Agenda item

Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a

Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiadau i'r argymhellion canlynol, fel y nodir isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mesur 5 gan ystyried defnyddio'r biniau storio deunydd ar gyfer cyflwyno fel yr awgrymir gan y pwyllgor craffu.

·        Cymeradwyo mesur 11 heb ohirio ymgynghoriadau ar newidiad posib i gasglu sbwriel bob 3 wythnos, er gwaethaf yr awgrym gan Graffu i'r gwrthwyneb, fodd bynnag, cynhelir yr ymgynghoriad fel ymagwedd fesul cam.

·        Datblygu protocol Cyfathrebu i sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â chael adborth ar wasanaethau gwastraff drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy banel y dinasyddion sefydledig ac yn ystod cysylltiadau â chwsmeriaid gyda'r gwasanaeth.

Roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mesurau 1, 4, 6, 7, 9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, ac 18, a gynhwysir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd;

·        Cymeradwyo mesur 2, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi pwyslais ar bwysigrwydd addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau bod taflenni, hysbyseb a fideos 'sut i' rhithwir yn cael eu darparu i'r cyhoedd er mwyn sicrhau ymgysylltu a chynyddu ymwybyddiaeth'. Rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu;

·        Cymeradwyo mesur 3, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Darparu diweddariad ar ddarparu bagiau baw cŵn yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf sydd ar gael 12 mis ar ôl i'r bagiau fod ar gael yn gyhoeddus, i gynnwys amserlen o fannau casglu ar draws y Fwrdeistref Sirol;

·        Cymeradwyo mesur 8, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Bydd goruchwylwyr Gwasanaethau Gwastraff a Chymdogaethau yn parhau i fonitro lefelau glendid stryd ar draws y Fwrdeistref Sirol a gwneud eu gorau, ynghyd â rheolwyr gwasanaeth, i sicrhau cysondeb o ran cyflwyno gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol trwy gyfeiriad yr adnoddau sydd ar gael iddynt;

·        Datblygu protocol cyfathrebu i dynnu sylw at bolisi'r cyngor ar gasgliadau a gollwyd a sicrhau negeseuon cyson;

·        Caiff y swm o £350k ei ddefnyddio at ddiben bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu, a nodwyd fel rhan o broses gyllideb refeniw 2023/24 ar gyfer gwastraff, a'i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol fel trosglwyddiad untro o gronfeydd wrth gefn;

·        Bydd Pennaeth Gofal Strydoedd yn gwneud cais i'r Cabinet, drwy'r Grŵp Llywio'r Rhaglen Gorfforaethol, ar gyfer dyraniad o £230,000 o'r cyllid cyfalaf o'r cyfalaf wrth gefn er mwyn bwrw ymlaen â'r mesurau a gymeradwywyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Y prif reswm dros roi'r cynllun gweithredu ar waith oedd i barhau i wneud cynnydd tuag at gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70%, wrth hefyd fynd i'r afael â rhai materion gwasanaeth.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

 

 

Dogfennau ategol: