Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 14eg Ebrill, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd:

 

Y Cyng. S Jones

Mewn perthynas ag eitem rhif 18 ar yr agenda, Cynnig Arfaethedig i Waredu 103 Hectar o Dir Amaethyddol yn Amodol ar Denantiaeth Gerllaw Fferm Hendre Owen yn Nyffryn Rhondda, Port Talbot, gan ei fod wedi'i benodi i Fforwm Cyswllt Wildfox.

 

Y Cyng. M Peters

Mewn perthynas ag eitem rhif 18 ar yr agenda, Cynnig Arfaethedig i Waredu 103 Hectar o Dir Amaethyddol yn Amodol ar Denantiaeth Gerllaw Fferm Hendre Owen yn Nyffryn Rhondda, Port Talbot, gan ei fod wedi'i benodi i Fforwm Cyswllt Wildfox.

 

Y Cyng. W Griffiths

Mewn perthynas ag eitem rhif 19 ar yr agenda, Ystafelloedd dosbarth modiwlaidd yn Ysgolion Hendrefelin (safle

Bryncoch), ac ysgolion cynradd Blaenhonddan a Chrymlyn, gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan ac mae Ysgol Hendrefelin yn ei Ward

 

 

4.

Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Rhaglen Gyfalaf Traffig 2023-2024: Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig. Cynlluniau Teithio Llesol 2023-2024; Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig. Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA) 2023-2024; Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig. Cyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Llywodraeth Cymru 2023-2024; Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Cymeradwyo hysbysebu'r cynlluniau canlynol, yn unol â'r gofynion statudol:
 

·        Rhaglen Gyfalaf Traffig 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·        Rhaglen Teithio Llesol 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·        Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA) 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·        Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad Ch i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

2.   Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Os bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Roedd y cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch ffyrdd, gan leihau cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, darparu Lleoedd Parcio Unigol i Bobl Anabl (LlPUA), cilfachau parcio â blaenoriaeth ar y stryd a chyflwyno darpariaethau parcio ddigonol o fewn y Fwrdeistref.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

6.

A474 HEOL PONTARDAWE, RHYD-Y-FRO, PONTARDAWE, A474 HEOL Y GORS, CWMGORS, A474 HEOL CAE GURWEN, GWAUNCAEGURWEN, A474 HEOL Y GRAIG,GWAUNCAEGURWEN, A4069 HEOL BRYNAMAN, GWAUNCAEGURWEN A BRYNAMAN ISAF, A4069 HEOL CANON, BRYNAMAN ISAF, A4069 STRYD Y PARC, BRYNAMAN ISAF, A4069 HEOL AMAN, BRYNAMAN ISAF, A4069 HEOL YR ORSAF, BRYNAMAN ISAF (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·       Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau mewn perthynas â'r A474 Heol Pontardawe, Rhyd-Y-Fro, Pontardawe, A474 Heol Y Gors, Cwmgors, A474 Heol Cae Gurwen, Gwauncaegurwen, A474 Heol Y Graig, Gwauncaegurwen, A4069 Heol Brynaman, Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf, A4069 Heol Canon, Brynaman Isaf, A4069 Stryd Y Parc, Brynaman Isaf, A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf, A4069 Heol Yr Orsaf, Brynaman Isaf (Diddymu) A (Terfyn Cyflymder 30Mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·       Ymgynghorir ar gynllun diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar yr A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol/gwledig ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 30mya arfaethedig yn derfyn cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y terfyn cyflymder arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

7.

A474 STRYD IAGO I HEOL PONTARDAWE (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i'r A474 James Street i Ffordd Pontardawe (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar yr A474 Stryd Iago i Heol Pontardawe o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

8.

HEOL BRYN, CWMLLYNFELL, HEOL COEDFFALDAU, RHIWFAWR, HEOL Y GWRHYD, RHIWFAWR A HEOL Y GOEDLAN, RHIWFAWR (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol Coedffaldau, Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd a'i fonitro wrth symud ymlaen. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol Coedffaldau, Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

9.

Y FFORDD O GOETRE I FRYN (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) pdf eicon PDF 391 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau yn rhannol i'r Ffordd o Goetre i Fryn (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30Mya) – Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchymyn i ganiatáu addasu'r terfyn cyflymder presennol ar y Ffordd o Goetre i Fryn i 20mya er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol/gwledig ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Ym marn y cyngor fel Awdurdod Priffyrdd Lleol, nid oedd y bylchau rhwng goleuadau stryd yn dilyn y rheoliad ac felly roedd angen rhoi terfyn cyflymder 20mya ar waith.

 

Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 20mya arfaethedig yn derfyn cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y terfyn cyflymder arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

10.

A474 HEOL NEWYDD, GELLINUDD (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiad i'r A474 Heol Newydd, Gellinudd (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar yr A474 Heol Newydd, Gellinudd, Rhos o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

 

11.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid newid y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

 

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Cwmni Peirianneg Sifil Trident (T038)

89

Pren W R Lloyd (W043)

101,111

RIS Reactive Integrated Services Ltd (R045)

31,111

Nolan uPVC Ltd (N019)

21,21A,21C,21G

Enava Ltd (E033)

6

SRK Scaffolding Ltd (S0100)

11

Speedy Asset Services Ltd (L032)

2,57,111

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

12.

Polisi Profi Diogelwch Cerrig Coffa pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mabwysiadu'r polisi profi cerrig coffa diwygiedig fel y nodir yn Atodiad A.

·        Bydd y cyngor yn ymgymryd â gwaith, sydd wedi ei ariannu o'r rhaglen gyfalaf, i adfer cerrig coffa sydd wedi methu'r asesiad o dan y polisi blaenorol, ac er cysondeb, byddant yn ad-dalu'r perchnogion beddi sydd eisoes wedi ymgymryd â'r gwaith.

·        Rhoi gwybod am y newidiadau i bolisi'r cyngor ar ddiwrnodau agored o fewn y mynwentydd a thrwy wefannau'r mynwentydd, cyn ailddechrau profi.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd gofal mewn perthynas â diogelwch cerrig coffa yn ei fynwentydd, i leihau'r risgiau cysylltiedig i ymwelwyr a'r cyngor, a chynnal mynwentydd y cyngor mewn trefn dda.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

13.

Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a

Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiadau i'r argymhellion canlynol, fel y nodir isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mesur 5 gan ystyried defnyddio'r biniau storio deunydd ar gyfer cyflwyno fel yr awgrymir gan y pwyllgor craffu.

·        Cymeradwyo mesur 11 heb ohirio ymgynghoriadau ar newidiad posib i gasglu sbwriel bob 3 wythnos, er gwaethaf yr awgrym gan Graffu i'r gwrthwyneb, fodd bynnag, cynhelir yr ymgynghoriad fel ymagwedd fesul cam.

·        Datblygu protocol Cyfathrebu i sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â chael adborth ar wasanaethau gwastraff drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy banel y dinasyddion sefydledig ac yn ystod cysylltiadau â chwsmeriaid gyda'r gwasanaeth.

Roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mesurau 1, 4, 6, 7, 9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, ac 18, a gynhwysir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd;

·        Cymeradwyo mesur 2, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi pwyslais ar bwysigrwydd addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau bod taflenni, hysbyseb a fideos 'sut i' rhithwir yn cael eu darparu i'r cyhoedd er mwyn sicrhau ymgysylltu a chynyddu ymwybyddiaeth'. Rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu;

·        Cymeradwyo mesur 3, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Darparu diweddariad ar ddarparu bagiau baw cŵn yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf sydd ar gael 12 mis ar ôl i'r bagiau fod ar gael yn gyhoeddus, i gynnwys amserlen o fannau casglu ar draws y Fwrdeistref Sirol;

·        Cymeradwyo mesur 8, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Bydd goruchwylwyr Gwasanaethau Gwastraff a Chymdogaethau yn parhau i fonitro lefelau glendid stryd ar draws y Fwrdeistref Sirol a gwneud eu gorau, ynghyd â rheolwyr gwasanaeth, i sicrhau cysondeb o ran cyflwyno gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol trwy gyfeiriad yr adnoddau sydd ar gael iddynt;

·        Datblygu protocol cyfathrebu i dynnu sylw at bolisi'r cyngor ar gasgliadau a gollwyd a sicrhau negeseuon cyson;

·        Caiff y swm o £350k ei ddefnyddio at ddiben bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu, a nodwyd fel rhan o broses gyllideb refeniw 2023/24 ar gyfer gwastraff, a'i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol fel trosglwyddiad untro o gronfeydd wrth gefn;

·        Bydd Pennaeth Gofal Strydoedd yn gwneud cais i'r Cabinet, drwy'r Grŵp Llywio'r Rhaglen Gorfforaethol, ar gyfer dyraniad o £230,000 o'r cyllid cyfalaf o'r cyfalaf wrth gefn er mwyn bwrw ymlaen â'r mesurau a gymeradwywyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Y prif reswm dros roi'r cynllun gweithredu ar waith oedd i barhau i wneud cynnydd tuag at gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70%, wrth hefyd fynd i'r afael â rhai materion gwasanaeth.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Prosiect Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) - Cyngor Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 515 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi’r adroddiad.

 

15.

FFRAMWAITH CONTRACTWYR PEIRIANNEG SIFIL RHANBARTHOL DE-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi’r adroddiad.

 

16.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

17.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 244 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

18.

CYNNIG ARFAETHEDIG I WAREDU 103 HECTAR O DIR AMAETHYDDOL YN AMODOL AR DENANTIAETH GERLLAW FFERM HENDRE OWEN YN NYFFRYN RHONDDA, PORT TALBOT

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, yn amodol ar ddiwallu'r rhwymedigaethau a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio (mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio Economaidd a Chymunedol) gytuno ac ymrwymo i ddogfennau priodol ar gyfer gwaredu 103 hectar, neu oddeutu hynny, o dir amaethyddol (yn amodol ar denantiaeth amaethyddol) sy'n ffinio â Fferm Hendre Owen, Dyffryn Rhondda, Port Talbot i hwyluso'i ddefnyddio fel Safle Cydadfer Lliniaru Bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chyrchfan Wildfox yng Nghwm Afan.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I gael derbyniad cyfalaf ar gyfer gwerthu tir a hwyluso cydymffurfiaeth â chytundeb Adran 106 rhwng y cyngor a'r datblygwr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

19.

Llety Dosbarth Modiwlaidd yn Ysgol Hendrefelin (Bryncoch), Ysgolion Cynradd Blaenhonddan a Chrymlyn

Cofnodion:

*Ail-gadarnhaodd y Cyng. W.Griffiths ei gysylltiad a gadawodd y cyfarfod*

 

Eglurodd swyddogion fod yr 'Asesiad Effaith Integredig' anghywir wedi'i gynnwys fel rhan o'r pecyn agenda a ddosbarthwyd; a chynghorwyd, wrth ystyried yr adroddiad, y dylai Aelodau ddefnyddio'r 'Asesiad Effaith Integredig' a ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid gwahardd Rheolau Gweithdrefn Contract y cyngor yn unol â rheol 5 a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddyfarnu contract yn uniongyrchol i Mc Avoys am £1,793,500.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn caniatáu i'r cyngor ddiwallu anghenion disgybl mewn darpariaethau prif ffrwd ac arbenigol drwy ddarparu llety ychwanegol yr oedd ei angen ar frys.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith ac felly nid yw'n destun i'r cyfnod galw i mewn o dridiau