Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chambe
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y Datganiad o Fuddiannau canlynol ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
|||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 221 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22
Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||
Blaenraglen Waith 2022-2023 PDF 543 KB Cofnodion: Nodi Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio
a Strydlun y Cabinet |
|||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Rheolau a Rheoliadau Mynwentydd PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Parhau i dreialu rhoi'r amseroedd claddu newydd
ar waith am gyfnod o 6 mis. Cynnal adolygiad ar ôl cyfnod o 6 mis, a gwneud
unrhyw newidiadau angenrheidiol ar ôl ymgynghori ymhellach â threfnwyr
angladdau. 2. Parhau â'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae ar hyn
o bryd, a chaniatáu mynediad 24/7 i fynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd
Port Talbot, gan ychwanegu mesurau diogelwch fel y nodir yn adran gefndir yr
adroddiad a gylchredwyd. Parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus, a mynd i'r afael
ag unrhyw gwynion sy'n cael eu derbyn yn unigol ac yn amserol. 3. Cynyddu lled carreg fedd o 610mm i 762mm. 4. Bydd y drefn ddarparu beddau brics newydd mewn
mynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben. 5. Parhau â'r trefniant presennol o ran seddi
coffa ac ni chaniateir meinciau coffa unigol pellach yn y mynwentydd. Gosod
meinciau cymunedol fel dewis amgen gan ganiatáu i'r rheini sy'n gofyn am fainc
goffa gael yr opsiwn o blac ar fainc gymunedol. Rhesymau dros y Penderfyniadau: 1. Mae'r amseroedd claddu newydd yn caniatáu digon
o amser rhwng claddedigaethau, ac yn golygu nad oes angen i staff y fynwent
weithio dros eu horiau contract. Mae hyn yn cynyddu morâl staff a bydd yn
sicrhau bod staff yn gallu dilyn mesurau/darpariaethau iechyd a diogelwch gan y
bydd ganddynt ddigon o amser i ddefnyddio cyfleusterau golchi ac ni fydd gofyn
iddynt weithio mewn golau gwael. 2. Drwy gadw'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae,
mae'r cyngor yn dal i ganiatáu mynediad i'w holl ddefnyddwyr ar sail 24/7. Bydd
mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn mynd i'r afael â chwynion a
throseddau diweddar fel arwyddion ychwanegol, ymylwaith ymylon (lle bo hynny'n
briodol) a chamerâu teledu cylch cyfyng. 3. Er mwyn mwyafu'r lle claddu, cynigir peidio â
darparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gastell-nedd Port
Talbot. Mae hyn nid yn unig yn achosi problemau lle difrifol, mae hefyd yn
fater iechyd a diogelwch gan y gall achosi problemau sefydlogrwydd rhwng waliau
pridd beddau cyfagos. 4. Fel dewis arall yn lle mainc goffa unigol,
gosodir meinciau cymunedol yn ein mynwentydd. Mae angen i'r cyngor
flaenoriaethu lle ar gyfer beddau, ac mae mainc gymunedol yn ffordd o
ddefnyddio tir nad yw'n addas ar gyfer claddedigaeth ac sy'n gallu ymgorffori 10
plac. Mae hyn yn caniatáu i'r cyngor adfer gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn gofyn
amdano. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
|
|||||||||||||||||
Enwi a Rhifo Strydoedd - Ffïoedd a thaliadau PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Cymeradwyo’r ddogfen bolisi Enwi a Rhifo
Strydoedd fel y nodir yn Atodiad A o'r adroddiad a gylchredwyd 2. Cymeradwyo’r newidiadau i'r ffioedd a godir am
wasanaethau a ddarperir gan y swyddogaeth Enwi a Rhifo Strydoedd fel y nodir yn
Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd 3. Rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio, a Phennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, ar gyfer enwi
strydoedd newydd ac ailenwi strydoedd presennol yn y Fwrdeistref Sirol Rhesymau dros y Penderfyniadau: 1. Bydd y cynnydd mewn ffioedd yn adlewyrchu
costau presennol darparu'r gwasanaeth hwn. 2. Bydd yr amwysedd sy'n bodoli ar hyn o bryd o
fewn y gwasanaeth enwi a rhifo strydoedd yn cael ei ddatrys a bydd defnyddwyr
gwasanaeth yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau i ddarparu gwybodaeth ac i
gofrestru eiddo. Bydd y Gymraeg ac enwau/llefydd hanesyddol yn cael eu diogelu
fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad. 3. Er mwyn galluogi rheoli swyddogaeth Enwi ac
Ailenwi Strydoedd yn effeithiol o fewn yr awdurdod. Cyn y gellir enwi neu
ailenwi stryd, mae angen ymgynghori â
pherchnogion tai a busnesau y mae'r newidiadau'n effeithio arnynt ynghylch y
broses, yn ogystal ag Aelodau Ward lleol, felly mae'n rhaid i randdeiliaid
allweddol gytuno ar y newid cyn iddo ddigwydd. Byddai unrhyw anghytundebau ag
Aelodau Ward neu fusnesau/perchnogion tai lleol yn dal i gael eu cyflwyno i
Fwrdd y Cabinet am benderfyniad. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar
ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Gwasanaeth Bysus Cymorthdaledig - Estyn Contract PDF 290 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, mae'r contractau bysus â chymhorthdal presennol yn cael eu hestyn
tan 31 Mawrth 2023 i ganiatáu amser er mwyn cynnal proses pennu'r gyllideb. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd estyn y contractau tan 31 Mawrth 2023 yn
caniatáu amser i Aelodau ystyried blaenoriaethau'r cyngor fel rhan o broses
pennu'r gyllideb. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Adroddiad Twnnel Tai Gelli PDF 241 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr aelodau'n gefnogol o’r ychwanegiadau at
yr argymhelliad a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn
y cyfarfod hwn (fel y nodir isod). Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig: 1. Eir ar drywydd Opsiwn 2 a fanylir o fewn yr
adroddiad a gylchredwyd am y dyfodol rhagweladwy, gyda'r ffensys palisâd ar bob
pen o'r twnnel yn cael eu cynnal fel y maent ar hyn o bryd. 2. Cynhelir astudiaeth dichonoldeb ar gyfer
defnydd yn y dyfodol, a'r opsiynau dilynol yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor o
fewn y 12 mis nesaf. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Penderfynu ar y ffordd ymlaen ynghylch yr
adeiledd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar
ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r bwriad i ddileu'r gorchymyn
rheoleiddio traffig Dim Mynediad ym mhen deheuol y lôn y tu ôl i 1-17 Stryd y
Goron, Port Talbot (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac
os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar waith ar y safle
fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y bwriad i ddileu'r gorchymyn rheoleiddio
traffig Dim Mynediad yn galluogi'r timau casglu gwastraff i fynd i mewn i'r lôn
o'r de, gan wneud eu rownd gasglu'n haws, yn fwy effeithlon a lleihau'r risg o
ddifrod trydydd parti Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ailddatganodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths ei
gysylltiad ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig. Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, diystyrir y gwrthwynebiad i Orchymyn Rheoleiddio Traffig yr A474
Ffordd Castell-nedd, Bryncoch (Dirymiad) a (Therfynau Cyflymder 40 mya) 2022
(fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a rhoddir y cynllun ar
waith ar y safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: I leihau cyflymder cerbydau er diogelwch y
briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer y Datblygiad Tai newydd, Clos
Castan, Castell-nedd (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd)
ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynnig ar waith ar y safle
fel y'i hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad sgrinio
effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer Datblygiad Tai newydd,
Clos Gelli Wen, yr Allt-wen (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a
gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar
waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio symudiadau traffig er diogelwch ar y
ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, diystyrir y gwrthwynebiad i Orchymyn Heol Lewis, Stryd Siôr, Stryd
Edward, Lôn Heol Lewis, Westernmoor Road ac Upland Road (Cyfyngiad Pwysau 7.5
Tunnell ac Eithrio ar gyfer Mynediad) 2022, (fel y manylir yn Atodiad A i'r
adroddiad a gylchredwyd) a rhoddir y cynllun ar waith fel y'i hysbysebwyd. 2. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn
unol â hynny. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig
yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar
ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig
gwaharddiad arfaethedig ar aros ar unrhyw adeg ar Hawthorn Close ar y gyffordd
ag Ynys y Gwas (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os
na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynigion ar waith gweithredu ar y
safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth ar y gyffordd er diogelwch ar y ffyrdd ac yn sicrhau
mynediad i gerbydau casglu gwastraff. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 408 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei newid fel a ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy. Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy Mae'r cwmnïau canlynol wedi peidio â bodloni meini
prawf CBSCNPT oherwydd dim asesiad/achrediad Iechyd a Diogelwch ac felly, cânt
eu tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:-
Rhesymau dros y Penderfyniadau: 1. Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. 2. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at
ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.
|
|||||||||||||||||
Eitemau brys Any
urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson
pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 242 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||||||||||
Ailddatblygiad arfaethedig Ciosg Arlwyo a Chyfleuster Cyhoeddus ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig: 1. Cymeradwyir yr amodau a thelerau ar gyfer ildio
prydles bresennol y ciosg arlwyo a'r tir cyfagos. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Galluogi'r tenant i ailddatblygu a darparu
cyfleuster ciosg arlwyo gwell newydd ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan er
lles yr ymwelwyr a'r gymuned leol. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth, ac
felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod.
|