Cofnodion:
Darparwyd diweddariad o ran yr adroddiad ar gynnydd y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn
gofyn am gymeradwyaeth o Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol.
Cyfeiriwyd at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr
Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddehongli'r
Strategaeth a nodi sut yr oedd yn ymwneud â Rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae
Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi cyd-destun sut y
byddai strategaeth Llwybr Newydd yn cael ei rhoi ar waith ar lefel ranbarthol.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amserlenni ar gyfer
cyflwyno'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd swyddogion wedi mynegi
pryderon yn y gorffennol ynghylch yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a
oedd yn effeithio ar gynnydd. Rhestrwyd
y rhain yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio
cymeradwyaeth i ddiwygio'r amserlen, yn benodol, newid dyddiad ycyflwyniad
terfynol o fis Ebrill 2025 i fis Mehefin 2025.
Derbyniodd yr Aelodau'r diweddariadau canlynol mewn
perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:
Tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o waith wedi'i gwneud
o ran casglu, dehongli a deall data. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol, cynhyrchwyd 'llyfr data'. Eglurwyd bod y 'llyfr data'
yn cynnwys dadansoddiad meintiol o ffynonellau data amrywiol gan gynnwys
Trafnidiaeth Cymru a data teithio'r Cyfrifiad. Yn ogystal ag asesiad o
hygyrchedd drwy deithio llesol, bysus, rheilffyrdd a cheir i sawl cyrchfan
allweddol ar draws y rhanbarth, roedd yr ymarfer mapio hwn yn rhoi trosolwg o rai
o'r problemau allweddol yn y rhanbarth. Soniodd swyddogion y gallai'r 'llyfr
data' gael ei ddosbarthu i'r Aelodau os oeddent am weld yr wybodaeth yn
fanylach.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r cam nesaf yn y broses oedd
dechrau edrych ar gynlluniau penodol, yn benodol pa gynlluniau y gellid eu rhoi
ar waith yn y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. Y cyfnod hwn oedd prif ffocws bloc cyllido'r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a fydd yn cael ei ddarparu dros y blynyddoedd
nesaf. Soniwyd bod yr Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn
cynorthwyo yn y cam hwn drwy gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod matrics asesu hefyd yn cael ei ddatblygu er
mwyn deall sut i asesu a blaenoriaethu'r cynlluniau.
Gan barhau o'r uchod, rhoddodd Swyddogion drosolwg o sut
y byddai'r matrics asesu'n gweithio. Yn gyntaf, nodwyd y byddai rhestr o
gynlluniau'n cael ei chasglu gan ffynonellau amrywiol megis Awdurdodau Lleol a
Trafnidiaeth Cymru. Bydd y rhestr yn
destun adolygiad drwy Weithdy Swyddogion, lle bydd Swyddogion yn dechrau cael
gwared ar gynlluniau nad oeddent yn debygol o gael eu cyflwyno o fewn cyfnod
pum mlynedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chynlluniau na ellid eu
cyflawni'n realistig. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, eglurwyd y byddai'r
cynlluniau sy'n weddill yn destun dadansoddiad manwl pellach. Bydd hyn yn
cynnwys dadansoddiad ansoddol a dadansoddiad rhifiadol. Ychwanegwyd y bydd y
Fframwaith Polisi'n arwain rhai o'r dewisiadau ynghylch cynlluniau posib.
Symudodd y drafodaeth ymlaen
at ymgynghori ac ymgysylltu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynllun
ymgysylltu manwl ar waith. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr 'Y Ddadl o
Blaid Newid' wedi dod i ben yr wythnos diwethaf, ac roedd Swyddogion ar fin dechrau
ymgysylltu â rhai o'r rhanddeiliaid technegol dros yr wythnosau nesaf. Ar ôl
i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, roedd Swyddogion wedi dechrau gweithio
ar archwilio'r ymatebion. Derbyniwyd
ychydig dros 800 o ymatebion, a oedd wedi'u gwasgaru'n weddol gyfartal ar draws
y rhanbarth, er bod ychydig mwy o ymatebion wedi cyrraedd o ardaloedd
Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Soniwyd nad oedd Swyddogion yn poeni am
hyn ac roeddent yn credu bod yr ymatebion yn sampl cynrychioliadol o'r
rhanbarth. Cyfeiriwyd at y themâu allweddol a oedd yn cael eu codi o'r
ymatebion i'r ymgynghoriad. Yn gyntaf, y
safbwynt nad oedd digon o wasanaethau bysus a rheilffyrdd a'r hygyrchedd i'r
gwasanaethau hynny, o ran oriau gweithredu a nifer y gwasanaethau. Thema arall
a nodwyd oedd pryderon ynghylch y ffaith bod teithio llesol ar frig agenda
Llywodraeth Cymru, gan fod rhai pobl yn cwestiynu perthnasedd beicio a cherdded
mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ardaloedd gwledig. Y pwynt pryder arall a
godwyd yn yr ymgynghoriad oedd gallu a chynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd.
Dywedodd swyddogion nad oedd yr arweiniad yn caniatáu ceisiadau am gynlluniau
cynnal a chadw, fodd bynnag, byddai angen sylwebaeth gref ynghylch cynnal a
chadw o fewn elfen bolisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Cyfeiriodd swyddogion at y map
manwl i randdeiliaid a gynhyrchwyd i roi arweiniad o ran pa randdeiliaid
technegol y byddai angen iddynt ymgysylltu â nhw. Roedd y broses hon wedi
dechrau'r wythnos ddiwethaf gyda chyrff megis Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Cadarnhawyd y byddai sesiynau pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon, gyda'r
gweithredwyr bysus a rheilffyrdd yn benodol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y
byddai'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft yn destun ymgynghoriad
cyhoeddus ffurfiol rhywbryd yn ystod y broses. Mae'n debygol y bydd hyn yn
digwydd ar ddechrau 2025.
Cynhaliwyd trafodaeth am yr
Asesiad Lles. Roedd swyddogion i fod i dderbyn drafft o'r adroddiad cwmpasu. Ar
ôl derbyn hyn, byddent yn ymgysylltu â Swyddogion arbenigol o fewn y pedwar
Awdurdod Lleol ynghylch rhai o'r pynciau a gynhwysir yn yr adroddiad cwmpasu.
Ychwanegwyd y byddai'r Asesiad Lles yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad
ffurfiol gyda'r ymgyngoreion statudol.
I gloi'r diweddariad, dywedodd
Swyddogion y byddent yn trefnu gweithdy cyn bo hir i'w gynnal ym mis Hydref
2024 gydag aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol. Prif ffocws y
gweithdy hwn fyddai trafod cynnydd gyda chynlluniau a rhaglenni.
Roedd y Pwyllgor yn hapus gyda
nifer yr ymatebion a gafwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus 'Y Ddadl
o Blaid Newid', a gofynnodd a allai Swyddogion rannu rhagor o fanylion ynghylch
faint o bobl a ymatebodd o bob ardal Awdurdod Lleol. Cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn darparu rhagor o fanylion mewn perthynas â'r ymatebion i'r
ymgynghoriad y tu allan i'r cyfarfod. Fodd bynnag, fe'u rhannwyd fel a ganlyn:
-
Ardal Abertawe: 290 o ymatebion
-
Ardal Castell-nedd Port Talbot: 233 o ymatebion
-
Ardal Sir Benfro: 140 o ymatebion
-
Ardal Sir Gaerfyrddin: 132 o ymatebion
-
Y tu allan i ranbarth de-orllewin Cymru: 29 o ymatebion
Nodwyd bod mwyafrif yr
ymatebion gan aelodau unigol o'r cyhoedd. Bydd ymatebion gan sefydliadau'n rhan
o'r ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid. Tynnodd y swyddogion sylw at y
ffaith eu bod hefyd yn mynd i fod yn cyfrifo faint o bobl a ymatebodd fesul poblogaeth
er mwyn darparu cyd-destun pellach.
Awgrymodd yr aelodau y
byddai'n ddefnyddiol hefyd gwybod a oedd y problemau a godwyd gan y rheini mewn
ardal drefol yn wahanol i'r problemau a godwyd gan y rheini yn yr ardal wledig.
Cydnabu'r Pwyllgor faint o
waith a oedd eisoes wedi'i wneud i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol, a gofynnodd a gynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr hyn a fydd yn
digwydd yn y tymor hwy. Nodwyd, er bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn
gynllun pum mlynedd, nododd y Fframwaith Polisi gyfeiriad clir o ran ymagweddau
carbon is a chynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth a'r economi. Roedd ymdrechion yn
cael eu gwneud i ymwreiddio gwaith arall gyda'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol, er enghraifft cynllunio defnydd tir, i sicrhau bod gan y rhanbarth
gynllun cadarn ar waith y tu hwnt i'r cyfnod pum mlynedd.
Yn ogystal â'r uchod,
hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion yn ceisio deall a ellid defnyddio rhywfaint
o arian y cynllun cyflenwi ar gyfer cynlluniau a oedd â chyfnod datblygu
hirach. Roedd swyddogion yn dal i aros am eglurder gan gydweithwyr yn Llywodraeth
Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynghylch hyn.
Cafwyd trafodaeth bellach
ynglŷn â chynnal a chadw, a nododd Swyddogion fod hon yn her sylweddol.
Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, ni chaniatawyd ceisiadau am gynlluniau cynnal a
chadw. Fodd bynnag, roedd Swyddogion yn ystyried sut y gallent sicrhau bod
gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnwys mewn cynlluniau yn y dyfodol.
Cyfeiriwyd at gludo llwythi a logisteg, yn enwedig mewn perthynas â
Cherbydau Nwyddau Trwm. Roedd swyddogion yn ceisio penderfynu a ellid annog
cerbydau nwyddau trwm i ddefnyddio llwybrau mwy addas, o ran polisi. Yn ogystal
â hyn, nodwyd bod problemau gyda chyfleusterau ar gyfer gyrwyr lorïau. Roedd
swyddogion am archwilio cyfleusterau ar ochr y ffordd a chapasiti a galluoedd y
rheini. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau hefyd fod heriau o ran lorïau yng nghanol
trefi a dinasoedd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.
Gofynnodd yr Aelodau am
ddiweddariad o ran y costau sy'n gysylltiedig â datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr amcangyfrif amlinellol wedi
cael ei gadarnhau hyd yn hyn. Fodd
bynnag, gallai Swyddogion roi trosolwg byr i Aelodau'r Pwyllgor o'r sefyllfa
ariannol bresennol. Cadarnhawyd bod Swyddogion yn derbyn rhywfaint o gefnogaeth
gan Trafnidiaeth Cymru ac roedd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
wedi dyrannu £51,500 i'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd hyn ar ben y cyllid a dderbyniwyd gan
Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r uchod, eglurwyd
bod rhai cynlluniau cyfochrog a oedd yn gyfranwyr allweddol at ddatblygiad y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae'r fasnachfraint bysus a dyluniad y
rhwydwaith bysus yn un o'r cynlluniau hyn. Nodwyd bod yr Awdurdodau Lleol a
Trafnidiaeth Cymru'n gweithio ar y cynllun hwn ar hyn o bryd. Bydd ymarfer
ymgysylltu dilynol a sesiwn friffio gyda'r Aelodau ynghylch hynny. Cyfeiriodd
swyddogion hefyd at y prosiect metro a oedd yn parhau. Bydd y prosiect hwn
hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau a fydd yn cyfrannu tuag at y cynllun
cyflenwi.
Cydnabuwyd y bydd rhai o'r
cynlluniau yn cynnwys Bwrdeistrefi Sirol a rhanbarthau eraill ledled Cymru.
Felly, gofynnodd yr Aelodau a oedd trefniant lle rhannwyd costau ar draws
Awdurdodau Lleol os oeddent yn cydweithio ar y datblygiad. Cadarnhaodd swyddogion
y byddai'r manylion hyn yn rhan o'r broses ymgeisio. Roedd nifer o enghreifftiau eisoes yn bodoli
o ran mesurau cyd-weithio ar draws awdurdodau.
PENDERFYNWYD:
1.
Nodi'r adroddiadau cynnydd llafar gan swyddogion ar
ffrydiau gwaith datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
2.
Cymeradwyo fframwaith polisi'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol.
3.
Cymeradwyo rhaglen waith datblygiad ddiwygiedig y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Dogfennau ategol: