Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 26ain Gorffennaf, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Stacy Curran 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd Swyddog Monitro Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Gadeirydd, a bod y Cynghorydd Darren Price (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. 

 

4.

Cyfansoddiad y Cyd-bwyllgor Corfforedig pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, lle amlygwyd y pwyntiau canlynol:

·        Yr awydd i sefydlu pedwar is-bwyllgor ar wahân i Gyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru (yr oedd manylion amdanynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd). Nodwyd nad oedd dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yr is-bwyllgorau hyn wedi’u penderfynu eto, ac y byddant yn cael eu trefnu’n ôl y galw;

 

·        Y gofyniad i sefydlu Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn dilyn trafodaethau diweddar â phartneriaid rhanbarthol, cadarnhawyd bod aelodaeth y cyfarfod hwn wedi'i sefydlu;

 

·        Y gofyniad i sefydlu Pwyllgor Safonau. Penderfynwyd o'r blaen y byddai un Pwyllgor Safonau'r Cyngor Cyfansoddol yn derbyn y cyfrifoldeb o oruchwylio safonau ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Cynigiwyd mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot fyddai'n gyfrifol am y swyddogaeth hon, yn amodol ar gymeradwyaeth Aelodau.

·        Y gofyniad i sefydlu Is-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Hysbyswyd yr aelodau fod y cyfarfod cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Medi 2022, a bydd cyfres o gyfarfodydd rheolaidd yn parhau wedi hynny.

·        Datblygwyd amserlen cyfarfodydd arfaethedig Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a bydd Blaenraglen Waith hefyd yn cael ei datblygu i hysbysu Aelodau o'r eitemau i'w hystyried ym mhob cyfarfod.


Amlygwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn benodol o ran y ffaith y byddai Prif Weithredwr arweiniol yn cael ei benodi i'r is-bwyllgorau, ac awgrymwyd y byddai'n fanteisiol i newid hyn i Swyddog Arweiniol o bob Cyngor Cyfansoddiadol. Hysbyswyd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru y gallai'r newid hwn gael ei gynnwys yn y dogfennau. 

 

Yn ystod cyfarfod blaenorol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, nodwyd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trafod materion yn ymwneud ag Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, ac egluro eu cyfraniad i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig ledled Cymru. Gofynnwyd i Swyddogion a oedd unrhyw ddiweddariadau ar hyn. Cadarnhawyd bod Swyddogion Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi mynd i gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), er mwyn ceisio cael eglurder ynghylch Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol. Yn dilyn y cyfarfod hwn, cyhoeddwyd gohebiaeth a oedd yn rhoi trosolwg o'r darpariaethau statudol mewn perthynas â'r Parciau Cenedlaethol; fodd bynnag, caiff trafodaethau pellach a manylach eu cynnal yn y misoedd i ddod. Esboniodd Swyddogion y bydd canlyniadau unrhyw gyfarfodydd yn cael eu cyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau'n cymeradwyo sefydlu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 8 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a'r cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgor a nodir ym mharagraff 9 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

 

Bod Aelodau'n cymeradwyo sefydlu'r Pwyllgor Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 12-17 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

 

Bod Aelodau'n cymeradwyo dynodi Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;

 

Bod Aelodau'n cymeradwyo sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 21-26 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;

 

Bod Aelodau'n cymeradwyo'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraff 27 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

5.

Aelodau Cyfetholedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig pdf eicon PDF 233 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor yn ymwneud â phenodi aelodau cyfetholedig ar Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; nodwyd hyn fel rhan o'r cyfansoddiad er mwyn cael, ac ystyried, brofiadau a gwybodaeth gwahanol sefydliadau. Roedd Swyddogion yn argymell bod Aelodau yn ystyried cynrychiolwyr cyfetholedig o ddau fwrdd iechyd lleol sy'n gwasanaethu'r ardal, ynghyd â'r ddwy brifysgol. Nodwyd y pedwar unigolyn ac fe'u rhestrwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Eglurwyd y byddai'r Aelodau cyfetholedig yn ymuno â'r cyfarfodydd fel arsylwyr a chyfranwyr; ni fyddai ganddynt hawliau pleidleisio, ac ni fyddent yn gallu cymryd rhan wrth gytuno ar flaenoriaethau, gan y byddai hyn yn aros gydag aelodau cyngor cyfansoddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (ac Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol ar gyfer swyddogaethau cynllunio strategol). Yn amodol ar gymeradwyaeth yr argymhellion, hysbyswyd yr aelodau y bydd y Swyddog Monitro Arweiniol yn rhoi cytundebau cyfethol, gyda'r nod y bydd yr aelodau cyfetholedig yn gallu cymryd eu lle ar Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru o fis Medi ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau'n cytuno, ar ôl derbyn cytundeb cyfethol wedi'i lofnodi, ac ar y telerau a nodwyd ym mharagraff 8 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, fod y cynrychiolwyr canlynol yn cael eu cyfethol i'r CBC:

(a) Mr Steven Wilks, Profost Prifysgol Abertawe

(b) Mr Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

(c) Ms Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

(ch) Ms Emma Woolett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

 

6.

Cyflwyniad gan Swyddogion Cludiant pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan Swyddogion Trafnidiaeth ar Ddatblygu Trafnidiaeth ac Isadeiledd, a oedd yn nodi’u sefyllfa bresennol, yn enwedig cynllunio trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.

Amlygodd y cyflwyniad y meysydd allweddol canlynol:

·        Yr ysgogwyr polisi fydd yn llunio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)

·        Gwybodaeth ynglŷn â hanes cynllunio trafnidiaeth

·        Y trefniadau llywodraethu a'r strwythur sydd ar waith ar hyn o bryd

·        Y galluogwyr sy'n ymwneud â chanllawiau'r CTRh a'r amserlen i gyflawni'r cynllun

·        Y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo o ran paratoi ar gyfer y dyfodol

·        Yr uchelgais ar gyfer y dyfodol

·        Cyflwyno prosiectau, gan gynnwys y gwaith parhaus ar draws y rhanbarth i gefnogi symud nwyddau a phobl

·        Y strwythur, y llywodraethu a'r adnodd cyflenwi sydd eu hangen i ddarparu'r CTRh

Ysgogwyr Polisi

O ran ysgogwyr polisi, eglurwyd bod Cynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol yn: Nodi'r blaenoriaethau ar gyfer cynllunio defnydd tir ar gyfer y dyfodol a bydd datblygu hyn yn llunio symudiad nwyddau a phobl yn y dyfodol.

Dywedodd Swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yr hydref diwethaf, a oedd yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth. Diben y weledigaeth oedd darparu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon, a oedd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau ynghylch pobl a newid yn yr hinsawdd. Amlygwyd mai uchelgais y strategaeth oedd cael llai o geir ar y ffordd, a chael pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy. Yn ogystal, manylodd y strategaeth ar flaenoriaethau dod â gwasanaethau’n agosach at bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio, gan ganiatáu i bobl a nwyddau symud yn rhwydd o ddrws i ddrws; canolbwyntiodd hefyd ar ddatblygu cludiant cyhoeddus, a cherdded a beicio, trwy'r blaenoriaethau teithio llesol.

Ychwanegwyd y bydd cludiant cyhoeddus, a'r uchelgais sy'n ymwneud â hyn, yn debygol o fod angen newidiadau i ddeddfwriaeth bysus yn y dyfodol. Amlygwyd bod y gwaith o ddiwygio bysus a oedd yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn parhau o hyd; ac roedd yr adolygiad ffyrdd hefyd yn dal i gael ei ddatblygu.

Hanes

Cyn 2006, eglurwyd mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol oedd cynllunio a darparu trafnidiaeth. Ychwanegodd Swyddogion y diwygiwyd Deddf Trafnidiaeth (Cymru) wedyn i symud y cyfrifoldeb yn rhanbarthol ac o 2006 i 2013 sefydlwyd corff cyfansoddiadol Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru (SWWITCH), lle bu'r pedwar awdurdod lleol yn cydweithio i lunio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol.

Nodwyd bod Deddf Trafnidiaeth (Cymru) wedi’i diwygio ymhellach yn 2014, ac o hynny ymlaen cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol ydoedd eto; fodd bynnag, cydweithiodd y rhanbarth i gyflawni'r cynllun trafnidiaeth lleol ar y cyd ar gyfer gorllewin Cymru.

Soniodd Swyddogion fod y rhanbarth yn amrywiol iawn, gyda chymunedau gwledig yn bennaf i'r gorllewin, a chymunedau trefol i'r dwyrain; bydd angen canolbwyntio ar y gwahaniaethau hyn wrth ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol.

Llywodraethu a Strwythur

Hysbyswyd yr aelodau fod cydweithio wedi parhau a bod Swyddogion yn cyfarfod yn fisol, ac roedd Aelodau'r Cabinet dros drafnidiaeth yn cyfarfod bob chwarter, drwy'r fforwm trafnidiaeth rhanbarthol. Soniwyd nad trefniant wedi ei gyfansoddi'n ffurfiol oedd y fforwm hwn,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.