Lleoliad: Microsoft Teams
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Chair's Announcements Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Declarations of Interest Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Regional Transport Plan - Case for Change PDF 568 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
swyddogion drosolwg byr o'r adroddiad sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda. Gofynnodd
yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer gwario'r gyllideb, ac
arwydd o gost derfynol i ddatblygu'r cynllun. Cadarnhaodd
swyddogion fod ychydig o'r gyllideb eisoes wedi'i gwario a bod hyblygrwydd o
ran sut y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio. Mae gwaith eisoes wedi'i wneud
ynghylch cynigion y Metro, efallai y byddai'n briodol disodli gwariant y Metro
gydag arian CTRh a chario gwariant y Metro drosodd ar gyfer datblygiad y
flwyddyn nesaf. Mae'n uchelgeisiol ei gomisiynu a'i gwblhau o fewn yr amserlen
bresennol. Amcangyfrifir bod y gost ddangosol amlinellol yn llai na £400k. Holodd
yr Aelodau am y cyfeirnod yn yr adroddiad at ddefnyddio cerbydau trydan (CT) i
fynd i'r afael â llygredd a nodwyd yr anawsterau o ran yr ymagwedd hon mewn
ardaloedd trefol, oherwydd cost uchel cerbydau a'r isadeiledd gwefru
cyfyngedig. Gofynnodd yr Aelodau sut y gellid cyflawni uchelgeisiau ar gyfer
system drafnidiaeth ddi-lygredd, gan ystyried y ffactorau hyn. Cadarnhaodd
swyddogion fod egwyddor y CTRh yn dibynnu ar hierarchaeth trafnidiaeth, gan
flaenoriaethu beicio, cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ffordd y bydd yr
isadeiledd yn cael ei ddarparu yn heriol a bydd yn cael ei gynnwys yn y gwaith
a wneir mewn perthynas â datblygu'r cynigion metro, a'i ystyried fel rhan o'r CTRh
ehangach. Bydd y CTRh yn cael ei ddefnyddio fel dogfen gais ar gyfer trosoli
cyllid ar gyfer darparu ymyriadau trafnidiaeth. Cadarnhaodd
swyddogion fod Strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel eisoes wedi'i llunio a fydd
yn bwydo i mewn i'r gwaith CTRh. Mae'r ffocws presennol wedi cynnwys gwaith ar
drawsnewid cerbydlu'r Cyngor a nodi unrhyw oblygiadau. Mae gwaith yn mynd
rhagddo mewn perthynas ag ymchwilio i'r defnydd o dechnoleg a chynigion ar
gyfer gwefru ar y stryd. Nodwyd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu helpu gyda
rhywfaint o'r gwaith ategol sy'n gysylltiedig â'r cynllun. Holodd
yr Aelodau a roddwyd ystyriaeth i wefru cerbydau dros nos i fanteisio ar
ffïoedd is. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd hyn yn wir yn Sir Benfro ac roedd y gwaith o gynhyrchu Strategaeth Trawsnewid y Cerbydlu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae Cyngor Sir Penfro wedi edrych ar gerbydau hydrogen yn hytrach na cherbydau trydan ond mae'n bosib y bydd CT yn cael eu hystyried o hyd. Cadarnhaodd swyddogion fod Cynllun Strategol CT ar gael ar gyfer y rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cynnal cynlluniau peilot mewn awdurdodau lleol eraill mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer gwefru ar y stryd; Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn dilyn y cynllun peilot. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cynnal astudiaethau gyda'r bwriad o nodi gofynion isadeiledd strategol lefel uchel i gefnogi'r broses o drawsnewid. Gall Cyrff Cyhoeddus gefnogi eu gweithwyr gyda chynlluniau aberthu cyflog ar gyfer prynu CT. Cadarnhaodd swyddogion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot y bydd CT yn cael eu gwefru dros nos yn bennaf, ond efallai y bydd angen gwefru rhai cerbydau yn ystod y dydd hefyd. Mae manteision i gael isadeiledd solar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Urgent Items Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |