Cofnodion:
Rhoddodd
swyddogion drosolwg byr o'r adroddiad sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda.
Gofynnodd
yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer gwario'r gyllideb, ac
arwydd o gost derfynol i ddatblygu'r cynllun.
Cadarnhaodd
swyddogion fod ychydig o'r gyllideb eisoes wedi'i gwario a bod hyblygrwydd o
ran sut y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio. Mae gwaith eisoes wedi'i wneud
ynghylch cynigion y Metro, efallai y byddai'n briodol disodli gwariant y Metro
gydag arian CTRh a chario gwariant y Metro drosodd ar gyfer datblygiad y
flwyddyn nesaf. Mae'n uchelgeisiol ei gomisiynu a'i gwblhau o fewn yr amserlen
bresennol. Amcangyfrifir bod y gost ddangosol amlinellol yn llai na £400k.
Holodd
yr Aelodau am y cyfeirnod yn yr adroddiad at ddefnyddio cerbydau trydan (CT) i
fynd i'r afael â llygredd a nodwyd yr anawsterau o ran yr ymagwedd hon mewn
ardaloedd trefol, oherwydd cost uchel cerbydau a'r isadeiledd gwefru
cyfyngedig. Gofynnodd yr Aelodau sut y gellid cyflawni uchelgeisiau ar gyfer
system drafnidiaeth ddi-lygredd, gan ystyried y ffactorau hyn.
Cadarnhaodd
swyddogion fod egwyddor y CTRh yn dibynnu ar hierarchaeth trafnidiaeth, gan
flaenoriaethu beicio, cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ffordd y bydd yr
isadeiledd yn cael ei ddarparu yn heriol a bydd yn cael ei gynnwys yn y gwaith
a wneir mewn perthynas â datblygu'r cynigion metro, a'i ystyried fel rhan o'r CTRh
ehangach. Bydd y CTRh yn cael ei ddefnyddio fel dogfen gais ar gyfer trosoli
cyllid ar gyfer darparu ymyriadau trafnidiaeth.
Cadarnhaodd
swyddogion fod Strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel eisoes wedi'i llunio a fydd
yn bwydo i mewn i'r gwaith CTRh. Mae'r ffocws presennol wedi cynnwys gwaith ar
drawsnewid cerbydlu'r Cyngor a nodi unrhyw oblygiadau. Mae gwaith yn mynd
rhagddo mewn perthynas ag ymchwilio i'r defnydd o dechnoleg a chynigion ar
gyfer gwefru ar y stryd. Nodwyd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu helpu gyda
rhywfaint o'r gwaith ategol sy'n gysylltiedig â'r cynllun.
Holodd
yr Aelodau a roddwyd ystyriaeth i wefru cerbydau dros nos i fanteisio ar
ffïoedd is.
Cadarnhaodd
swyddogion nad oedd hyn yn wir yn Sir Benfro ac roedd y gwaith o gynhyrchu Strategaeth
Trawsnewid y Cerbydlu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae Cyngor Sir Penfro wedi
edrych ar gerbydau hydrogen yn hytrach na cherbydau trydan ond mae'n bosib y
bydd CT yn cael eu hystyried o hyd. Cadarnhaodd swyddogion fod Cynllun
Strategol CT ar gael ar gyfer y rhanbarth. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth
Cymru (TC) yn cynnal cynlluniau peilot mewn awdurdodau lleol eraill mewn
perthynas ag opsiynau ar gyfer gwefru ar y stryd; Bydd rhagor o wybodaeth ar
gael yn dilyn y cynllun peilot. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi
cynnal astudiaethau gyda'r bwriad o nodi gofynion isadeiledd strategol lefel
uchel i gefnogi'r broses o drawsnewid. Gall Cyrff Cyhoeddus gefnogi eu
gweithwyr gyda chynlluniau aberthu cyflog ar gyfer prynu CT. Cadarnhaodd swyddogion
o Gyngor Castell-nedd Port Talbot y bydd CT yn cael eu gwefru dros nos yn
bennaf, ond efallai y bydd angen gwefru rhai cerbydau yn ystod y dydd hefyd.
Mae manteision i gael isadeiledd solar ochr yn ochr â chyfleusterau gwefru a
all wrthbwyso cyflenwi pŵer i adeiladau yn ystod y dydd a gwefru cerbydau
gyda'r nos.
Gwnaeth
yr Aelodau sylwadau ynghylch bylchau yn yr adroddiad, nid oes cyfeiriad at yr
A477, yr A487, gwasanaeth bws Traws Cymru na'r gwasanaeth rheilffordd cludo
nwyddau i Aberdaugleddau. Mewn perthynas â sôn am les economaidd ar dudalen 16
yr adroddiad, awgrymodd yr aelodau y dylid cyfeirio at fynd i'r afael ag
anawsterau o ran cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth heb drafnidiaeth. Mae
angen ystyried sut y gellir datblygu economi'r nos, yn enwedig mewn perthynas â
thwristiaeth. Dywedodd yr Aelodau fod gostyngiad enfawr wedi bod mewn cludiant
nwyddau ers Brexit sydd wedi effeithio ar borthladdoedd Abergwaun a Phenfro. O
ran Abergwaun, ni fu gwasanaeth fferi ar waith ers dechrau mis Ionawr gyda
gwasanaeth cyfyngedig i deithwyr yn gweithredu o Ddoc Penfro. Nodwyd bod
porthladdoedd yn agored iawn i niwed yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o
ewros yn Rosslare. Holodd yr aelodau pam nad oedd sôn yn yr adroddiad am
ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth o bosib.
Diolchodd
swyddogion i'r aelodau am y pwyntiau defnyddiol a godwyd a nodwyd bod y Ddadl o
Blaid Newid yn ddogfen strategol lefel uchel, nid yw'n cynnwys manylion llawn
ac mae angen datblygiad pellach. Mae'n bwysig bod digon o amser yn cael ei roi
i gynnal ymgynghoriad effeithiol a nodi bylchau i alluogi dichonoldeb
economaidd. Nodwyd y pwyntiau a godwyd heddiw a byddant yn bwydo i mewn i
ddatblygiad y cynllun yn y dyfodol. Mewn perthynas â'r posibilrwydd o ailagor y
rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, cynhaliwyd nifer o astudiaethau a
fydd yn ffurfio rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynllun trafnidiaeth.
Nododd swyddogion fod y gefnffordd a rhwydwaith bysus Traws Cymru yn cael eu
gyrru a'u rheoli gan Lywodraeth Cymru a fydd yn allweddol wrth fewnbynnu i'r
cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. O 1 Ebrill ymlaen, bydd trefniant contract
bysus newydd ar waith. Bydd cyfleoedd
drwy drefniadau masnachfreinio i ehangu gwasanaethau a chau bylchau, yn enwedig
gwasanaethau hwyr yn y bore a chyda'r nos. Y bwriad yw datblygu cynllun
trafnidiaeth cytbwys, sy'n edrych ar ffactorau cymdeithasol, economaidd ac
amgylcheddol. Bydd angen defnyddio'r cynllun fel ffordd o ganolbwyntio
penderfyniadau cyllido yn y dyfodol ac fel modd o ddylanwadu ar benderfyniadau
refeniw a wneir o ran grantiau cefnogaeth bysus yn y dyfodol. Nodwyd bod
gweithredu a chyllido'r rheilffyrdd yn cael eu rhoi ar waith ar lefel
genedlaethol.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen naw o'r adroddiad a oedd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda
a mynegwyd pryder ynghylch y gwahaniaeth ar draws y rhanbarth o ran
perchnogaeth cerbydau preifat. Cydnabuwyd y dylid annog y cyhoedd i ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae hyn yn anodd mewn ardaloedd gwledig heb hyder
yn argaeledd a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus. Nodwyd bod gwasanaethau
trên i orllewin Cymru yn aml yn cael eu canslo.
Cadarnhaodd
swyddogion fod cerbydau modur yn cael eu cynnwys yn y cynllun fel y
flaenoriaeth isaf i adlewyrchu blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ond
eu bod yn cydnabod bod y defnydd o gerbydau modur preifat mewn ardaloedd
gwledig o bwys o hyd. Mae'r pwynt a
wnaed gan aelodau mewn perthynas â thrafnidiaeth trenau, yn enwedig yng
ngorllewin Cymru yn fater uniongyrchol yn hytrach na mater strategol ac mae
angen iddo ffurfio rhan o'r achos strategol o ran gwella rheilffyrdd. Mae
gwaith wedi cael ei wneud gyda grwpiau defnyddwyr trafnidiaeth lleol a gyda
Trafnidiaeth Cymru i godi pryderon ynghylch nifer y trenau sy'n cael eu canslo
a bysus amnewid y rheilffordd, ac ar adegau, diffyg bysus amnewid y
rheilffordd. Derbyniwyd adborth yn nodi bod canslo trenau'n gysylltiedig â
datblygu'r cerbydlu trenau newydd. Nodwyd bod argaeledd trenau'n bwysig i bobl
ac nid dibynadwyedd yn unig, mae hwn yn fater strategol o ran cynyddu amlder y
trenau sy'n bwydo i mewn i'r broses cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol. Nododd
swyddogion fod atebion i broblemau trafnidiaeth yn wahanol ar draws y rhanbarth
oherwydd y gymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig, mewn rhai ardaloedd,
perchnogaeth car preifat fydd yr unig opsiwn ymarferol ar gyfer trafnidiaeth.
Nid oes dulliau amgen ar gael neu maent yn rhy gostus i'w hystyried. Mae'r
cynllun yn fecanwaith i geisio buddsoddiad priodol mewn perthynas â'r ymyriadau
gofynnol ond gan ystyried yr heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig, yn yr
ardaloedd hyn bydd dibyniaeth ar berchnogaeth ceir preifat o hyd a daw heriau
ariannol yn sgil hyn ar gyfer yr unigolion. Bydd angen i'r cynllun ganolbwyntio
ar gynaliadwyedd yn ogystal â mynd i'r afael â heriau economaidd sylweddol
Dywedodd
yr Aelodau fod y data yn yr adroddiad yn seiliedig ar y gwasanaeth bysus cyn y
newid diweddar ac nad oedd yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol. Mae bwlch mewn
gwasanaethau mewn rhai ardaloedd, gan rwystro preswylwyr rhag cael mynediad at
gyfleoedd cyflogaeth, yn enwedig, gweithwyr shifft. Dywedodd yr Aelodau nad yw
amlder y gwasanaeth yn ddigon uchelgeisiol i newid trefniadau teithio pobl.
Cytunodd
swyddogion â sylwadau'r aelodau gan gydnabod ei bod yn bwysig nodi bylchau a
chyfleoedd i dyfu ac ehangu gwasanaethau. Un o fanteision y gwaith a wnaed gyda
Trafnidiaeth Cymru yw'r data bysus cyfoethog a gasglwyd. Mae angen ymgynghoriad
effeithiol gyda'r Gymuned drwy'r broses CTRh a thrwy ddatblygu'r strategaethau
bysus, mae cyfle i weithio tuag at wella rhwydweithiau.
Gwnaeth
yr aelodau sylw mewn perthynas â chysylltiad bysus rhwng Caerfyrddin ac
Aberystwyth, sy'n defnyddio bysus trydan ac yn gweithio'n effeithiol sy'n
dangos sut y gall gwasanaethau ddatblygu.
Dywedodd
yr Aelodau fod pwyllgorau amrywiol yn gweithio tuag at ddatblygu isadeiledd
gwefru CT ond roedd heriau mewn perthynas â gwefru ar y stryd ar gyfer cerbydau
preifat.
Ymatebodd
swyddogion, wrth i dechnoleg batris wella, efallai y bydd mwy o amrediad ac
efallai bydd angen gwefru'n llai aml. Mae rhai heriau cymdeithasol penodol mewn
perthynas â gwefru ar y stryd a pherchnogaeth lleoedd parcio ar y stryd.
Dywedodd swyddogion fod cyfleoedd i ddefnyddio cerbydau trydan fel banciau
pŵer o bersbectif gwefru i'r gwrthwyneb. Nodwyd bod rhwydwaith parcio oddi
ar y stryd helaeth o beiriannau gwefru CT wedi'i ddatblygu yn Sir Benfro, gan
roi'r gallu i drigolion heb barcio preifat oddi ar y stryd wefru cerbydau dros
nos, fodd bynnag, cydnabuwyd efallai na fydd rhai preswylwyr yn dymuno parcio
oddi cartref am resymau diogelwch. Rhoddwyd ystyriaeth i ddatblygu pwyntiau
gwefru ar ystadau tai ond mae hyn yng nghamau cynnar y datblygiad. Nododd
swyddogion nad oedd gan rai o'r cerbydlu CT y fanyleb gywir i gyflawni'r dasg
ofynnol oherwydd prif lwyth y cerbyd a gallu'r batri a gallai hyn fod yn
broblem wrth symud ymlaen. Nododd swyddogion fod hydrogen yn debygol o
ymddangos yn y strategaeth wrth symud ymlaen, mae prosiectau yn mynd rhagddynt
yn ardal Bae Abertawe ac mae disgwyl i dri phrif gynhyrchydd hydrogen ddod
ar-lein o tua 2027. Unwaith y bydd hydrogen ar gael yn ehangach, dylai'r gost
fod yn ffafriol. Dewis arall yw HBO, diesel newydd sy'n cael ei ddefnyddio ar
gyfer y cerbydlu yn Sir Benfro ar hyn o bryd.
Cytunodd
yr Aelodau gyda'r pwynt a wnaed mewn perthynas â'r defnydd posibl o gerbydau
hydrogen yn y dyfodol.
Dywedodd
swyddogion fod angen ystyried cyflenwad o gerbydau hydrogen. Mae lori sbwriel
hydrogen wedi cael ei dreialu yng Nghastell-nedd Port Talbot ond nid yw'r
cerbydau ar gael yn rhwydd ac mae'r dechnoleg yn cael ei datblygu o hyd. Bydd
dibyniaeth ar ffynhonnell ddiogel o hydrogen a allai gymryd hyd at 2030.
Roedd
yr aelodau'n falch bod data'r rheilffordd yn ehangach nag Abertawe a dywedwyd
bod ystyriaeth o Parkway Felindre yn bwysig o ran gwella amseroedd teithio.
Cododd yr aelodau bryder ynghylch buddsoddi oherwydd, yn draddodiadol, roedd
modelau buddsoddi yn seiliedig ar ddwysedd poblogaeth sy'n effeithio'n negyddol
ar ardaloedd llai poblog. Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y byddai
buddsoddiadau o fudd i'r rhanbarth ehangach ac yn mynd i'r afael â rhai o'r
materion a godwyd. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 10 pecyn adroddiad yr
agenda a'r rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn y rhanbarth, nodwyd bod angen
llwybrau cerdded/beicio diogel mewn ardaloedd gwledig, nid ardaloedd trefol yn
unig, a bydd angen buddsoddiad arnynt.
Cytunodd
swyddogion â'r aelodau bod angen buddsoddi mewn llwybrau cerdded/beicio yng nghefn
gwlad yn ogystal ag ardaloedd trefol. Mae angen normaleiddio teithio llesol.
Mae'r cynllun yn gynllun rhanbarthol ac mae cynrychiolaeth lefel uchel i
sicrhau bod buddiannau'n cael eu lledaenu a'u deall ar draws y rhanbarth cyfan.
Efallai y bydd Lywodraeth Cymru'n cymryd rhan mewn perthynas â blaenoriaethau
gwariant, ond bydd hyn yn cael sylw ar lefel ranbarthol. Ar hyn o bryd, mae
cyfle i wneud cais am gyllid. Bydd angen rheoli'r galw am drafnidiaeth,
oherwydd os yw'r cynllun yn llwyddiannus byddai pobl yn newid sut y maent yn
teithio.
Dywedodd
swyddogion fod buddsoddi mewn cymunedau gwledig yn bwysig ar gyfer mynd i'r
afael â thlodi trafnidiaeth ac mae angen cefnogaeth aelodau i lobïo Llywodraeth
Cymru am gyfran fwy o'r sector er mwyn i awdurdodau lleol ymgymryd â
buddsoddiad.
Nodwyd
yr eitem hon.
Dogfennau ategol: