Cofnodion:
Cafodd yr aelodau gyflwyniad
gan Swyddogion Trafnidiaeth ar Ddatblygu Trafnidiaeth ac Isadeiledd, a oedd yn
nodi’u sefyllfa bresennol, yn enwedig cynllunio trafnidiaeth ar draws y
rhanbarth.
Amlygodd y cyflwyniad y
meysydd allweddol canlynol:
·
Yr ysgogwyr polisi fydd yn llunio'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol (CTRh)
·
Gwybodaeth ynglŷn â hanes cynllunio trafnidiaeth
·
Y trefniadau llywodraethu a'r strwythur sydd ar waith ar
hyn o bryd
·
Y galluogwyr sy'n ymwneud â chanllawiau'r CTRh a'r
amserlen i gyflawni'r cynllun
·
Y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo o ran paratoi ar
gyfer y dyfodol
·
Yr uchelgais ar gyfer y dyfodol
·
Cyflwyno prosiectau, gan gynnwys y gwaith parhaus ar
draws y rhanbarth i gefnogi symud nwyddau a phobl
·
Y strwythur, y llywodraethu a'r adnodd cyflenwi sydd eu
hangen i ddarparu'r CTRh
Ysgogwyr Polisi
O ran ysgogwyr polisi,
eglurwyd bod Cynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol yn: Nodi'r blaenoriaethau ar
gyfer cynllunio defnydd tir ar gyfer y dyfodol a bydd datblygu hyn yn llunio
symudiad nwyddau a phobl yn y dyfodol.
Dywedodd Swyddogion fod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yr hydref
diwethaf, a oedd yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth. Diben y
weledigaeth oedd darparu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon,
a oedd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau ynghylch pobl a newid yn yr
hinsawdd. Amlygwyd mai uchelgais y strategaeth oedd cael llai o geir ar y
ffordd, a chael pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy. Yn ogystal,
manylodd y strategaeth ar flaenoriaethau dod â gwasanaethau’n agosach at bobl
er mwyn lleihau'r angen i deithio, gan ganiatáu i bobl a nwyddau symud yn
rhwydd o ddrws i ddrws; canolbwyntiodd hefyd ar ddatblygu cludiant cyhoeddus, a
cherdded a beicio, trwy'r blaenoriaethau teithio llesol.
Ychwanegwyd y bydd cludiant cyhoeddus,
a'r uchelgais sy'n ymwneud â hyn, yn debygol o fod angen newidiadau i
ddeddfwriaeth bysus yn y dyfodol. Amlygwyd bod y gwaith o ddiwygio bysus a oedd
yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn parhau o hyd; ac
roedd yr adolygiad ffyrdd hefyd yn dal i gael ei ddatblygu.
Hanes
Cyn 2006, eglurwyd mai
cyfrifoldeb yr awdurdod lleol oedd cynllunio a darparu trafnidiaeth.
Ychwanegodd Swyddogion y diwygiwyd Deddf Trafnidiaeth (Cymru) wedyn i symud y
cyfrifoldeb yn rhanbarthol ac o 2006 i 2013 sefydlwyd corff cyfansoddiadol
Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru (SWWITCH), lle bu'r pedwar
awdurdod lleol yn cydweithio i lunio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol.
Nodwyd bod Deddf Trafnidiaeth
(Cymru) wedi’i diwygio ymhellach yn 2014, ac o hynny ymlaen cyfrifoldeb yr
awdurdodau lleol ydoedd eto; fodd bynnag, cydweithiodd y rhanbarth i gyflawni'r
cynllun trafnidiaeth lleol ar y cyd ar gyfer gorllewin Cymru.
Soniodd Swyddogion fod y
rhanbarth yn amrywiol iawn, gyda chymunedau gwledig yn bennaf i'r gorllewin, a
chymunedau trefol i'r dwyrain; bydd angen canolbwyntio ar y gwahaniaethau hyn
wrth ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol.
Llywodraethu a Strwythur
Hysbyswyd yr aelodau fod cydweithio
wedi parhau a bod Swyddogion yn cyfarfod yn fisol, ac roedd Aelodau'r Cabinet
dros drafnidiaeth yn cyfarfod bob chwarter, drwy'r fforwm trafnidiaeth
rhanbarthol. Soniwyd nad trefniant wedi ei gyfansoddi'n ffurfiol oedd y fforwm
hwn, ac roedd penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth, hyd at y pwynt hwn, wedi'u
gwneud gan awdurdodau lleol unigol.
Tynnodd Swyddogion sylw at y
ffaith bod grwpiau amrywiol o Swyddogion wedi'u sefydlu dan y fforwm hwn i fwrw
ymlaen â'r gwaith cydweithredol sy'n ymwneud â chynllunio trafnidiaeth, darparu
rhaglenni, ymateb i ymgynghoriadau a chyfraniad i ddatblygiad prosiect y Metro
gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
O ran elfen cludiant cyhoeddus
y ffrydiau gwaith, nodwyd bod y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau yn cael ei
weinyddu ar y cyd rhwng Sir Gâr ac Abertawe ar draws y rhanbarth.
Yn ogystal â'r uchod, roedd
amryw o grwpiau ad hoc hefyd yn canolbwyntio ar deithio llesol,
diogelwch ffyrdd a pharcio.
Eglurwyd hefyd fod contractau
caffael ar waith ar gyfer y rhanbarth, a oedd yn ymdrin â gwasanaethau dylunio
proffesiynol ar gyfer datblygu isadeiledd ac adeiladu, yn ogystal â chydweithio
ynghylch caffael cerbydau.
Arweiniad ac Amserlenni'r CTRh
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r galluogwyr allweddol yr oedd angen iddynt fod ar waith er mwyn i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ddatblygu'r CTRh. Roedd y canllawiau
cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn hollbwysig yn hyn o beth, a byddant yn
llunio natur y gwaith y byddai ei angen er mwyn datblygu'r CTRh i'r Aelodau ei
ystyried. Soniodd Swyddogion fod Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi'r
canllawiau yn ystod cyfnod yr hydref. Cyfeiriwyd hefyd at y datganiad cyllid a
fydd ar gael o ran cyflwyno'r CTRh, yn ogystal â sôn am y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, a fydd yn pennu'r blaenoriaethau trafnidiaeth cenedlaethol.
Amlygwyd bod Swyddogion wedi
dechrau creu amcanion polisi i'w hystyried a threfnwyd y byddai adroddiad manwl
yn ymwneud â chyd-destun polisi yn cael ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yng nghyfarfod mis Medi. Nodwyd y gwahanol amcanion yn y
cyflwyniad a ddosbarthwyd; roedd gan y rhan fwyaf ohonynt ffocws clir ar
ddatblygu economaidd, yn ogystal â symud yn gynaliadwy ar draws y rhanbarth ac
i'r rhanbarth.
Esboniodd Swyddogion y bydd
angen i'r CTRh hefyd ystyried y rhyngddibyniaethau rhanbarthol; y rhain oedd y
strategaethau eraill a oedd yn pennu natur symudiad ar draws y rhanbarth:
·
Cynllun Datblygu Economaidd
·
Cynllun Datblygu Strategol
·
Cynllun Ynni
·
Strategaeth Ddigidol
·
Bargen Ddinesig
Paratoi ar gyfer y dyfodol
Hysbyswyd Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru fod gan Lywodraeth Cymru ddyheadau i ddarparu
systemau trafnidiaeth Metro; roedd tair ar draws Cymru gan gynnwys Gogledd
Cymru, y De-ddwyrain a De-orllewin Cymru. Soniwyd bod unrhyw geisiadau am
gyllid ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn gorfod ystyried canllawiau arfarnu
trafnidiaeth Cymru.
Cyfeiriodd Swyddogion at y prosiectau canlynol, a oedd ar y gweill:
·
Modelu Trafnidiaeth – gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i
ddeall natur symudiad a'i effaith ar yr isadeiledd
·
Achos Busnes Hybiau Trafnidiaeth – paratoi ar gyfer
buddsoddi yn yr hybiau trafnidiaeth
·
Achos Busnes Bysus - bydd y gwaith hwn yn llywio'r system
cludiant gyhoeddus ar gyfer y dyfodol
·
Isadeiledd Teithio Llesol – datblygu o gwmpas yr hybiau
a'r gorsafoedd er mwyn i bobl deithio'n gynaliadwy a chysylltu â'r isadeiledd
·
Strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel Iawn - bydd y gwaith
hwn yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ynni
Uchelgais
Roedd y cyflwyniad a
ddosbarthwyd yn manylu ar y cyfrifoldebau trafnidiaeth yng Nghymru. Dywedwyd
bod gan haenau amrywiol o Lywodraeth gyfrifoldebau gwahanol, yr oedd rhai
ohonynt wedi'u datganoli; roedd y tabl a oedd yn gynwysedig yn y cyflwyniad, yn
dangos pwy oedd yn atebol am gyfrifoldebau penodol.
Cafwyd trafodaeth bellach mewn
perthynas â'r cyfrifoldebau hyn, yn enwedig yr arweinwyr ar bob maes a
darparu'r gwasanaeth trafnidiaeth.
Soniodd Swyddogion am y
gwahanol astudiaethau sydd wedi bod ar y gweill gan Lywodraeth Cymru a
Thrafnidiaeth Cymru; gan gynnwys astudiaethau’n ymwneud â gwella amlder
rheilffyrdd a gwelliannau i goridorau bysus. Dywedwyd bod gwaith yn parhau a
oedd yn canolbwyntio ar edrych ar gysylltedd strategol y rhanbarth ar y
rhwydwaith rheilffyrdd, yn benodol ar brif linell de Cymru; roedd hyn yn bwysig
oherwydd tagfeydd ar y rhwydwaith rheilffyrdd i'r dwyrain.
Yn ogystal â'r uchod, roedd
gwaith yn parhau i'r hyn sy'n digwydd o fewn y rhanbarth o ran amlder a
chysylltedd y gwasanaeth; roedd amser teithio’n ffactor hollbwysig, yn enwedig
teithiau i'r gorllewin. Eglurwyd nad oedd teithio ar y rheilffordd yn gallu
cystadlu â theithio mewn car yn y maes arbennig hwn, ac felly gallai ddioddef o
ganlyniad.
Nodwyd bod gwaith wedi'i wneud
yn fwy diweddar i ddatblygu'r gwaith yn ymwneud â choridor Metro a bysus trefol
er mwyn cefnogi system drafnidiaeth integredig ac roedd blaenoriaethau mwy yn
dod i'r amlwg ynghylch y rhwydwaith trefol a'r potensial ar gyfer Metro trefol.
Cafwyd trafodaeth fer mewn
perthynas â'r prosiectau tymor hwy; er enghraifft edrych ar y defnydd o
reilffyrdd rhwng Rhydaman a Gwauncaegurwen, yn ogystal â chysylltiadau o
Abertawe i Gastell-nedd, ac o Gastell-nedd i’r Onllwyn a Chwmgwrach.
Hysbyswyd Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru o rywfaint o'r gwaith cyffrous oedd yn cael ei
wneud o ran trafnidiaeth a datgarboneiddio, wrth weithio mewn partneriaeth â
Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. Trafododd Swyddogion y cynlluniau i
ddefnyddio bysus trydan ar y llwybr rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin o ddechrau'r
flwyddyn nesaf, yn ogystal â'r cynllun ar gyfer defnydd posib bysus hydrogen o
gwmpas yr ardaloedd trefol. Soniwyd bod y bysus hydrogen ar gam cysyniad
cynnar, ac roedd Swyddogion yn ymchwilio i ddichonoldeb hyn.
Dywedodd Swyddogion ei bod yn
bwysig nodi bod y sector trafnidiaeth mewn cyflwr o drawsnewid o ran ystyried y
ffynhonnell bŵer gywir ar gyfer y dyfodol; bu trydan yn gyffredin yn y
sector cerbydau ysgafn, fodd bynnag roedd hydrogen yn cael ei weld yn amlach.
O ran y coridor bysus
strategol, nodwyd y byddai gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar
ddatgarboneiddio'r rhwydwaith wrth i'r prosiect hydrogen fynd rhagddo.
O ystyried yr uchelgais
ynghylch trafnidiaeth bysus, eglurwyd bod llawer o ryngddibyniaethau. Roedd gwahanol
agweddau y bydd angen buddsoddi ynddynt er mwyn llywio'r rhwydwaith bysus yn
unol â hynny. Hysbyswyd yr aelodau fod y diwygiad deddfwriaethol yn rhan bwysig
o hynny. Unwaith y bydd y CTRh yn penderfynu ar y blaenoriaethau polisi a'r
buddsoddiad sydd ei angen, bydd hyn wedyn yn llywio isadeiledd a buddsoddiad y
coridor bysus. Cyfeiriwyd at y strategaeth datgarboneiddio bysus, a'r angen i
sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn amser go iawn ar gyfer cwsmeriaid, yn
ogystal ag ystyried safonau gwybodaeth teithwyr ac integreiddio tocynnau.
Cyflwyniad presennol y
prosiect
Roedd y cyflwyniad a
ddosbarthwyd yn manylu ar y gwahanol brosiectau a'r ffrydiau gwaith a oedd yn
cael eu cyflwyno ar hyn o bryd dan feysydd trafnidiaeth. Amlygwyd y prif
bwyntiau canlynol:
·
Isadeiledd Priffyrdd
- Adlinio Ffordd Gerbydau’r Cymer
- Buddsoddiad Ffordd Gyswllt Cross Hands
- Cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (LlDC) a'r Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol
(GDFfLl) - buddsoddiadau mewn isadeiledd oedd y rhain a gynlluniwyd i annog
pobl i deithio'n gynaliadwy ac yn ddiogel, yn enwedig o gwmpas llwybrau cerdded
- Atgyweirio ffyrdd a ddifrodwyd gan stormydd drwy gyllid Ffyrdd Cydnerth – o
ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a'r stormydd a gafwyd, roedd rhai priffyrdd
wedi cael eu difrodi; Roedd Swyddogion wedi derbyn cyllid i allu atgyweirio
peth o'r isadeiledd hwnnw.
·
Isadeiledd Cerbydau Trydan (CT)
- Hybiau Gwefru Strategol yn Cross Hands ac Abertawe ganolog
- Gorsafoedd Gwefru Cyhoeddus – roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar draws yr
holl awdurdodau
- Tacsis Trydan - roedd cynllun peilot yn cael ei gynnal yn Sir Benfro
·
Isadeiledd Cludiant Cyhoeddus
- Hybiau/Cyfnewidfeydd Bysus – mae nifer yn cael eu hystyried a/neu eu darparu
ar draws y rhanbarth ym mhob un o'r awdurdodau
- Cynlluniau Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw (TSA) - roedd y rhain yn cael eu
cynnal mewn gwahanol ardaloedd gwledig gan gynnwys Sir Benfro a Sir Gâr
·
Isadeiledd Teithio Llesol
- Roedd nifer o ffrydiau gwaith yn cael eu cynnal yn ymwneud â theithio llesol;
roedd newid mewn blaenoriaethau gan Lywodraeth Cymru wedi effeithio ar lefel y
buddsoddiad
·
Isadeiledd Rheilffyrdd
- Gorsaf Drenau Sanclêr – hon fydd yr orsaf newydd gyntaf, a gafodd ei hariannu
gan Lywodraeth y DU
Strwythur, Llywodraethu ac
Adnoddau Cyflenwi
Hysbyswyd yr Aelodau fod rhai
ystyriaethau allweddol o ran cael yr adnodd yn ei le i gyflawni'r gwaith yr
oedd ei angen i ddatblygu'r gwaith o gynllunio trafnidiaeth ranbarthol.
Amlygwyd na fyddai modd
cyflwyno rhaglenni gwaith yn seiliedig ar y lefel bresennol o adnoddau.
Cadarnhawyd hyn hefyd gan ranbarthau eraill ledled Cymru, a oedd mewn sefyllfa
debyg.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r manylion ynghylch gofynion lefel yr adnoddau. Manylwyd ar yr adnoddau
amrywiol a'r gyllideb i gyflawni'r gwaith yn y cyflwyniad, gan gynnwys trefnu
bod Swyddog Arweiniol Datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y Rhaglen yn ei
le ar gyfer chwarter olaf y flwyddyn ariannol hon, yn ogystal â Hyfforddai
Graddedig i gefnogi elfennau o'r gwaith.
Ychwanegwyd, ar sail y
canllawiau sy'n dod o Lywodraeth Cymru, a phrofiad blaenorol gyda'r hen
gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, ei bod yn debygol y byddai gofyniad am
astudiaethau arbenigol.
Ar sail trafodaethau
ynglŷn ag adnoddau a chyllideb, tynnwyd sylw at y ffaith bod angen i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru lobïo Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu ac yn ariannu'r gwaith
angenrheidiol yn y rhanbarth. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu llythyr at
Weinidogion, er mwyn codi arian y gofynnwyd amdano ac i roi dadl dros fwrw
ymlaen cyn gynted â phosib â'r rhaglen waith.
Roedd yr Aelodau'n ystyriol
o'r angen i bob cymuned ar draws y rhanbarth gael eu cysylltu ac elwa o'r
rhwydwaith hwn; fodd bynnag, gwerthfawrogwyd bod y ffrwd waith hon yn dal yn y
camau datblygu cynnar. Dywedwyd y dylai'r canlyniad terfynol adlewyrchu
gwasanaeth dibynadwy a fforddiadwy sy'n cyrraedd cymunedau, gyda'r rhwydwaith
gorau posib.
Codwyd ymholiad ynghylch sut y
byddai blaenoriaethau pob un o'r awdurdodau lleol yn cyfrannu at y gwaith sy'n
cael ei wneud a'r hyn yr oedd y rhanbarth wedi cytuno ar y cyd yr oedd angen ei
flaenoriaethu. Yn ogystal, gofynnodd Aelodau pa ddulliau atebolrwydd oedd
wedi'u sefydlu o ran llywodraethu; a pha strwythurau oedd ar waith i sicrhau
darpariaeth yn ein hamserlenni angenrheidiol.
Dywedwyd bod cyfle drwy'r
broses cynllunio trafnidiaeth ranbarthol i lunio sut beth yw trafnidiaeth yn y
dyfodol. Eglurodd Swyddogion y bydd y CTRh yn gosod y polisïau ar gyfer y
rhanbarth, a bydd yr isadeiledd a'r buddsoddiad yn dilyn y polisïau hynny;
byddai hyn yn dod i'r amlwg unwaith y cyhoeddwyd y canllawiau cynllunio
trafnidiaeth ranbarthol gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn yr uchod, nodwyd bod
gwaith ar hyn o bryd yn mynd rhagddo gyda'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol a bydd y
canllawiau cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn ei ddisodli'n fuan. Mynegodd
Swyddogion bwysigrwydd yr astudiaethau presennol a oedd yn cael eu cynnal, gan
eu bod yn darparu sylfaen dystiolaeth i lywio'r hyn sy'n cael ei gyflwyno o ran
y blaenoriaethau hynny.
Nodwyd mai elfen bwysig arall
oedd lefel y buddsoddiad oedd yn mynd i fod ar gael ar gyfer y rhanbarth.
Amlygwyd, er mwyn buddsoddi yn y gwelliannau oedd wedi'u trafod o ran yr
isadeiledd; y bydd hyn yn dod drwy'r datganiad cyllid.
Roedd Swyddogion eisoes wedi
sôn am greu'r is-bwyllgorau, a fydd yn rhan o Gyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd un o'r is-bwyllgorau’n canolbwyntio
ar drafnidiaeth; bydd hyn yn cael ei ffurfioli ymhellach ym mis Medi, gan y
bydd angen i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ystyried yr amcanion
trafnidiaeth i'r is-bwyllgor hwnnw eu symud yn eu blaen.
Dywedwyd bod y canllawiau
gaiff eu llunio gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref, yn hollbwysig ac y dylent
adlewyrchu'r hyn oedd yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru; yn ogystal ag
adlewyrchu peth o'r gwaith parhaus o ran datblygiad y Metro.
Ychwanegodd y Cadeirydd fod
blaenoriaethau trafnidiaeth yn cael eu trafod yn ehangach ar draws y rhanbarth,
er enghraifft yng Nghydbwyllgorau Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe; roedd
blaenoriaethau'n cael eu datblygu drwy'r fforwm hwn, a byddant yn debygol o
gysylltu â blaenoriaethau y gall Aelodau eu trafod mewn cyfarfodydd yn y
dyfodol.
Dywedodd yr Aelodau y byddai
angen trafodaeth bellach ar ryw adeg yn y dyfodol ynglŷn â'r
blaenoriaethau y cytunwyd arnynt a'r drefn ar gyfer eu cyflawni. Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o wybodaeth ynglŷn â phryd y byddai angen i hynny
ddigwydd a phwy fyddai'n rhan o'r trafodaethau hyn.
Cadarnhawyd y byddai'r mathau
yma o drafodaethau'n rhan o'r cam nesaf. Dywedwyd y byddai angen i ganlyniad y
trafodaethau hyn gyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o
ran eu portffolios buddsoddi a'u blaenoriaethau, gan y byddent yn darparu'r
cyllid ar gyfer y gwaith. Hysbyswyd yr aelodau fod sesiwn yn cael ei threfnu yn
y dinas-ranbarth ynghylch y prosiectau mawr a oedd ar y gweill; byddai
isadeiledd y Metro a thrafnidiaeth yn rhan o'r sesiynau hyn. Ychwanegwyd y bydd
cyfle i'r Aelodau archwilio rhai o'r agweddau gwleidyddol o ran rhai o'r
prosiectau mawr.
PENDERFYNWYD:
Bod Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru yn ysgrifennu llythyr, wedi ei gyfeirio at Weinidogion
Cymru, ynglŷn â cheisiadau am gyllid ac i roi dadl dros sicrhau bod gan y
rhaglen waith trafnidiaeth gefnogaeth briodol ar waith.
Dogfennau ategol: