Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Statws: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
1. Parhau i dreialu rhoi'r amseroedd claddu newydd
ar waith am gyfnod o 6 mis. Cynnal adolygiad ar ôl cyfnod o 6 mis, a gwneud
unrhyw newidiadau angenrheidiol ar ôl ymgynghori ymhellach â threfnwyr
angladdau.
2. Parhau â'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae ar hyn
o bryd, a chaniatáu mynediad 24/7 i fynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd
Port Talbot, gan ychwanegu mesurau diogelwch fel y nodir yn adran gefndir yr
adroddiad a gylchredwyd. Parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus, a mynd i'r afael
ag unrhyw gwynion sy'n cael eu derbyn yn unigol ac yn amserol.
3. Cynyddu lled carreg fedd o 610mm i 762mm.
4. Bydd y drefn ddarparu beddau brics newydd mewn
mynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben.
5. Parhau â'r trefniant presennol o ran seddi
coffa ac ni chaniateir meinciau coffa unigol pellach yn y mynwentydd. Gosod
meinciau cymunedol fel dewis amgen gan ganiatáu i'r rheini sy'n gofyn am fainc
goffa gael yr opsiwn o blac ar fainc gymunedol.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
1. Mae'r amseroedd claddu newydd yn caniatáu digon
o amser rhwng claddedigaethau, ac yn golygu nad oes angen i staff y fynwent
weithio dros eu horiau contract. Mae hyn yn cynyddu morâl staff a bydd yn
sicrhau bod staff yn gallu dilyn mesurau/darpariaethau iechyd a diogelwch gan y
bydd ganddynt ddigon o amser i ddefnyddio cyfleusterau golchi ac ni fydd gofyn
iddynt weithio mewn golau gwael.
2. Drwy gadw'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae,
mae'r cyngor yn dal i ganiatáu mynediad i'w holl ddefnyddwyr ar sail 24/7. Bydd
mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn mynd i'r afael â chwynion a
throseddau diweddar fel arwyddion ychwanegol, ymylwaith ymylon (lle bo hynny'n
briodol) a chamerâu teledu cylch cyfyng.
3. Er mwyn mwyafu'r lle claddu, cynigir peidio â
darparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gastell-nedd Port
Talbot. Mae hyn nid yn unig yn achosi problemau lle difrifol, mae hefyd yn
fater iechyd a diogelwch gan y gall achosi problemau sefydlogrwydd rhwng waliau
pridd beddau cyfagos.
4. Fel dewis arall yn lle mainc goffa unigol,
gosodir meinciau cymunedol yn ein mynwentydd. Mae angen i'r cyngor
flaenoriaethu lle ar gyfer beddau, ac mae mainc gymunedol yn ffordd o
ddefnyddio tir nad yw'n addas ar gyfer claddedigaeth ac sy'n gallu ymgorffori 10
plac. Mae hyn yn caniatáu i'r cyngor adfer gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn gofyn
amdano.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Gorffennaf 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: