Agenda item

Cynlluniau Cyflawni Datgarboneiddio wedi'u Costio a'r Her Ariannu ar gyfer Sero Net 2030

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol ynghylch cynlluniau cyflawni datgarboneiddio wedi'u costio ar gyfer Sero Net, a'r heriau cyllido ehangach sy'n gysylltiedig â hyn.

Roedd yr adroddiad a gylchredwyd wedi hysbysu'r Pwyllgor o'r ymagwedd a ddefnyddiwyd gan Gyngor Abertawe, yn dilyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), er mwyn cyflawni uchelgais Sero Net Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod angen i Gynghorau gostio'u cynlluniau gweithredu’n llawn a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Chynlluniau Ariannol Tymor Canolig.

Esboniodd Swyddogion o Gyngor Abertawe eu bod wedi datblygu cynllun cyflawni wedi'i gostio ar lefel uchel, a oedd yn ffordd o bennu gwerth ariannol ar yr hyn y gofynnwyd amdano. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch canfyddiadau'r darn hwnnw o waith, a oedd yn cynnwys adeiladau ac ynni, goleuadau stryd, y cerbydlu a'r cerbydlu llwyd. Eglurwyd bod y broses hon yn rhoi syniad o faint o arian y byddai ei angen i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn; nodwyd bod hyn yn gost uchel i Awdurdodau Lleol.

Mynegwyd fod Awdurdodau Lleol wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn er mwyn cyflawni Sero Net, fodd bynnag, byddai angen rhai newidiadau o lefel Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i wneud hynny.

Darparodd Swyddogion o Gyngor Sir Gâr eu profiadau a chadarnhasant eu bod wedi mabwysiadu ymagwedd debyg a bod ganddynt ffigurau tebyg i Gyngor Abertawe.

Mynegwyd y byddai'n fuddiol pe byddai ymagwedd gyson ar draws Cymru o ran y ffrwd waith hon, a fyddai'n caniatáu i bob Awdurdod Lleol lunio methodoleg gyson. Cefnogwyd y datganiad hwn gan yr Aelodau a mynegasant fod y budd mwyaf a ddeilliai o wneud hyn yn ymwneud â chyffredinrwydd lle gallai Cynghorau gaffael ar y cyd, yn ogystal â'r gallu i ddod o hyd i flaenoriaethau fel Rhanbarth. Ychwanegwyd y byddai'n fwy buddiol fyth pe bai hyn yn cael ei wneud yn genedlaethol.

Amlygodd ymgynghorwyr allanol, o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, fod grŵp gorchwyl a gorffen panel strategaeth hinsawdd wedi'i sefydlu gyda ffocws ar gaffael; a oedd yn edrych yn benodol ar y ffyrdd y gallai'r Gwasanaeth Ynni gefnogi Awdurdodau Lleol.

Cyfeiriwyd at wrthbwyso, a'r ffaith, er bod Cynghorau yn prynu 100% o ynni adnewyddadwy, nad oedd hyn yn cael hyn ei gyfrif o ran gwrthbwyso. Mynegodd yr Aelodau eu rhwystredigaeth gyda hyn ac roeddent yn teimlo ei fod yn gyfle a gollwyd. 

Yn dilyn ymlaen o'r uchod, nodwyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd mai gwrthbwyso ddylai fod y dewis olaf, ac y dylai'r ffocws fod ar bob ymdrech resymol i leihau allyriadau. Hysbyswyd y Pwyllgor fod tîm o fewn Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a oedd yn gweithio'n galed i benderfynu sut olwg fyddai ar wrthbwyso. Yn ogystal, roedd gwaith yn cael ei wneud i nodi sut y gellid diweddaru'r canllawiau; gyda ffocws ar ynni adnewyddadwy a phrynu.

Roedd Swyddogion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro hefyd wedi rhoi trosolwg o'r gwaith yr oeddent yn ei wneud. Cadarnhaodd cynrychiolwyr o Gastell-nedd Port Talbot eu bod wedi comisiynu'r Ymddiriedolaeth Garbon ym mis Ionawr 2024 i'w cynorthwyo i lunio cynllun Sero Net wedi'i gostio; roeddent yn disgwyl i hyn gael ei orffen erbyn mis Hydref neu fis Tachwedd 2024. Nododd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro eu bod wedi cymryd ymagwedd wahanol i'r tri Awdurdod Lleol arall a'u bod yn symud ymlaen fesul achos er mwyn ceisio'i gadw'n gost-niwtral.

Clywodd yr Aelodau safbwynt Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r ardaloedd yr oeddent yn bwriadu mynd i'r afael â nhw yn y dyfodol. Nodwyd mai caffael a gwastraff oedd y rhain, gan mai dyma'r meysydd lle’r oedd ganddynt yr ôl troed mwyaf sy'n weddill.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r camau gweithredu tymor byr, gan gynnwys gofyniadau Llywodraeth Cymru a'r rhwystrau cysylltiedig; a pha gamau pendant y gall yr Is-bwyllgor Ynni eu cymryd i gefnogi'r ymdrech.

Un o'r rhwystrau a amlygwyd gan Swyddogion oedd y broses o gael cyllid grant; yn enwedig yr amseroedd sy'n gysylltiedig â chael y cynlluniau'n barod i'w cyflwyno a'r amseriadau y mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol wario'r grant oddi mewn iddynt. Nodwyd, pe bai'r broses yn aros yr un fath, y byddai angen mwy o adnoddau ar Gynghorau i allu gwneud hyn yn well.

Eglurwyd bod darn o waith yn cael ei wneud ar y cyd gan Swyddogion a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, o ran cyfuno’r ceisiadau gan Lywodraeth Cymru a’u symud yn eu blaenau. Ategwyd y byddai gweithdy'n cael ei drefnu i drafod hyn yn fanylach; bydd canlyniadau'r gweithdy yn cael eu darparu mewn cyfarfod o'r Is-bwyllgor Ynni yn y dyfodol. 

Rhoddwyd trosolwg byr i'r Pwyllgor o'r Cynllunydd Senario Sero Net a oedd yn cael ei ddatblygu gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Eglurwyd y byddai'r offeryn hwn yn casglu data o bob un o'r 22 Awdurdod Lleol ledled Cymru, yn bennaf ynghylch y defnydd o ynni gan adeiladau, goleuadau stryd a'r cerbydlu. Mynegwyd y bydd yr wybodaeth yn cael ei mapio hyd at y flwyddyn 2030, gyda'r diben o gymhwyso ffactorau newid mewn allyriadau rhag troi ymyriadau penodol ymlaen, fel y gall Cynghorau nodi'r hyn sy'n digwydd i'w hallyriadau os ydynt yn rhoi'r mesurau ar waith. Hysbyswyd yr Aelodau, ar gyfer y cerbydlu a goleuadau stryd, y byddai hyn yn symudiad i gerbydau trydan ac yn newid i oleuadau LED; ac ar gyfer adeiladau roedd ambell opsiwn sydd yn y bôn yn adeiladu o opsiwn datgarboneiddio'n unig, i ychwanegu mesurau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy er mwyn gwneud hyn yn fwy fforddiadwy.

O ran amserlenni sy'n gysylltiedig â'r cynllunydd, nodwyd bod y cais am ddata wedi'i gyflwyno ac y byddai'n cael ei aildderbyn erbyn diwedd Mehefin 2024. Ychwanegwyd y byddai Swyddogion yn treulio haf 2024 yn adeiladu'r modelau, cyn cynnal digwyddiadau hyfforddi ym mis Medi/Hydref 2024 i ddangos i Awdurdodau Lleol sut i ddefnyddio'r offeryn; yn dilyn hyn, bydd adroddiad cryno'n cael ei anfon at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am y canfyddiadau cyffredinol, ac yna byddai pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am brofi'r offeryn a chynnal senarios.

Yn dilyn ymlaen o'r trosolwg, cynhaliwyd trafodaeth ynghylch defnyddio un fframwaith ar gyfer y 22 o Awdurdodau Lleol, y mae gan bob un ohonynt safbwyntiau gwahanol; a sut y bydd technolegau sy'n newid yn barhaus hefyd yn effeithio ar y defnydd o'r offeryn. Cydnabuwyd y bydd cyfyngiadau i'r offeryn, ac y byddai'n rhaid i'r Gwasanaeth Ynni wneud rhai rhagdybiaethau i’w galluogi i fodelu gweithio ar y raddfa hon; nid oedd digon o adnoddau i allu cynhyrchu model wedi'i addasu ar gyfer pob Awdurdod Lleol. Dywedodd ymgynghorwyr allanol eu bod wedi'i addasu i geisio'i wneud mor berthnasol â phosib; fodd bynnag, bydd gwahaniaethau ar gyfer pob Awdurdod Lleol.

Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Gwasanaeth Ynni yn gallu cynorthwyo Awdurdodau Lleol gyda'u hadolygiad dichonoldeb manwl a thechnegol; byddai hyn yn cyfrannu at y cynllunydd senario.

Mynegwyd y byddai'r Pwyllgor yn elwa o ddeall sut olwg fyddai ar y cynllun caffael ar gyfer y cerbydlu, ac a oedd gwelededd ar draws y Rhanbarth.

Yn dilyn y drafodaeth, nodwyd yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: