Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Ynni - Dydd Llun, 13eg Mai, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:

 

 

Liz Bickerton

Datganiad cyffredinol - Gan ei bod yn ymgynghorydd llawrydd, sy'n ymgymryd â nifer o werthusiadau ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector,

 y mae rhai ohonynt yn cynnwys effeithlonrwydd ynni.

Mae effeithlonrwydd ynni yn un o flaenoriaethau'r Is-bwyllgor Ynni

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Cynlluniau Cyflawni Datgarboneiddio wedi'u Costio a'r Her Ariannu ar gyfer Sero Net 2030 pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol ynghylch cynlluniau cyflawni datgarboneiddio wedi'u costio ar gyfer Sero Net, a'r heriau cyllido ehangach sy'n gysylltiedig â hyn.

Roedd yr adroddiad a gylchredwyd wedi hysbysu'r Pwyllgor o'r ymagwedd a ddefnyddiwyd gan Gyngor Abertawe, yn dilyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), er mwyn cyflawni uchelgais Sero Net Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod angen i Gynghorau gostio'u cynlluniau gweithredu’n llawn a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Chynlluniau Ariannol Tymor Canolig.

Esboniodd Swyddogion o Gyngor Abertawe eu bod wedi datblygu cynllun cyflawni wedi'i gostio ar lefel uchel, a oedd yn ffordd o bennu gwerth ariannol ar yr hyn y gofynnwyd amdano. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch canfyddiadau'r darn hwnnw o waith, a oedd yn cynnwys adeiladau ac ynni, goleuadau stryd, y cerbydlu a'r cerbydlu llwyd. Eglurwyd bod y broses hon yn rhoi syniad o faint o arian y byddai ei angen i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn; nodwyd bod hyn yn gost uchel i Awdurdodau Lleol.

Mynegwyd fod Awdurdodau Lleol wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn er mwyn cyflawni Sero Net, fodd bynnag, byddai angen rhai newidiadau o lefel Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i wneud hynny.

Darparodd Swyddogion o Gyngor Sir Gâr eu profiadau a chadarnhasant eu bod wedi mabwysiadu ymagwedd debyg a bod ganddynt ffigurau tebyg i Gyngor Abertawe.

Mynegwyd y byddai'n fuddiol pe byddai ymagwedd gyson ar draws Cymru o ran y ffrwd waith hon, a fyddai'n caniatáu i bob Awdurdod Lleol lunio methodoleg gyson. Cefnogwyd y datganiad hwn gan yr Aelodau a mynegasant fod y budd mwyaf a ddeilliai o wneud hyn yn ymwneud â chyffredinrwydd lle gallai Cynghorau gaffael ar y cyd, yn ogystal â'r gallu i ddod o hyd i flaenoriaethau fel Rhanbarth. Ychwanegwyd y byddai'n fwy buddiol fyth pe bai hyn yn cael ei wneud yn genedlaethol.

Amlygodd ymgynghorwyr allanol, o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, fod grŵp gorchwyl a gorffen panel strategaeth hinsawdd wedi'i sefydlu gyda ffocws ar gaffael; a oedd yn edrych yn benodol ar y ffyrdd y gallai'r Gwasanaeth Ynni gefnogi Awdurdodau Lleol.

Cyfeiriwyd at wrthbwyso, a'r ffaith, er bod Cynghorau yn prynu 100% o ynni adnewyddadwy, nad oedd hyn yn cael hyn ei gyfrif o ran gwrthbwyso. Mynegodd yr Aelodau eu rhwystredigaeth gyda hyn ac roeddent yn teimlo ei fod yn gyfle a gollwyd. 

Yn dilyn ymlaen o'r uchod, nodwyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd mai gwrthbwyso ddylai fod y dewis olaf, ac y dylai'r ffocws fod ar bob ymdrech resymol i leihau allyriadau. Hysbyswyd y Pwyllgor fod tîm o fewn Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a oedd yn gweithio'n galed i benderfynu sut olwg fyddai ar wrthbwyso. Yn ogystal, roedd gwaith yn cael ei wneud i nodi sut y gellid diweddaru'r canllawiau; gyda ffocws ar ynni adnewyddadwy a phrynu.

Roedd Swyddogion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro hefyd wedi rhoi trosolwg o'r gwaith yr oeddent yn ei wneud. Cadarnhaodd cynrychiolwyr o Gastell-nedd Port Talbot eu bod wedi comisiynu'r Ymddiriedolaeth Garbon ym mis Ionawr 2024 i'w cynorthwyo i lunio cynllun Sero Net wedi'i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.