Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 200 KB ·
16th January 2024 ·
15th February 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 16 Ionawr 2024 a 15 Chwefror 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol De-Orllewin Cymru - Y Diweddaraf am y Rhaglen PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
swyddogion drosolwg o'r adroddiad fel a gynhwysir ym mhecyn yr agenda. Cyfeiriodd yr
Aelodau at dudalen 14 yr adroddiad a oedd yn nodi bod gan y gweithgor bryderon
ynghylch cyllid a'r amserlen cwblhau derfynol. Cyfeiriodd yr Aelodau at y
llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, a oedd
wedi'i gynnwys ym mhecyn yr agenda, a mynegwyd pryder y gellir cymryd arian o
grantiau trafnidiaeth leol i ariannu'r polisïau trafnidiaeth ranbarthol; byddai
hyn yn effeithio ar raglenni gwaith awdurdodau lleol. Holodd yr Aelodau a
gyflwynwyd rhagor o sylwadau i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Cadarnhaodd
swyddogion fod pryderon wedi cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas
â lefelau ariannu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi tynnu sylw at y ffaith y
bydd y cyllid a ddyrannwyd yn cael ei ddefnyddio tuag at y cynllun trafnidiaeth
ranbarthol yn ogystal â datblygu'r cynllun datblygu strategol. Mae Cadeirydd
Cyd-bwyllgor Corfforaethol Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi ymateb i
Lywodraeth Cymru yn egluro'r cyfyngiadau a wynebir o ganlyniad i'r gyllideb
gyfyngedig. Bydd lefel y cyllid a gymeradwyir yn talu cost y gwaith ymgynghori
ond nid datblygiad y cynllun strategol. Nodwyd bod y sefyllfa hon yn cael ei
adlewyrchu mewn Cyd-bwyllgorau Corfforaethol eraill ledled Cymru. Awgrymodd yr
aelodau fod Cadeirydd y Cyd-bwyllgor yn cael ei gynghori bod aelodau'n rhannu'r
pryderon hyn. Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu i swyddogion gadarnhau
cefnogaeth y pwyllgor i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor. Nododd aelodau'r adroddiad. |
|
Y diweddaraf am Safonau'r Gymraeg PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd
swyddogion drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwyswyd ym mhecyn yr agenda.
Nododd aelodau'r adroddiad. |
|
Blaenoriaethau Corfforaethol 24/25 Cynllun Corfforaethol 2023-2028 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd swyddogion drosolwg gryno am yr adroddiad
a gynhwysir ym mhecyn yr agenda. Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynllun gweithredu a
gynhwysir ym mhecyn yr agenda, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch sut
mae'r Grŵp Cyfarwyddwyr Adfywio yn rhyngweithio â'r Cyd-bwyllgor. Nodwyd
bod bylchau yn yr wybodaeth sydd ar gael ar gyfer rhai camau gweithredu. Cadarnhaodd swyddogion fod pedwar is-bwyllgor
wedi'u ffurfio mewn perthynas â'r amcanion lles i sicrhau bod llywodraethu,
gwneud penderfyniadau, a gwybodaeth, syniadau ac awgrymiadau yn cael eu
rhaeadru o ranbarthau i'r Cyd-bwyllgor ac i'r gwrthwyneb. Mae Cyfansoddiad y
Cyd-bwyllgor yn nodi arweinwyr gweithredol ac arweinwyr gwleidyddol ar gyfer
pob amcan lles, fel a ganlyn: •
Trafnidiaeth Ranbarthol – arweinydd gweithredol - Abertawe, arweinydd
gwleidyddol - Sir Gaerfyrddin. •
Datblygu Economaidd a Llesiant Economaidd - arweinydd gweithredol - Sir
Gaerfyrddin, arweinydd gwleidyddol - Abertawe. •
Ynni Rhanbarthol - arweinydd gweithredol – Castell-nedd Port Talbot,
arweinydd gwleidyddol - Sir Benfro. •
Cynllunio Strategol - arweinydd gweithredol – Sir Benfro, arweinydd
gwleidyddol – Castell-nedd Port Talbot. Cyn ffurfio'r Cyd-bwyllgor, ffurfiwyd gweithgorau
craidd a gweithgorau cyfarwyddwyr. Ym mhob awdurdod mae'r Cyfarwyddwyr sy'n
arwain pob thema'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd Rhaglen a'r grŵp llywio a
ffurfiwyd o dan y Cyd-bwyllgor. Mynegodd yr Aelodau bryder bod rhai diweddariadau o
ran cynnydd yn cael eu gohirio i'r Grŵp Cyfarwyddwyr Adfywio Rhanbarthol,
heb sylwadau; dylid nodi unrhyw gynnydd yn y ddogfen. Mae amwysedd ynghylch y
grŵp sydd y tu allan i strwythur y Cyd-bwyllgor. Dywedodd swyddogion y cynhaliwyd ymgynghoriadau ar
y camau gweithredu, ac wrth symud ymlaen roeddent am ganolbwyntio ar gynyddu
gweithgarwch a chynnwys rhanddeiliaid. Trefnwyd gweithdy ar gyfer mis Tachwedd
i edrych ar y blaenoriaethau i weld a ydynt yn parhau i fod yn berthnasol ar
gyfer 2025-2026, mae cyfleoedd i wella'n barhaus. Nid yw'r amcanion lles yn
destun newid, ond mae angen adolygu'r camau gweithredu. Fel rhan o waith
cyfranogiad ac ymgysylltu, mae angen sicrhau ymgysylltiad priodol, mae hyn yn cynnwys
cymunedau yn ogystal â gweithgorau presennol a swyddogion ym mhob awdurdod. Mynegodd yr Aelodau bryder mewn perthynas â lefel
ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gwestiynu gwerth ymgynghoriad ag ymatebion
cyfyngedig; mae lefel yr ymatebion ar draws y rhanbarth yn amrywiol. Holodd yr
Aelodau sut y gellir gwneud pobl yn ymwybodol o'r nodau. Nododd yr Aelodau fod
sefydliad o'r enw '4TheRegion' wedi gwneud gwaith yn Sir Gaerfyrddin yn
ddiweddar a gofynnwyd pwy yr ymgysylltir â nhw i gynnal yr ymgynghoriad ar ran
y pwyllgor. Cadarnhaodd swyddogion fod y Cynllun Corfforaethol wedi cael ei gyhoeddi a'i hyrwyddo drwy wefan y Cyd-bwyllgor. Mae ymgynghoriad dilynol annibynnol ar yr amcanion a'r swyddogaethau lles. Mae'r ymgynghoriad yn fyw ac mae manylion pellach ar gael ar y we-dudalen. Mae cynrychiolaeth ar y gweithgorau gan swyddogion o bob awdurdod, Llywodraeth Cymru, a chyrff arbenigol eraill. Mae'r ymgynghoriad yn seiliedig ar ganfyddiadau a gafwyd o roi'r cynllun corfforaethol cychwynnol ar waith ac adeiladu ar adborth a thynnu sylw at gyfleoedd i wella. Mae pob awdurdod yn hyrwyddo'r ymgynghoriad ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Blaenraglen Waith 2024-2025 PDF 485 KB ·
Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru 2024-2025 ·
Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-Orllewin Cymru - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ddewis eitemau i'w
hystyried ar y Flaenraglen Waith. Penderfynodd yr Aelodau ar y Flaenraglen Waith ar
gyfer y cyfarfod nesaf. |
|
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |