Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol - Dydd Llun, 15fed Ebrill, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 421 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Diweddariad Cyflenwi - Cronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) pdf eicon PDF 422 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau o ran cyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG).

 

Amlygodd yr adroddiad a ddosbarthwyd strwythur y rhaglen a sefydlwyd dros y 12 mis diwethaf yn y rhanbarth, a'i chydweddiad strategol yn erbyn y Cynllun Cyflawni Economaidd a natur y cyflawniad. Hysbyswyd yr aelodau fod y rhaglen wedi'i strwythuro o amgylch cyfres o brosiectau angori, yn ogystal â nifer o brosiectau annibynnol sy'n bwydo i mewn i'r ddarpariaeth. Soniwyd bod cyfanswm cyllideb o tua £130 miliwn o arian CFfG craidd wedi'i ddyrannu i'r rhaglen hon.

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat; nid oedd y ffigurau wedi'u cynnwys fel rhan o'r adroddiad a ddosbarthwyd, gan fod cyfnod hawlio ar y gweill ar hyn o bryd. Eglurwyd hyn i'r Pwyllgor, gan gynnwys canlyniadau disgwyliedig y broses.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y bu ceisiadau am estyniadau gyda rhaglenni blaenorol, a gwrthodwyd y rhain tan yn hwyr yn broses; fodd bynnag, yn y pen draw, cawsant eu cymeradwyo. Soniwyd y gallai hyn ddigwydd mewn perthynas â'r rhaglen waith hon. Dywedodd swyddogion ei bod hefyd yn bwysig nodi bod dyfarniadau grant i fusnesau sy'n cael eu talu unwaith y bydd y grant wedi'i gwblhau, nid yn ystod y broses gyflawni.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gwariant o fewn y rhaglen yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn flwyddyn tri ar hyn o bryd, er mai dim ond ers y 12 mis diwethaf yr oedd yn cael ei chyflawni. Nodwyd y byddai angen cynnal trafodaethau dros y deufis nesaf ynghylch a fyddai angen gwario'r arian erbyn mis Rhagfyr, neu a oedd opsiwn i ymestyn hyn am ddau chwarter arall.

 

Yn dilyn ymlaen o'r uchod, eglurwyd y byddai dau chwarter yn galluogi gwariant llawn. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion fod hyblygrwydd o fewn y rhaglen; pe bai angen gwario'r arian erbyn dyddiad cau mis Rhagfyr er mwyn ei chyflawni, a dyddiad cau mis Mawrth ar gyfer cau'r rhaglen, gellid dargyfeirio'r arian i weithgareddau eraill sydd wedi'u cydweddu'n strategol. Ychwanegwyd na ellid symud arian rhwng dyraniadau lleol, gan fod y rhain yn sefydlog fesul Awdurdod Lleol.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r adborth yr oedd swyddogion wedi bod yn ei dderbyn gan awdurdodau partner, gan gynnwys y datganiad bod y rhaglen yn gytbwys o ran gwariant cyllid. Nodwyd bod rhai symudiadau'n cael eu gwneud rhwng cymunedau a themâu busnes lle bo angen, ac mae hyblygrwydd lleol yn bodoli i alluogi ar gyfer hynny. Hysbyswyd yr aelodau fod cynlluniau grant newydd yn cael eu llunio mewn rhai achosion, megis grantiau sy'n gysylltiedig ag Eiddo Deallusol (ED) ar gyfer mentrau newydd, i fynd ochr yn ochr â'r ddewislen o opsiynau grant eraill sydd ar gael. Daethpwyd i'r casgliad bod y rhaglen yn cael ei derbyn yn dda hyd yn hyn.

 

Mynegwyd bod gwariant yn aml yn her gyda'r math hwn o raglen; fodd bynnag, roedd yr holl fecanweithiau ar waith i'w alluogi i gael ei chyflwyno yn effeithiol ac yn amserol. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn gallu rhoi crynodeb llawn i'r aelodau ar gyfer y rhanbarth cyfan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.