Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
fod dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i baratoi
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh); cam cyntaf y gwaith hwn oedd llunio
Cynllun Gweithredu, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref
2023.
Atodwyd y Cynllun Gweithredu
drafft fel Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac roedd Swyddogion yn
ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu hwn i'r
Cyd-bwyllgor Corfforaethol i'w gymeradwyo.
Cyflwynodd swyddogion y
Cynllun Gweithredu drafft i'r Pwyllgor, a thynnwyd sylw at bwyntiau allweddol o
ran nod y prosiect, y pecynnau gwaith y mae eu hangen er mwyn cwblhau
datblygiad y CTRh, y risgiau a nodwyd a'r amserlen ar gyfer cyflawni.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am
gyd-destun polisi'r CTRh, a chawsant wybod am bwysigrwydd sicrhau bod y CTRh yn
adlewyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd); a sicrhau ei fod yn
cyd-fynd â strategaethau a blaenoriaethau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol.
Esboniwyd bod dwy brif elfen i
baratoi'r CTRh; Datblygu'r ddadl o blaid newid, a datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Tynnodd swyddogion sylw at y meysydd gwaith allweddol
canlynol mewn perthynas â'r ddwy brif elfen:
Datblygu'r Ddadl o Blaid Newid
(I'w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru erbyn 29 Chwefror 2024)
·
Cynnwys Rhanddeiliaid;
·
Diffinio'r Maes Astudio;
·
Nodi'r Achos Strategol – cysylltu â'r holl bolisïau a
fframweithiau sydd ar waith ar hyn o bryd;
·
Nodi Problemau a Chyfleoedd – mapio'r sefyllfa bresennol
o safbwynt trafnidiaeth ar draws y Rhanbarth, a chynnwys canfyddiadau Model
Trafnidiaeth De Cymru;
·
Datblygu Gweledigaeth y CTRh - gan nodi ai gweledigaeth
bresennol y Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd oedd y weledigaeth gyffredinol o hyd,
a diwygio hyn os oes angen;
·
Datblygu amcanion SMART ar gyfer y CTRh - i gyd-fynd â'r
blaenoriaethau yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru;
·
Nodi Trefniadau Llywodraethu – roedd cymeradwyo a
mabwysiadu'r CTRh yn hanfodol ar lefel Cyd-bwyllgor Corfforaethol ac Awdurdod
Lleol;
·
Datblygu Cynllun Rheoli Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu â'r
Cyhoedd.
Datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol
(Cyflwyno drafft cyntaf, cyn
ymgynghoriad cyhoeddus, i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mai 2024)
·
Nodi'r Ymyriadau a'r Polisïau Lefel Uchel;
·
Cynnal adolygiad o gynlluniau o'r Cynllun Trafnidiaeth ar
y Cyd presennol – deall beth oedd wedi cael ei gyflawni, yr hyn nad oedd wedi'i
gyflawni ac nad oedd ei angen mwyach, a'r hyn nad oedd wedi'i gyflawni ac roedd
angen ei gynnwys yn y CTRh;
·
Nodi methodoleg ar gyfer blaenoriaethu cynlluniau.
Dywedwyd bydd drafft terfynol
y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn
31 Hydref 2024; gyda'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol yn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mawrth 2025.
Cyfeiriodd swyddogion at
ddatblygu'r Asesiad Lles Integredig, a soniwyd y byddai llawer o ymgynghori
gyda'r cyhoedd a chyda rhanddeiliaid hefyd sy'n gysylltiedig â gwahanol gamau o
ddatblygu'r CTRh. Ychwanegwyd y byddai rhai o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r
darnau hyn o waith yn heriol.
Cyflwynwyd y risgiau lefel
uchel sy'n gysylltiedig â chyflawni Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer
de-orllewin Cymru i'r Pwyllgor:
·
Cytundeb gwleidyddol ar bolisïau a chanlyniadau lefel
uchel – er bod y CTRh yn Gynllun Rhanbarthol, roedd angen iddo hefyd gyd-fynd
â'r Awdurdodau Lleol unigol (nid cytundeb y cynllun yn unig, ond yr amserlenni
ar gyfer y cymeradwyaethau drwy'r Awdurdodau Lleol unigol);
·
Byddai cytundeb rhanbarthol ar restr gynlluniau Cynllun
Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CCTRh) sydd wedi'u blaenoriaethu – er mwyn
cynhyrchu'r rhestr hon, byddai angen i Swyddogion gael syniad o lefel y cyllid
a fydd ar gael i gyflawni'r cynlluniau, fodd bynnag nid oedd hyn yn hysbys o
hyd;
·
Amserlenni heriol ar gyfer cyflwyno a mabwysiadu'r CTRh -
gosodwyd y dyddiad cau penodol cyntaf ar gyfer cyflwyno CTRh terfynol (29
Mawrth 2025) beth amser yn ôl, ac ers hynny bu oedi yn gysylltiedig â'r ffrwd
waith hon, megis yr oedi wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu ei harweiniad. Fodd
bynnag, nid oedd y dyddiad cau penodol wedi'i ddiwygio a nodwyd ei fod yn
uchelgeisiol iawn o ran cyflawni darn ystyrlon o waith.
·
Adnoddau sydd ar gael o fewn Awdurdodau Lleol i
ddarparu'r CTRh, a nifer yr astudiaethau arbenigol i'w cyflawni wrth
ddatblygu'r CTRh a'r diffyg cyllid i'w cyflawni – roedd adnoddau cyfyngedig ym
mhob un o'r Awdurdodau Lleol, ac felly bydd angen comisiynu darnau penodol o
waith. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oedd ffrydiau cyllid clir ar gael er mwyn
gallu gwneud hyn.
Yn dilyn yr uchod, trafododd y
Pwyllgor y risgiau a nodwyd yn fanylach; gan dynnu sylw yn benodol at y lefelau
uchel o bryderon o ran amserlenni ac adnoddau.
Gofynnwyd i swyddogion roi
amlinelliad o ran y cyllid presennol sydd ar gael er mwyn datblygu'r ffrwd
waith hon. Dywedwyd, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu
£125k, mae rhywfaint o gyllid wedi'i neilltuo o fewn cyllideb Cyd-bwyllgorau
Corfforaethol De-orllewin Cymru; er y byddai cost datblygu'r CTRh yn sylweddol
uwch na hyn. Nodwyd bod sôn am gefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru (TfW), a
phenodwyd y rhanbarth yn Swyddog Cydlynu o fewn TfW; Fodd bynnag, nid oedd
llawer o gefnogaeth bellach y tu hwnt i hynny o ran helpu gyda'r ddarpariaeth.
Roedd yr Aelodau'n cydnabod
pwysigrwydd codi'r pryderon hyn i Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd gofyn yn ffurfiol
i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch y materion hyn wrth gyflwyno'r Cynllun
Gweithredu. Byddai trafodaeth bellach yn cael ei chroesawu ynghylch amserlenni
ac adnoddau; er mwyn penderfynu a oedd unrhyw hyblygrwydd o ran yr amserlenni,
ac i gael eglurder ynghylch unrhyw gyllid a chymorth ychwanegol gan
Trafnidiaeth Cymru wrth symud ymlaen.
Yn ogystal â hyn, awgrymwyd y
byddai'n ddefnyddiol cysylltu â Chyd-bwyllgorau Corfforaethol eraill ledled
Cymru, trwy ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
PENDERFYNWYD:
·
Cyflwyno'r Cynllun Gweithredu, a gynhwysir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i'w gymeradwyo, cyn ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru;
·
Wrth gyflwyno'r Cynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru,
anfonir llythyr at y Gweinidog i fynd i'r afael â'r risgiau y tynnwyd sylw
atynt yn y cynllun.
·
Byddwn yn derbyn adborth gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol
eraill a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gynnydd ehangach Cymru
ar Gynllunio Gweithredu a chynnydd y CTRh ym mhob Rhanbarth.
Dogfennau ategol: