Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Mercher, 8fed Mai, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Appointment of Chairperson and Vice-Chairperson

Cofnodion:

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Phil Rogers fyddai'r Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Rebeca Phillips fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Chair's Announcements

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

3.

Declarations of Interest

Cofnodion:

Y Cyng. R Phillips – Eitem rhif 6 ar Agenda’r Cabinet – Personol, Aelod o Hamdden Celtic

 

Y Cyng. N Goldup-John – Eitem rhif 6 ar Agenda’r Cabinet – Personol, Aelod o Hamdden Celtic

 

4.

Pre-Decision Scrutiny - Pontardawe Swimming Pool

(wedi'I amgáu o fewn papurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth aelodau eu bod yn gallu cyfeirio at benderfyniadau blaenorol a wnaed ar yr amod bod unrhyw gwestiynau'n berthnasol i'r adroddiad dan ystyriaeth.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg byr i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynghylch cryfder llethol y teimlad yn y gymuned ynghylch dyfodol y pwll nofio. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried y defnydd cymunedol sylweddol a amlinellir yn yr adroddiad, sut y bydd cau'r pwll yn effeithio ar hygyrchedd gwasanaethau i breswylwyr a pha fesurau sydd wedi'u harchwilio i fynd i'r afael â phryderon diogelwch, gan sicrhau mynediad di-dor at gyfleusterau nofio ar gyfer y gymuned.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai effaith niweidiol ar grwpiau defnyddwyr sy'n gysylltiedig â'r pwll. Byddai rhaglenni'n cael eu hadleoli i gyfleusterau hamdden lleol eraill wrth liniaru. Mae'r angen am gyfleuster newydd yn ddiamheuol ond ar hyn o bryd nid oes cyllid dynodedig ar gael. Mae cynllun propio ar waith ar hyn o bryd sydd wedi galluogi'r cyhoedd i barhau i'w ddefnyddio. Mae'r cynllun hwn yn cael ei fonitro a'i adolygu'n annibynnol yn gyson ond bu dirywiad sylweddol yn ffabrig tanc y pwll.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch amseroedd teithio hirach posib ar gyfer preswylwyr sydd am gael mynediad at gyfleusterau amgen a gofynnwyd a fydd unrhyw strategaethau'n cael eu hystyried i liniaru unrhyw effeithiau negyddol posib ar iechyd a lles cymunedol, yn enwedig unigolion diamddiffyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau bod data'n cael ei gadw sy'n dangos bod gan rai defnyddwyr presennol gyfleusterau amgen yn agosach at eu cartrefi a rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu defnyddio. Bydd effeithiau posib eraill yn cael eu codi mewn unrhyw gyfleuster newydd os yw'n briodol. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn nodi'r lleoliad gorau ar gyfer pwll newydd a'r opsiynau ariannu sydd ar gael.

 

Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw fanylion pellach am gyllid grant posib neu ffynonellau cyllid amgen ar gael, yn dilyn y trafodaethau rhagarweiniol a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr holl opsiynau'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd ond bod nifer cyfyngedig o gyrff ariannu posib. Ni nodwyd unrhyw gyllid ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant y cynhaliwyd trafodaethau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y rhain yn canolbwyntio ar leoliadau posib.

 

Gofynnodd yr Aelodau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth presennol mewn awdurdodau cyfagos mewn unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar gymysgedd y cyfleuster a byddai pob grŵp defnyddiwr yn rhan o unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelodau'n cydnabod yr effaith sylweddol y byddai cau'r pwll yn ei chael ar y gymuned ehangach a'r staff a allai gael eu had-leoli. Holodd yr aelodau a fydd unrhyw gymorth ar gael i ysgolion mewn perthynas â chostau cludiant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Urgent Items

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.