Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cynllun Gweithredu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) PDF 478 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
fod dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i baratoi
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh); cam cyntaf y gwaith hwn oedd llunio
Cynllun Gweithredu, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref
2023. Atodwyd y Cynllun Gweithredu
drafft fel Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac roedd Swyddogion yn
ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu hwn i'r
Cyd-bwyllgor Corfforaethol i'w gymeradwyo. Cyflwynodd swyddogion y
Cynllun Gweithredu drafft i'r Pwyllgor, a thynnwyd sylw at bwyntiau allweddol o
ran nod y prosiect, y pecynnau gwaith y mae eu hangen er mwyn cwblhau
datblygiad y CTRh, y risgiau a nodwyd a'r amserlen ar gyfer cyflawni. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am
gyd-destun polisi'r CTRh, a chawsant wybod am bwysigrwydd sicrhau bod y CTRh yn
adlewyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd); a sicrhau ei fod yn
cyd-fynd â strategaethau a blaenoriaethau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol. Esboniwyd bod dwy brif elfen i
baratoi'r CTRh; Datblygu'r ddadl o blaid newid, a datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Tynnodd swyddogion sylw at y meysydd gwaith allweddol
canlynol mewn perthynas â'r ddwy brif elfen: Datblygu'r Ddadl o Blaid Newid
(I'w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru erbyn 29 Chwefror 2024) ·
Cynnwys Rhanddeiliaid; ·
Diffinio'r Maes Astudio; ·
Nodi'r Achos Strategol – cysylltu â'r holl bolisïau a
fframweithiau sydd ar waith ar hyn o bryd; ·
Nodi Problemau a Chyfleoedd – mapio'r sefyllfa bresennol
o safbwynt trafnidiaeth ar draws y Rhanbarth, a chynnwys canfyddiadau Model
Trafnidiaeth De Cymru; ·
Datblygu Gweledigaeth y CTRh - gan nodi ai gweledigaeth
bresennol y Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd oedd y weledigaeth gyffredinol o hyd,
a diwygio hyn os oes angen; ·
Datblygu amcanion SMART ar gyfer y CTRh - i gyd-fynd â'r
blaenoriaethau yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru; ·
Nodi Trefniadau Llywodraethu – roedd cymeradwyo a
mabwysiadu'r CTRh yn hanfodol ar lefel Cyd-bwyllgor Corfforaethol ac Awdurdod
Lleol; ·
Datblygu Cynllun Rheoli Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu â'r
Cyhoedd. Datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cyflwyno drafft cyntaf, cyn
ymgynghoriad cyhoeddus, i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mai 2024) ·
Nodi'r Ymyriadau a'r Polisïau Lefel Uchel; ·
Cynnal adolygiad o gynlluniau o'r Cynllun Trafnidiaeth ar
y Cyd presennol – deall beth oedd wedi cael ei gyflawni, yr hyn nad oedd wedi'i
gyflawni ac nad oedd ei angen mwyach, a'r hyn nad oedd wedi'i gyflawni ac roedd
angen ei gynnwys yn y CTRh; ·
Nodi methodoleg ar gyfer blaenoriaethu cynlluniau. Dywedwyd bydd drafft terfynol
y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn
31 Hydref 2024; gyda'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol yn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mawrth 2025. Cyfeiriodd swyddogion at
ddatblygu'r Asesiad Lles Integredig, a soniwyd y byddai llawer o ymgynghori
gyda'r cyhoedd a chyda rhanddeiliaid hefyd sy'n gysylltiedig â gwahanol gamau o
ddatblygu'r CTRh. Ychwanegwyd y byddai rhai o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r
darnau hyn o waith yn heriol. Cyflwynwyd y risgiau lefel
uchel sy'n gysylltiedig â chyflawni Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer
de-orllewin Cymru i'r Pwyllgor: · Cytundeb gwleidyddol ar bolisïau a chanlyniadau lefel uchel – er bod y CTRh yn Gynllun Rhanbarthol, roedd angen iddo hefyd gyd-fynd â'r Awdurdodau Lleol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Darparwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol i'r Aelodau. Cyfeiriwyd at yr angen am gyfarfod ychwanegol ar
gyfer cyfnod yr hydref. Byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu hyn mewn
cysylltiad â'r Arweinwyr Trafnidiaeth ar gyfer y Rhanbarth. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |