(wedi'I amgáu o fewn papurau'r Cabinet)
Cofnodion:
Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth aelodau eu bod yn gallu
cyfeirio at benderfyniadau blaenorol a wnaed ar yr amod bod unrhyw gwestiynau'n
berthnasol i'r adroddiad dan ystyriaeth.
Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg byr i'r aelodau o'r
adroddiad a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.
Gwnaeth yr
Aelodau sylwadau ynghylch cryfder llethol y teimlad yn y gymuned ynghylch
dyfodol y pwll nofio. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried y defnydd cymunedol
sylweddol a amlinellir yn yr adroddiad, sut y bydd cau'r pwll yn effeithio ar
hygyrchedd gwasanaethau i breswylwyr a pha fesurau sydd wedi'u harchwilio i
fynd i'r afael â phryderon diogelwch, gan sicrhau mynediad di-dor at
gyfleusterau nofio ar gyfer y gymuned.
Cydnabu'r
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai effaith niweidiol ar
grwpiau defnyddwyr sy'n gysylltiedig â'r pwll. Byddai rhaglenni'n cael eu
hadleoli i gyfleusterau hamdden lleol eraill wrth liniaru. Mae'r angen am
gyfleuster newydd yn ddiamheuol ond ar hyn o bryd nid oes cyllid dynodedig ar
gael. Mae cynllun propio ar waith ar hyn o bryd sydd wedi galluogi'r cyhoedd i
barhau i'w ddefnyddio. Mae'r cynllun hwn yn cael ei fonitro a'i adolygu'n
annibynnol yn gyson ond bu dirywiad sylweddol yn ffabrig tanc y pwll.
Mynegodd yr
Aelodau bryder ynghylch amseroedd teithio hirach posib ar gyfer preswylwyr sydd
am gael mynediad at gyfleusterau amgen a gofynnwyd a fydd unrhyw
strategaethau'n cael eu hystyried i liniaru unrhyw effeithiau negyddol posib ar
iechyd a lles cymunedol, yn enwedig unigolion diamddiffyn.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau bod data'n cael ei
gadw sy'n dangos bod gan rai defnyddwyr presennol gyfleusterau amgen yn agosach
at eu cartrefi a rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu defnyddio. Bydd effeithiau
posib eraill yn cael eu codi mewn unrhyw gyfleuster newydd os yw'n briodol.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn nodi'r lleoliad gorau ar gyfer pwll newydd
a'r opsiynau ariannu sydd ar gael.
Holodd yr
Aelodau a oedd unrhyw fanylion pellach am gyllid grant posib neu ffynonellau
cyllid amgen ar gael, yn dilyn y trafodaethau rhagarweiniol a gynhaliwyd gyda
Llywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr holl opsiynau'n cael eu
harchwilio ar hyn o bryd ond bod nifer cyfyngedig o gyrff ariannu posib. Ni
nodwyd unrhyw gyllid ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant y cynhaliwyd
trafodaethau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y rhain yn
canolbwyntio ar leoliadau posib.
Gofynnodd yr
Aelodau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth presennol mewn awdurdodau cyfagos mewn
unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r astudiaeth
ddichonoldeb yn edrych ar gymysgedd y cyfleuster a byddai pob grŵp
defnyddiwr yn rhan o unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.
Roedd yr
Aelodau'n cydnabod yr effaith sylweddol y byddai cau'r pwll yn ei chael ar y
gymuned ehangach a'r staff a allai gael eu had-leoli. Holodd yr aelodau a fydd
unrhyw gymorth ar gael i ysgolion mewn perthynas â chostau cludiant uwch.
Gofynnodd yr Aelodau am yr amserlen ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb ac a
fyddai ymgynghoriad llawn ynghylch lleoliad a dyluniad unrhyw bwll posib yn y
dyfodol pe bai'r argymhellion yn cael eu derbyn.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod Prif Weithredwr dros dro
Hamdden Celtic wedi rhoi sicrwydd na fyddai ymddiswyddiadau gorfodol. Mae pob
ysgol wedi cael gwybod am y cynigion a bydd Hamdden Celtic yn cysylltu ag
ysgolion ynghylch safleoedd adleoli posib. Mae yna hyder rhesymol y gellir
lletya'r rhan fwyaf o ysgolion. Ni fydd unrhyw gyfraniad gan yr awdurdod mewn
perthynas ag unrhyw gostau cludiant ychwanegol. Os caiff yr argymhellion eu
cymeradwyo, gwneir trefniadau i dendro a phenodi contractwr i gynnal yr
astudiaeth ddichonoldeb gyda'r nod o lunio adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn.
Gofynnodd yr
aelodau a oedd problemau ym Mhwll Nofio Pontardawe wedi'u canfod cyn 2022.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod adroddiadau a oedd yn
ymwneud â chyflwr Pwll Nofio Pontardawe wedi'u cwblhau cyn 2022.
Dywedodd yr
Aelodau fod angen i brif drefi'r fwrdeistref gael eu pyllau nofio eu hunain ac
nid oedd yr adroddiad yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd pwll newydd yn cael ei
adeiladu ym Mhontardawe.
Cydnabu'r
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod angen pwll ym Mhontardawe,
diben yr astudiaeth ddichonoldeb yw sefydlu'r lleoliad gorau posib, cymysgedd y
cyfleuster ac atebion ariannu posib. Ar hyn o bryd, ni ellir sicrhau pwll
newydd oherwydd y diffyg cyllid sydd ar gael.
Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad ynghylch dosbarthiadau sydd wedi'u dadleoli sy'n
trosglwyddo i Bwll Nofio Castell-nedd a gostyngiad posib yn argaeledd nofio
cyhoeddus.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod capasiti ym Mhwll
Nofio Castell-nedd ar hyn o bryd. Mae unrhyw ostyngiad mewn argaeledd yn
gysylltiedig â lle yn y pwll yn hytrach na'r amseroedd sydd ar gael. Nodwyd bod
gan Hamdden Celtic swyddi gwag ar hyn o bryd ac mae rhai swyddi'n anodd eu
llenwi. Gall ail-leoli staff ganiatáu i Bwll Nofio Castell-nedd amrywio
amseroedd agor, fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y defnydd sy'n anhysbys ar
hyn o bryd.
Holodd yr
aelodau a oedd y defnydd o'r pwll yn Ysgol Gymunedol Llangatwg wedi cael ei
ystyried.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod y pwll yn
Llangatwg wedi cael ei ystyried ond ei fod yn weddol fach, nid oedd ar gael yn
ystod oriau ysgol ac roedd llawer o drefniadau preifat y tu allan i oriau
ysgol. Mae'r defnydd o byllau yn Ysgol Maes y Coed a David Lloyd hefyd wedi
cael ei archwilio.
Mynegodd yr
aelodau bryder y gallai cyllidebau ysgolion effeithio ar gyfleoedd plant i
ddysgu nofio os gofynnir i rieni am gyfraniadau ariannol. Nododd yr aelodau ei
fod yn bwysig bod pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu nofio a bod angen olrhain
nifer y disgyblion sy'n manteisio ar y cyfle.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y bydd modd olrhain nifer y
disgyblion sy'n dewis derbyn gwersi nofio. Gan fod gan ysgolion reolaeth dros
eu cwricwlwm, bydd rhywfaint o hyblygrwydd ar waith i alluogi defnyddio
slotiau.
Gofynnodd yr
Aelodau a fyddai cynnwys yr astudiaeth ddichonoldeb yn ystyried defnyddiau
ategol o unrhyw adeilad yn y dyfodol i leihau costau gweithredu'r pwll.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai gan unrhyw gyfleuster
newydd effeithlonrwydd ynni gwell. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn
archwilio'r holl opsiynau i leihau diffyg gweithredol a'u heffaith ar unrhyw
atebion ariannol posib.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 7 yr adroddiad a gofynnwyd a oedd ymwybyddiaeth o'r angen
i ystyried darpariaeth cyfleusterau pwll yn y dyfodol cyn adroddiad ARUP. Os
felly, pa gamau a gymerwyd i gyflawni hyn, o ystyried y bywyd cyfyngedig hysbys
sydd gan y math hwn o adeilad.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, fod ymwybyddiaeth o gyflwr yr
adeilad cyn adroddiad ARUP, yr ateb oedd y cynnig i ad-drefnu ysgolion ac na
chafodd hyn ei ddatblygu.
Holodd yr
aelodau ynghylch yr oedi wrth symud ymlaen gyda chynnig pellach.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn ystod y flwyddyn ers i'r
penderfyniad ar y cynnig ad-drefnu ysgolion gael ei wneud, cynhaliwyd
trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac mae swyddogion wedi archwilio atebion
posib ar gyfer ariannu ond ni nodwyd unrhyw atebion. Mae gallu cyfyngedig i drefnu
i fwrw ymlaen â chynlluniau cyfalaf.
Dywedodd yr
Aelodau y gallai'r amser a gymerir i gynnal astudiaeth ddichonoldeb achosi oedi
pe bai cyllid ar gael a gofynnwyd a oedd y pwll nofio ym Mhontardawe yn cael ei
ystyried fel blaenoriaeth. Gofynnodd yr aelodau pam na chafodd y pwll nofio ei
ystyried fel cynllun cyfalaf o dan gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio na fyddai cyllid y Gronfa Ffyniant
Gyffredin yn darparu cyllid digonol ar gyfer cyfleuster newydd. Gwnaed
ymdrechion i sicrhau bod cyfleoedd ariannu yn cael eu lledaenu ar draws y
fwrdeistref sirol.
Dywedodd yr
Aelodau y gallai cost yr astudiaeth ddichonoldeb fod wedi cael ei dalu gan gais
am gyllid. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw un wedi cysylltu â CBS Sir
Gaerfyrddin ynghylch y defnydd o'i bwll yn Rhydaman ac a fyddai unrhyw gymorth
ychwanegol ar gael mewn perthynas â chostau cludiant ysgol uwch. A fydd unrhyw
arian a godir o'r safle presennol yn cael ei glustnodi? Dywedodd yr Aelodau fod
trigolion ym Mhontardawe wedi mynegi pryderon y byddai lleoliad y pwll
presennol yn anaddas ar gyfer cyfleuster newydd oherwydd materion parcio a
thraffig, a gofynnwyd i hyn gael ei ystyried ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y
dyfodol.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant Hamdden fod cyswllt cychwynnol
wedi'i wneud â Sir Gaerfyrddin a gellir ailymweld â'r cyswllt hwn. Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y rhaglen nofio ysgolion yn
cael ei hariannu gan yr awdurdod ond nad oedd cynnig i ariannu costau teithio.
Mae angen yr astudiaeth ddichonoldeb i nodi lleoliad addas gan fod y problemau
parcio yn rhai hirsefydlog. Bydd gwerth cyfalaf y safle yn cael ei gynnwys mewn
unrhyw becyn ariannu y gellid ei gyflwyno ar gyfer pwll newydd yn y dyfodol.
Holodd yr
Aelodau a fyddai'r Cylch Gorchwyl sy'n ymwneud â'r astudiaeth ddichonoldeb ar
gael.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai manyleb yr astudiaeth
ddichonoldeb ar gael. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd, o dan y model craffu diwygiedig, y gallai'r pwyllgor edrych ar y
mater hwn o fewn cylch gwaith y pwyllgor craffu wrth symud ymlaen.
Cyfeiriodd
yr Aelodau at dudalen 11 yr Asesiad Effaith Integredig a mynegwyd pryder ynghylch
yr effeithiau negyddol ar yr holl nodweddion gwarchodedig, ond roeddent yn
cydnabod y rhesymau iechyd a diogelwch dros gau'r pwll. Holodd yr aelodau am y
derminoleg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad ynghylch adleoli staff a gofynnwyd a
fydd y penderfyniad i oedi wrth symud Hamdden Celtic i fod yn fewnol yn
effeithio'n uniongyrchol ar y gweithlu. Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 9 yr
adroddiad a mynegwyd pryderon ynghylch gallu Pwll Nofio Castell-nedd i ymdopi
â'r galw a'r gofynion. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried nifer y rhybuddion mewn
adroddiadau blaenorol am ddiffyg cyllid, am y tebygolrwydd o sicrhau cyllid i
adeiladu pwll nofio newydd yn y cymoedd a fydd yn gwasanaethu trigolion Cwm
Tawe Uchaf a chymoedd Aman a Llynfell. Awgrymodd yr aelodau y dylid diwygio
argymhelliad 4 i gynnwys yr ardal ehangach.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau, er bod ganddynt
hyder o hyd y bydd cynigion addas o gyflogaeth amgen yn cael eu cynnig, efallai
ni fydd y cynigion hyn yn dderbyniol i unigolion oherwydd eu hamgylchiadau
personol. Nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwersi nofio i ysgolion ond
anogir pob person ifanc i ddechrau nofio, fodd bynnag, gwerthfawrogir y gall
costau cludiant fod yn rhy ddrud. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion ariannu
wedi cael eu nodi ond gallai'r sefyllfa newid. Ni fydd yr oedi wrth newid
Hamdden Celtic i fod yn fewnol yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar y
gweithlu.
Soniodd yr
Aelodau am bwysigrwydd defnyddio ynni gwyrdd a'r posibilrwydd o ddefnyddio
unrhyw gyfleuster newydd i gynhyrchu pŵer. Gofynnodd yr Aelodau a
gysylltwyd â Chyngor Sir Powys a dywedwyd y dylai'r astudiaeth ddichonoldeb fod
wedi'i chwblhau yn 2022.
Cytunodd y
Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant ar bwysigrwydd
defnyddio ynni gwyrdd ar gyfer cyfleusterau presennol ac yn y dyfodol.
Cysylltwyd â Phowys ac mae'n bosib y byddant yn codi rhywfaint o'r defnydd yn
fasnachol.
Diolchodd
Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles i swyddogion am y gwaith a wnaed
ac ailadroddodd fod cau'r pwll presennol yn fater o ddiogelwch y cyhoedd ac nid
yw unrhyw benderfyniad yn golygu ein bod yn gwrthod cefnogi cyfleusterau nofio
yng Nghwm Tawe. Mae angen symud ymlaen gyda'r astudiaeth ddichonoldeb i roi'r
awdurdod mewn sefyllfa ffafriol pe bai cyllid ar gael. Anogwyd aelodau i lobïo
Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid.
Yn dilyn
craffu, cyflwynwyd diwygiad mewn perthynas ag
argymhelliad
4. Cefnogwyd yr argymhelliad diwygiedig fel y nodir isod i fynd gerbron Bwrdd y
Cabinet.
"Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a
Diwylliant, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a
Lles, gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i opsiynau ar gyfer safle
yn y dyfodol a chyllid posib ar gyfer cyfleuster newydd ac i ymrwymo, pan fydd
adnoddau'n caniatáu, y bydd pwll sy'n gwasanaethu ardal gyfan Cwm Tawe, Cwm
Aman a Chwm Llynfell yn cael ei adeiladu."