ten Acre Wood, Lôn Fynediad i Orendy
Margam a Grugwyllt Fawr, Margam, Port Talbot (fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad
a ddosbarthwyd) ar y safle fel y'i hysbysebwyd a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn
unol â hynny. Rheswm
dros y penderfyniadau: Lleihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad
allanol. |
|||||||||||||
BLAENRAGLEN WAITH 2020/2021 Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|||||||||||||
EITEMAU BRYS Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif
2290 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r mater sydd wedi'i
gynnwys yng Nghofnod Rhif 14 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau
hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |