Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 12fed Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet:

 

         Eitem 7: Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023

         Eitem 11: Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

         Eitem 12: Ynni Goleuadau Stryd

         Eitem 13: Cerbyd Di-allyriadau

         Strategaeth Isadeiledd (ZEVIS)

         Eitem 14: Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan

         Eitem 15: Y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan - y diweddaraf ar drosglwyddo i allyriadau isel iawn.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Cyng Nathan Goldup-John ddiddordeb yn Eitem 8 gan ei fod yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru. Caniateir iddo siarad.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 434 KB

I'r Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14/11/23.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14/07/2023, 28/07/2023, 14/09/2023a 06/10/2023 fel cofnod cywir o'r trafodion.

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am Ddangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023) fel y'i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith bod y gwaith cynllunio'n goch, ar dudalen 29 yr adroddiad. Cydnabu'r aelodau fod yr adran wedi colli aelod o staff a gofynnwyd a oeddent wedi dod o hyd i berson newydd yn ei le a pha mor bell y tu ôl oedd yr adran?

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y swyddog a oedd wedi gadael yn y tîm gorfodi felly nid yw'n effeithio ar y dangosydd perfformiad allweddol y cyfeiriwyd ato. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y coch yn ymwneud â cheisiadau mawr a'r amser a gymerir i benderfynu ar y ceisiadau hynny.  Esboniodd swyddogion fod y dangosydd perfformiad allweddol hwn yn un anodd ei gyflawni oherwydd cymhlethdod y ceisiadau sy'n cyrraedd ac o ganlyniad i hynny, mae'r tîm hwnnw bob amser yn ceisio gweithio gydag ymgeiswyr a datblygwyr i neilltuo gweithgareddau ar gyfer camau cynnar y broses drwy drafodaethau cyn cyflwyno ceisiadau i geisio dad-beryglu'r broses.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y tîm wedi cyrraedd targed y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer y chwarter cyntaf ond y chwarter hwn fe fethon nhw'n bennaf oherwydd bod pedwar cais mawr sy'n anarferol. Roedd hyn hefyd yn digwydd yn ystod cyfnod yr haf lle mae'r rhan fwyaf o'r tîm yn defnyddio eu gwyliau blynyddol.

 

Esboniodd swyddogion mai'r gwersi a ddysgwyd oedd, pan fydd swyddogion yn gallu gweld eu bod yn mynd i gael anawsterau i benderfynu ar y ceisiadau, byddant yn dechrau gweithio gyda'r ymgeiswyr a'r datblygwyr ac yn derbyn rhagor o amser os oes angen.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod perfformiad y tîm yn dda o ran ceisiadau cynllunio. Ond ar y mater hwn, mae amgylchiadau penodol sy'n esbonio'r gostyngiad hwn mewn perfformiad.

 

Roedd yr aelodau am wybod pa ardaloedd y mae'r swyddogion yn eu

gwasanaethu mewn perthynas â'r dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer baw cŵn. Dywedodd swyddogion y gallant anfon gwybodaeth at yr aelodau ynghylch ble maen nhw wedi bod o ran baw cŵn.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

Cyflwynodd Mike Roberts yr adroddiad a dywedodd mai dyma'r chweched diweddariad i'r cynlluniau. Roedd COVID-19 wedi effeithio ar y drefn ac felly mae hyn wedi amharu ar bethau ac mae cwpl o ddarnau o waith i'w wneud arno o hyd. Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) yn cael effaith ar sut y mae'r awdurdod yn rheoli'r asedau a bydd angen iddynt gyflwyno adroddiad newydd ar ôl i'r CTRh gael ei roi ar waith. Dywedodd swyddogion, yn hanesyddol, roedd y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn ymwneud â rheoli'r briffordd fabwysiedig. Dywedodd swyddogion, wrth ystyried teithio llesol, yn yr adroddiad eglurhaol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

6.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 476 KB

Cofnodion:

Nododd Aelodau'r Pwyllgor y Cofnod Gweithredu.

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 447 KB

Bod y Pwyllgor yn derbyn Rhaglen Gwaith Cychwynnol Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth ar gyfer 2023-24.

Cofnodion:

Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith.

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynodd yr aelodau beidio â chraffu ar unrhyw eitemau preifat.

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Penderfynodd yr aelodau beidio â chraffu ar unrhyw eitemau preifat.