Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol - Dydd Llun, 2ail Medi, 2024 11.30 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman  E-bost: c.plowman@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mai 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Polisi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (Drafft) a'r Diweddaraf am yr Ymgynghoriad pdf eicon PDF 624 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd diweddariad o ran yr adroddiad ar gynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth o Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Cyfeiriwyd at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddehongli'r Strategaeth a nodi sut yr oedd yn ymwneud â Rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi cyd-destun sut y byddai strategaeth Llwybr Newydd yn cael ei rhoi ar waith ar lefel ranbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amserlenni ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd swyddogion wedi mynegi pryderon yn y gorffennol ynghylch yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a oedd yn effeithio ar gynnydd.  Rhestrwyd y rhain yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio'r amserlen, yn benodol, newid dyddiad ycyflwyniad terfynol o fis Ebrill 2025 i fis Mehefin 2025.

Derbyniodd yr Aelodau'r diweddariadau canlynol mewn perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o waith wedi'i gwneud o ran casglu, dehongli a deall data. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, cynhyrchwyd 'llyfr data'. Eglurwyd bod y 'llyfr data' yn cynnwys dadansoddiad meintiol o ffynonellau data amrywiol gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru a data teithio'r Cyfrifiad. Yn ogystal ag asesiad o hygyrchedd drwy deithio llesol, bysus, rheilffyrdd a cheir i sawl cyrchfan allweddol ar draws y rhanbarth, roedd yr ymarfer mapio hwn yn rhoi trosolwg o rai o'r problemau allweddol yn y rhanbarth. Soniodd swyddogion y gallai'r 'llyfr data' gael ei ddosbarthu i'r Aelodau os oeddent am weld yr wybodaeth yn fanylach.

Cadarnhaodd swyddogion mai'r cam nesaf yn y broses oedd dechrau edrych ar gynlluniau penodol, yn benodol pa gynlluniau y gellid eu rhoi ar waith yn y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.  Y cyfnod hwn oedd prif ffocws bloc cyllido'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a fydd yn cael ei ddarparu dros y blynyddoedd nesaf. Soniwyd bod yr Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn cynorthwyo yn y cam hwn drwy gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod matrics asesu hefyd yn cael ei ddatblygu er mwyn deall sut i asesu a blaenoriaethu'r cynlluniau.

Gan barhau o'r uchod, rhoddodd Swyddogion drosolwg o sut y byddai'r matrics asesu'n gweithio. Yn gyntaf, nodwyd y byddai rhestr o gynlluniau'n cael ei chasglu gan ffynonellau amrywiol megis Awdurdodau Lleol a Trafnidiaeth Cymru.  Bydd y rhestr yn destun adolygiad drwy Weithdy Swyddogion, lle bydd Swyddogion yn dechrau cael gwared ar gynlluniau nad oeddent yn debygol o gael eu cyflwyno o fewn cyfnod pum mlynedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chynlluniau na ellid eu cyflawni'n realistig. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, eglurwyd y byddai'r cynlluniau sy'n weddill yn destun dadansoddiad manwl pellach. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad ansoddol a dadansoddiad rhifiadol. Ychwanegwyd y bydd y Fframwaith Polisi'n arwain rhai o'r dewisiadau ynghylch cynlluniau posib.

Symudodd y drafodaeth ymlaen at ymgynghori ac ymgysylltu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynllun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

Eglurwyd y byddai cyfarfod arfaethedig yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol ym mis Hydref yn cael ei ddefnyddio fel gweithdy ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor; a threfnir cyfarfod arbennig ar gyfer 15 Tachwedd 2024.

 

Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.