Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
2023/2024 - Perfformiad Chwarter
2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am Ddangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 -
Perfformiad Chwarter 2 (1
Ebrill 2023 - 30 Medi 2023) fel y'i
cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith bod y gwaith cynllunio'n goch, ar dudalen
29 yr adroddiad. Cydnabu'r aelodau fod yr adran
wedi colli aelod o staff a gofynnwyd a oeddent wedi
dod o hyd i berson newydd yn
ei le a pha mor bell y tu ôl oedd
yr adran?
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y swyddog
a oedd wedi
gadael yn y tîm gorfodi felly nid yw'n effeithio
ar y dangosydd perfformiad allweddol y cyfeiriwyd ato. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod
y coch yn ymwneud â cheisiadau mawr a'r amser
a gymerir i benderfynu ar y ceisiadau hynny. Esboniodd swyddogion fod y dangosydd perfformiad allweddol hwn yn un anodd
ei gyflawni oherwydd cymhlethdod y ceisiadau sy'n cyrraedd ac o ganlyniad i hynny, mae'r tîm
hwnnw bob amser yn ceisio gweithio
gydag ymgeiswyr a datblygwyr i neilltuo gweithgareddau ar gyfer camau cynnar
y broses drwy drafodaethau cyn cyflwyno ceisiadau
i geisio dad-beryglu'r
broses.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y tîm
wedi cyrraedd targed y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer y chwarter
cyntaf ond y chwarter hwn fe
fethon nhw'n bennaf oherwydd bod pedwar cais mawr
sy'n anarferol. Roedd hyn hefyd
yn digwydd yn ystod cyfnod
yr haf lle
mae'r rhan fwyaf o'r tîm
yn defnyddio eu gwyliau blynyddol.
Esboniodd swyddogion mai'r gwersi a ddysgwyd oedd, pan fydd swyddogion yn gallu
gweld eu bod yn mynd i gael
anawsterau i benderfynu ar y ceisiadau, byddant yn dechrau
gweithio gyda'r ymgeiswyr a'r datblygwyr
ac yn derbyn rhagor o amser os oes angen.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod perfformiad y tîm yn dda
o ran ceisiadau cynllunio. Ond ar y mater hwn, mae amgylchiadau
penodol sy'n esbonio'r gostyngiad hwn mewn perfformiad.
Roedd yr aelodau am wybod pa ardaloedd y mae'r swyddogion yn eu
gwasanaethu mewn perthynas â'r dangosydd perfformiad
allweddol ar gyfer baw cŵn.
Dywedodd swyddogion y
gallant anfon gwybodaeth at
yr aelodau ynghylch ble maen
nhw wedi bod o ran baw cŵn.
Nodwyd yr adroddiad.
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Cyflwynodd Mike Roberts yr adroddiad
a dywedodd mai dyma'r chweched diweddariad i'r cynlluniau. Roedd COVID-19 wedi effeithio ar y drefn ac felly mae hyn wedi
amharu ar bethau ac mae cwpl
o ddarnau o waith i'w wneud arno
o hyd. Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) yn cael
effaith ar sut y mae'r awdurdod
yn rheoli'r asedau a bydd angen
iddynt gyflwyno adroddiad newydd ar ôl i'r
CTRh gael ei roi ar
waith. Dywedodd swyddogion, yn hanesyddol, roedd y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn ymwneud â rheoli'r
briffordd fabwysiedig. Dywedodd swyddogion, wrth ystyried teithio
llesol, yn yr adroddiad eglurhaol
mae'n nodi bod angen iddynt bellach edrych ar y rhwydwaith
o lwybrau beiciau cyffredinol hefyd. Bydd hyn yn
cymryd amser ac mae'n ddarn ychwanegol
o waith. Yng ngoleuni hyn, dywedodd swyddogion
y gallent naill ai ymestyn yr adroddiad
am flwyddyn neu ddarparu'r adroddiad dros dro lle maent
yn cydnabod bod angen iddynt wneud
2 ddarn arall o waith.
Cododd yr Aelodau, ar dudalen 115 o'r adroddiad lle
mae'n cyfeirio at waliau cynnal, rhestrwyd dros 1262 lle nad oedd
yr awdurdod yn gwybod pwy
oedd yn berchen
arnynt ac roeddent am wybod a yw
hyn yn o ganlyniad i derminoleg yn unig neu os
nad oedd yr awdurdod yn
ymwybodol o'r ateb.
Gofynnodd yr aelodau hefyd beth oedd
y talfyriad SCRIM yn ei olygu, a gan
fod yr adroddiad
yn cynnwys llawer o dalfyriadau, a oedd modd
cynnwys geirfa mewn adroddiadau fel hyn?
Dywedodd swyddogion nad yw'r awdurdod yn
gwybod pwy sy'n berchen ar
yr eiddo sy'n ymwneud â'r
waliau cynnal. Mae dyletswydd gofal ar yr awdurdod,
os daw i sylw'r swyddogion bod strwythur sy'n ffinio â'r
briffordd sy'n peri pryder, yna mae'n
rhaid i'r awdurdod ymchwilio i'r berchnogaeth ac yna bydd swyddogion
yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol
i wneud unrhyw waith atgyweirio.
Gall
swyddogion roi hysbysiadau cyfreithiol ffurfiol ar dirfeddianwyr
ac os na fyddant yn ymateb
yna bydd y cyngor yn gweithredu
ac yna'n ceisio adennill costau gan y perchnogion. Mewn amgylchiadau lle nad oes
perchnogion cofrestredig, yna mae dyletswydd
ar yr awdurdod
i drefnu i'w sicrhau ei fod
yn ddiogel. Mae peidio â gwybod holl berchnogion y strwythurau'n ardal perygl ar gyfer
yr awdurdod fel y nodir ar
y gofrestr risgiau corfforaethol. Nodwyd nad oes cyllid
penodol wedi'i ddyrannu i archwilio'r strwythurau hyn ac mae'r awdurdod yn cymryd rôl
adweithiol.
Ymddiheurodd swyddogion am ddefnyddio
sawl talfyriad a dywedwyd eu bod yn diwygio'r adroddiad
i gynnwys yr enwau llawn lle
ceir acronymau ac eglurwyd bod SCRIM yn ymwneud â sut mae
swyddogion yn mesur pellter llithro
ac mae'n golygu Peiriant Ymchwilio i Gyfernod Gwrthiant i'r Ochr (Sideways Coefficient of
Resistance Investigation Machine).
Fe
wnaeth aelodau godi'r mater bod y cynllun yn dweud mai
rhan o'r broses asesu yw'r defnydd
gan draffig ac mae hynny'n cael
ei ddefnyddio i gyfrifo'r angen am waith atgyweirio penodol a'r manteision
a ddaw ohono. Dywedodd yr aelodau fod
gan rai cymunedau'r cymoedd, sy'n ardaloedd
mwy gwledig, lefelau traffig is ond hefyd mae
ganddynt drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n golygu bod yr angen yn
cael ei ystyried
yn llawer uwch yn lleol.
A yw hynny'n
cael ei ystyried?
A pham nad yw hynny'n cael
ei ystyried gan nad yw'r
adroddiad yn datgan unrhyw effaith
ar gymunedau'r cymoedd.
Esboniodd swyddogion mai cerbydau nwyddau trwm sy'n cael
yr effaith fwyaf ar draul
y ffordd ac mae hynny'n cael ei
ystyried yn aml wrth ddylunio
ffyrdd cerbydau. Roedd swyddogion yn deall bod ardaloedd
gwledig yn ddibynnol ar ffyrdd
ond dywedodd, o ran cynnal a chadw, mai cerbydau nwyddau
trwm a 'miliwn o echelau safonol' sy'n effeithio ar y dyluniad, cylch bywyd a chynnal
a chadw ffyrdd. Nid yw'n edrych
ar flaenoriaeth ardaloedd y cymoedd o ran cylch bywyd ac mae'n edrych ar
y defnydd o'r ffordd fel y prif
ffactor.
Dywedodd yr aelodau nad oedd yr
asesiad effaith yn nodi'r effaith
ar gymunedau'r cymoedd. Dywedodd yr aelodau fod
y draul i'r ffordd yn amherthnasol
adeg hynny gan fod y ffordd
eisoes wedi'i difrodi ac mae rhan o'r asesiad
ynghylch ym mhle caiff y gronfa
ar gyfer gwaith atgyweirio'n ei defnyddio'n seiliedig ar y defnydd gan draffig
a'r angen. Mae aelodau o'r farn
ei bod hi ychydig yn rhy hwyr
unwaith y mae angen ei atgyweirio.
Mae
aelodau'n deall bod traul yn rhan
o'r broses amserlennu oherwydd bydd angen
mwy o waith cynnal a chadw ar ffyrdd sy'n
cael eu defnyddio'n
fwy gan gerbydau
trwm, ond nid oeddent yn
deall pam ei fod yn rhan
o'r broses asesu ar gyfer atgyweirio
ffyrdd sydd â difrod.
Dywedodd swyddogion fod
system adweithiol ar gyfer adroddiadau am atgyweiriadau ac yna gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio.
Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
hwn yn rhan
o gyfres o ddogfennau, gan gynnwys y cynllun
cynnal a chadw priffyrdd, y gyfundrefn arolygu priffyrdd ac yn y dyfodol yr
adroddiad statws ac opsiynau sy'n edrych
ar asedau'r awdurdod. Mae'r ddogfen yn nodi'r
hyn y mae angen i chi ei wario dros y tymor
hwy i gynnal lefelau penodol o gyflwr y briffordd.
Tynnodd yr aelodau sylw at dudalen 127 lle mae'r adroddiad
yn nodi, 'rheoli mynediad i'r dref'
ym Mhontardawe ac roeddent am wybod beth oedd hyn
yn ei olygu
gan ei fod
yn swnio fel ei fod
yn ceisio atal pobl rhag
mynd yno.
Eglurodd swyddogion nad yw Llywodraeth Cymru (LlC) bellach yn
cefnogi gwelliannau o ran capasiti felly yn y gorffennol pe bai unrhyw dagfeydd, byddent yn ceisio ymdrin
â nhw drwy ddatblygu capasiti. Nawr nad oes arian
ar gyfer hyn, mae'n rhaid
i'r awdurdod edrych ar opsiynau
eraill oni bai y gall yr awdurdod ariannu
capasiti cynyddol eu hunain. Mae'n
rhaid i'r awdurdod nawr edrych
ar reoli capasiti a sut y maent yn annog
pobl i ddefnyddio ffurfiau eraill o deithio fel bysus,
teithio llesol etc. Y gwir amdani yw
bod yn rhaid i'r awdurdod reoli'r
hyn sydd ganddynt.
Gofynnodd yr Aelodau, ynghylch tudalen 140 o dan yr ymgymerwyr statudol,
allai'r awdurdod gynyddu'r cyfnod cynnal a chadw ar gyfer y cwmnïau
cyfleustodau nad ydynt yn gwneud
gwaith da i 4-5 mlynedd er mwyn cymell perfformiad
gwell.
Esboniodd swyddogion fod uchafswm sydd wedi'i
gapio o dan ganllawiau statudol ar gyfer
hyn.
Gofynnodd yr Aelodau beth y mae 'dyheadau
gwleidyddol' yn ei olygu ar
dudalen 153.
Esboniodd swyddogion fod hyn yn ymwneud
ag a oedd ystyriaeth gan aelodau eu bod am flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw priffyrdd, er mwyn cael safon uwch
o ran cynnal a chadw a chyflwr. Defnyddiodd swyddogion enghraifft, efallai bod aelodau am gael uchafswm o 2% o brif ffyrdd
a 3% o gilffyrdd lle mae angen
gwaith cynnal a chadw arnynt, felly gall aelodau osod hynny
fel safon (y dyhead) ond yna
byddai'r adroddiad statws ac opsiynau'n golygu y byddai angen i swyddogion wedyn edrych ar
lefel y gwariant y mae ei angen
i gynnal y safon honno.
Ymatebodd y Cadeirydd i'r sylwadau agoriadol gan swyddogion ynghylch y gwaith y mae angen ei
wneud o hyd ar y Cynllun Rheoli
Asedau Priffyrdd a'r cyfeiriad a wnaed at y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) sy'n cael
ei ystyried gan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CBC) ar hyn o bryd. Disgwylir
i hyn gael ei gwblhau erbyn
mis Mawrth 2025 a nodwyd y cynhelir
trafodaeth bellach gyda LlC ar
yr amserlen hynod o dynn ar
gyfer mabwysiadu'r cynllun. Pe bai Llywodraeth Cymru'n derbyn estyniad i'r amserlen
bresennol, yna byddai hynny'n mynd â ni i ddiwedd
y fersiwn hon o'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Dywedodd y cadeirydd ei fod yn
poeni na fyddai'r fersiwn yma o'r cynllun
yn cael ei
ddiweddaru o fewn amserlen y CTRh. Yr ochr arall
yw, o ran lle nad yw'r cynllun
yn cydymffurfio â Llwybr Newydd a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (SDC) ar hyn o bryd, roedd
am wybod beth yw'r amserlen ar
gyfer diweddaru'r cynllun mewn perthynas
â hynny? Tynnodd y cadeirydd sylw at y ffaith bod SDC/Llwybr Newydd eisoes ar waith
ar gyfer pryd y disgwyliwyd rhoi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
ar waith ac roedd yn siomedig
ei fod wedi
cael ei symud
ymlaen heb ystyried y SDC a'r polisi cenedlaethol yn llawn, ac mae'n
eithaf brys bod y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cydymffurfio â'r holl bolisïau
cenedlaethol.
Dywedodd swyddogion, yn hanesyddol, nad yw'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
wedi edrych ar unrhyw beth
y tu allan i'r rhwydwaith mabwysiedig ac mae swyddogion yn ansicr
ynghylch a yw hynny'n cael ei
gynnwys yn y cynllun cenedlaethol ond mae swyddogion
yn cydnabod bod bellach angen i'r
awdurdod ymestyn y tu hwnt i'r
rhwydwaith mabwysiedig ac edrych ar y rhwydwaith
beicio cyffredinol p'un a yw'r rheini
ar dir cyhoeddus
neu breifat a thir sydd wedi'i fabwysiadau
neu heb ei fabwysiadu. Mae swyddogion yn gwybod bod llwybrau
beicio ar y cynllun nad ydynt
ar briffyrdd mabwysiedig ac nad ydynt yn bodloni
safonau mabwysiadol ac mae angen ymagwedd
fwy cyfannol.
Dywedodd swyddogion fod materion pellach a fydd yn cynnwys
asesiadau y tu hwnt i'r briffordd
fabwysiedig ac yn edrych ar bob agwedd
ar y rhwydwaith beicio. Os byddwch
yn dod â'r
cyfan o fewn cyfundrefn arolygu, bydd angen iddynt
ystyried a oes safon fabwysiedig
neu safon ofynnol ac yna ar gyfer
cynnal a chadw efallai y bydd yn rhaid iddynt
edrych ar safonau gofynnol ar draws y rhwydwaith cyfan sydd wedi'i
fabwysiadu ac sydd heb ei fabwysiadu.
Gallai gwneud hynny hefyd gyflwyno problemau gydag ariannu oherwydd ar hyn o bryd
nid yw'r awdurdod yn ariannu
rhwydwaith heb ei fabwysiadu i'r
un safon â'r rhwydwaith sydd wedi'i fabwysiadu. Dywedodd swyddogion fod hwn yn
ddarn sylweddol o waith ac y gallai gymryd blwyddyn i'w gwblhau ac mae'n amodol ar
yr adnoddau sydd ar gael.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau hefyd, mewn perthynas â theithio llesol, mae gwahaniaeth rhwng y rheolaeth o ran y mathau gwahanol o ddarpariaeth, mae angen i swyddogion resymoli i sicrhau bod troedffyrdd, llwybrau beicio a pharciau defnydd a rennir yn cael eu
harolygu a'u cynnal a chadw'n briodol ac nad yw hyn yn
gyson ar hyn o bryd. Nododd
swyddogion fod hwn yn fwlch
o fewn y ddeddf gan fod y Cynllun
Rheoli Asedau Priffyrdd yn ymdrin
â phriffyrdd mabwysiedig ond mae llawer
o'r rhwydwaith beicio ar dir
preifat neu briffyrdd sydd heb eu
mabwysiadu.
Esboniodd swyddogion, mewn perthynas â'r CBC a'r CTRh, er bod pob rhanbarth yn
codi pryderon ynghylch yr amserlen
gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o gyflwyno'r
cynllun gweithredu, mae'n rhaglen heriol
iawn i gyflawni nifer yr astudiaethau
y mae eu hangen o fewn y cyfnod hwnnw. Mae swyddogion yn awgrymu
y byddai'n cymryd o leiaf 12 mis arall i lunio cynllun ystyrlon
a chadarn sy'n ymdrin â barn yr holl randdeiliaid. Nid yw swyddogion
yn sicr beth
fydd Llywodraeth Cymru'n feddwl o hyn. Ar hyn
o bryd nid oes hyblygrwydd ar ac mae cyllid
cyfyngedig iawn ar gyfer cwblhau'r
gwaith. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod rhanbarth y de-orllewin wedi cyflwyno
ei gynllun gweithredu drafft erbyn y dyddiad y’i disgwylir ar
ddiwedd mis Hydref a'u bod yn aros am adborth
gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd swyddogion eu bod yn debygol o gael
eu cynghori bod yn rhaid i'r
CTRh ystyried y cynllunio defnydd tir ar draws y rhanbarth, ond mae'r cynllun datblygu
strategol ymhellach y tu ôl i'r
CTRh. Maent yn dibynnu ar
ei gilydd; nid yw swyddogion
yn sicr a fydd Llywodraeth Cymru'n ymestyn y cyfnod hwn ac yn
gofyn i'r Cynllun Datblygu Strategol gyflwyno cynlluniau dros dro'n gynt neu beidio. Mae swyddogion yn gweithio tuag
at 2025 ar gyfer cynllun mabwysiedig.
Mae swyddogion yn credu y gallent ddod ag adroddiad yn ôl ar
elfen teithio llesol y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
hyd yn oed
os yw'r elfennau
eraill yn cael eu gohirio.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn credu
ei bod yn hanfodol bod y gwaith teithio llesol yn dod yn
ôl cyn gynted
â phosibl a bod gwerth pwysleisio nad yw'r gwaith yn
golygu gwaith rheoli llwybrau beicio cyffredinol ond hefyd sut
mae priffyrdd mabwysiedig a lle ar y ffyrdd yn
cael eu categoreiddio
a'u blaenoriaethu hefyd mewn perthynas
â theithio llesol.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 171 sy'n sôn am bontydd a sut y cânt eu
hasesu o bryd i'w gilydd a dyna'r
amcan ond hefyd ar dudalen
183 mae'r adroddiad yn nodi nad yw
asesu pontydd wedi bod yn gyson
ac roedd aelodau am wybod pam nad oes
amserlen 3–5 mlynedd fel targed i'w
hatal rhag bod yn anghyson wrth
symud ymlaen.
Esboniodd swyddogion fod dau fath o arolygiadau.
Arolygiad cyffredinol sy'n weledol a gwneir hynny dros
2 flynedd. Mae 50% o'r arolygiadau hynny'n cael eu cynnal
bob blwyddyn. Cynhelir prif arolygiadau hefyd yn unol
â'r canllawiau statudol a gwneir hynny bob 6 blynedd ac ar gyfartaledd maent yn gwneud
20 y flwyddyn. Maent ar y trywydd iawn
ar hyn o bryd, fodd bynnag,
roedd pwynt lle roeddent ar
ei hôl hi pan adawodd rhai peirianwyr
arolygu yr awdurdod ond erbyn
hyn, maen nhw nôl ar
y trywydd iawn.
Holodd yr Aelodau am yr arolwg isadeiledd
draenio a gofynnwyd a oedd hyn
yn bosibl aelodau ei weld ar sail eu hardaloedd.
Dywedodd swyddogion eu bod yn hapus i rannu gwybodaeth am hyn ond o ystyried
faint o wybodaeth sydd gan y cyngor efallai
byddai'n haws eistedd i lawr gyda swyddogion
neu edrych arnynt ar-lein. Eglurodd swyddogion fod yr awdurdod yn
gyfrifol am ddraenio priffyrdd a draenio tir ar dir
yr awdurdod yn unig. Mae gan y cyngor ddiddordeb hefyd mewn systemau
carthffosiaeth cyfun Dŵr Cymru sy'n derbyn draeniad yr awdurdod.
Roedd yr aelodau am wybod a oedd
map sy'n dangos ble mae'r meysydd
sy'n broblem gan y gallai fod
yn ddefnyddiol i aelodau wybod yr
hyn y mae swyddogion yn gweithio
arno. Dywedodd swyddogion fod ganddynt gyllideb o £300,000 ond mae ganddynt
lu o flaenoriaethau i ymdrin â nhw. Mae'r
swm hwn wedi
bod yr un fath ers nifer o flynyddoedd
ac ynghyd â'r tywydd yn newid
mae ganddynt restr hir o anghenion ac mae'r rhai mwyaf
brys ar frig y rhestr. Disgwylir i'r aelodau
dderbyn Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd
diwygiedig maes o law.
Yn
dilyn craffu roedd yr aelodau’n
gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Ynni Goleuadau Stryd
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am Ynni Goleuadau Stryd fel y'i cyflwynwyd
yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynghylch y risg gynyddol i ddiogelwch y cyhoedd yn erbyn y costau
a arbedir trwy bylu goleuadau
stryd neu ddiffodd goleuadau ac anogwyd y cabinet i edrych ar y mater yn ofalus ac ymdrechu
i gadw goleuadau ymlaen.
Gofynnodd yr aelodau gyfres o gwestiynau;
Beth
ydy pylu golau stryd 3-watt yn ei olygu
mewn canrannau?
Pa
feini prawf sydd wedi cael
ei ddefnyddio ar gyfer ardaloedd
targed?
A
ellid defnyddio synwyryddion yn lle a fyddai'n cael eu troi
ymlaen a'u diffodd ar adegau
penodol?
Pa
effaith fydd hyn yn ei
gael ar oleuadau
Nadolig gan eu bod yn cael
eu cyflenwad pŵer gan oleuadau
stryd?
Pryd gafodd ei dreialu o'r blaen
a pha ganran gafodd y goleuadau eu pylu iddo?
Dywedodd swyddogion fod hyn yn y dyddiau
cynnar o ran y cynigion ac maent wedi cael
y dasg o weld a yw'n bosibl gwneud
unrhyw arbedion oherwydd y cynnydd mewn costau ynni.
Mae'r rhain wedi cael eu
nodi yn yr adroddiad ac mae angen ymgynghoriad ar swyddogion i lywio asesiad effaith
integredig. Mae dros 500 o dudalennau o leoliadau ar gyfer pylu
a diffodd golau rhan amser posib.
Bydd y lleoliadau hyn ar gael
yn yr ymgynghoriad
er mwyn i'r cyhoedd chwilio am eu strydoedd unigol,
ar gyfer pylu golau a golau
rhan amser.
Nid yw'r cyngor yn trefnu goleuadau
Nadolig mwyach ac mae'r cyfrifoldeb ar gynghorau tref a grwpiau lleol. Ni fydd pylu'r goleuadau'n effeithio ar y pŵer sydd ar gael ar
gyfer goleuadau Nadolig sy'n gysylltiedig
â cheblau cyflenwi goleuadau stryd.
Gofynnodd y Cadeirydd am y rhesymeg
ynghylch yr ardaloedd a ddewiswyd ar gyfer golau
rhan amser gyda'r nos. Roedd y cadeirydd hefyd yn teimlo y byddai'r
rhestr yn ei wneud yn
anodd iawn i'r cyhoedd ganfod
sut yr effeithir
ar yr ardaloedd
y byddent yn eu defnyddio'n aml.
Dywedwyd wrth swyddogion fod ymgynghorydd profiadol wedi bod yn rhan o'r
broses a oedd wedi rhoi canllawiau
ar waith a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Gweithwyr Goleuo Proffesiynol. Gallai swyddogion sicrhau bod adroddiad yr ymgynghorydd ar gael i aelodau,
mae rhestr o waharddiadau golau rhan amser gyda'r
nos gan gynnwys
cyffyrdd/cylchfannau sydd â lefelau uchel o draffig, ardaloedd sydd â nifer uchel o ddamweiniau,
ardaloedd lle mae teledu cylch cyfyng yn bresennol
o fewn 50 metr i golofn goleuadau stryd, ardaloedd sydd â chyfraddau uchel o drosedd, canol trefi, meysydd parcio cyhoeddus a phrif lwybrau traffig.
Consensws yr adroddiad yw byddant
yn pylu goleuadau
mewn ardaloedd preswyl yn hytrach
na phrif lwybrau gweithredol.
O
ran y rhestrau o strydoedd ar gyfer goleuadau
rhan amser gyda'r nos a phylu
goleuadau, byddai swyddogion yn gofyn
i TG a oedd modd gwneud rhestrau
y gellid eu chwilio yn ôl
enw'r stryd er mwyn ei wneud
yn haws i breswylwyr. Dywedodd yr aelodau
y byddai map yn ddefnyddiol fel y gallai'r cyhoedd ymchwilio i deithiau rheolaidd a gweld sut yr effeithir
arnynt. Atebodd swyddogion y gallai cynhyrchu map fod yn anodd ond
fe fyddant yn gweld beth
allen nhw ei wneud gyda
TG.
Gofynnodd yr aelodau hefyd beth oedd
y meini prawf ar gyfer penderfynu
ar y ffyrdd lle byddai'r golau'n
cael ei bylu.
Nododd swyddogion fod y golau mewn
llawer o ardaloedd stadau yn benodol
eisoes wedi'i bylu. Yn fwy diweddar gosodwyd
goleuadau LED i gymryd lle'r goleuadau sodiwm gwasgedd uchel â watedd uwch a'r goleuadau
hyn yw'r rhai y bwriedir eu pylu erbyn
hyn. Er mwyn gweld yr
effaith, cynigiodd Swyddogion rai safleoedd arddangos lle gall pobl weld y goleuadau wedi'u pylu 25%.
Holodd yr aelodau am yr hyn sy'n
digwydd ynghylch coed yn cuddio
goleuadau ar hyn o bryd oherwydd
pe bai'r goleuadau'n cael eu pylu
heb i'r coed
gael eu torri
yna byddai'r strydoedd yn cael
eu goleuo'n wael. Dywedodd swyddogion yr ymdrinnir
â'r rhain pan adroddir amdanynt a bydd hynny'n parhau.
Cydnabu'r Aelodau yr ymgynghoriad â'r Heddlu ac anogwyd ymgynghoriad pellach mewn perthynas ag ardaloedd lle mae
trosedd yn digwydd a phylu goleuadau.
Mae'r aelodau'n cefnogi'r
syniad o dreialu pylu goleuadau fel bod gan gynghorwyr
ddealltwriaeth well o sut fyddai hyn yn
edrych a chroesawyd y cynnig i weld adroddiad llawn yr ymgynghorydd.
Gwnaeth aelod awgrym bod angen trothwy uchel,
o leiaf 80% o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad
cyhoeddus, ateb er mwyn i unrhyw newidiadau
i oleuadau gael eu rhoi ar
waith oherwydd nifer y bobl yr
effeithir arnynt gan unrhyw newidiadau.
Dywedodd yr aelodau fod nifer o oleuadau
LED wedi bod yn rhy llachar mewn
rhai achosion ac roedd hyn yn
golygu bod angen i drigolion ddefnyddio cysgodlenni.
Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch manteision cael map clir o'r
ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Nid oedd swyddogion yn gallu rhoi
sicrwydd o 100% eu bod yn gallu llunio
map ond byddent yn ceisio ei
gwneud mor hawdd â phosibl i drigolion chwilio am yr ardaloedd
lle cynigir newidiadau.
Byddai swyddogion yn edrych ar ba
wybodaeth ddaearyddol y gallent ei rhoi
ond byddai'n rhaid iddynt ystyried
yr amser a'r gost i weld yr hyn y gallent
ei wneud.
Yn
dilyn y drafodaeth hon, cyflwynwyd y diwygiadau canlynol gan y pwyllgor craffu:
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys map clir o'r ardaloedd
yr effeithir arnynt.
Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad
i Fwrdd y Cabinet gyda'r diwygiadau.
Strategaeth Isadeiledd Cerbydau
Di-allyriadau (ZEVIS)
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Di-allyriadau (ZEVIS) fel y'i cyflwynwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 287. Mae'n sôn am atgyfnerthu'r grid a'r gost sy'n
gysylltiedig ag atgyfnerthu'r
grid. Roedd yr Aelodau am wybod pwy fyddai'n talu'r
costau hynny?
Cyfeiriodd yr aelodau hefyd at ddatgarboneiddio'r cerbydlu llwyd ac os yw'r awdurdod
yn cynnig ac yn hyrwyddo cynllun
aberthu i'r gweithwyr.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 320 o'r adroddiad, yn benodol
y cynllun gweithredu ac roeddent am wybod pryd y byddai hynny'n
cael ei gynhyrchu,
pwy oedd yn ei gynhyrchu
ac o ble byddai'r gyllideb yn dod
ar gyfer cynhyrchu'r cynllun?
Dywedodd swyddogion fod cost
sylweddol gyda chysylltiadau grid ac mae hyn yn cynyddu
wrth i chi osod gwefrwyr cyflymach. Erbyn hyn mae'r grid cenedlaethol yn codi cost gyfrannol yn hytrach na
chost gyflawn ar gyfer is-orsaf
newydd. Mae hyn yn welliant ond
mae ffigurau uchel o hyd ar
gyfer gwefrwyr â phŵer uchel. Byddai'r prosiect yn talu am hynny
ac er bod cyllid ar gael mae hynny'n
dal i fynd trwy gostau'r prosiect.
Esboniodd swyddogion fod y cynllun aberthu cyflog yn cael
ei lansio cyn bo hir, bydd
swyddogion yn monitro'r nifer sy'n manteisio arno pan fydd y cynllun ar waith.
Dywedodd swyddogion fod goblygiadau y mae angen i bobl
sy'n manteisio arno eu deall,
mewn perthynas â'r milltiroedd y gallant eu hawlio wrth
ddefnyddio eu car aberthu cyflog. Bydd y cerbydau hyn yn helpu
i leihau allyriadau'r cerbydlu llwyd.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, ar gyfer
y cynllun gweithredu, maent yn gweithio
tuag at y camau nesaf fel rhaglen
llwybr carlam fel y gallant weithio'n gymharol gyflym. Eiddo y mae'r cyngor
yn berchen arno fel ysgolion,
meysydd parcio, canolfannau cymunedol etc,
gallant weithio gyda chydweithwyr yno a chyda'r Grid Cenedlaethol. Maen nhw'n gweithio
ar y rhaglen llwybr carlam nawr
ac yn ceisio canfod ffordd lle
gall preswylwyr neu weithwyr/cerbydau'r awdurdod ddefnyddio'r gwefryddion hyn yn y lleoliadau
hynny sy'n eiddo i'r awdurdod.
Mae'r ddogfen strategol wedi cael ei dylunio
i hysbysu ac i arwain swyddogion ymlaen.
Roedd yr aelodau am wybod a oedd
y cynllun gweithredu'n gynllun corfforol eto. Dywedodd swyddogion
ei fod yn
waith ar y gweill ond cyn
gynted ag y bydd y cynllun gweithredu'n barod ar ffurf
adroddiad bydd y cynllun ar gael.
Amcangyfrifodd swyddogion y
byddai'n cymryd 6 mis i'w gyflawni. Dywedodd
swyddogion y byddai'n ddogfen ddynamig gan y bydd y byd
yn symud heibio'r awdurdod. Bydd y sector preifat yn arwain oherwydd,
yn fasnachol, bydd yn gwneud
synnwyr iddynt wneud hynny mewn
rhai sefyllfaoedd. Roedd swyddogion yn ystyried bod yr awdurdod yn
canolbwyntio mwy mewn ardaloedd lle na fyddai
pobl yn cael
mynediad at wefrydd gan na fyddai'n
gwneud synnwyr masnachol.
Nododd yr Aelodau fod opsiynau wedi'u
cynnwys ar fathau o isadeiledd gwefru trydan ar
y stryd yn yr adroddiad a thynnwyd sylw at y ffaith bod angen i'r awdurdod fod
yn ofalus gyda'r opsiynau y maent yn eu
dewis a'r effaith y maent yn ei chael
ar gerddwyr a'r briffordd fel
nad oes unrhyw
effeithiau negyddol anfwriadol ar yr
isadeiledd teithio llesol.
Nodwyd yr adroddiad.
Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar
gyfer cerbydau trydan
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am fannau gwefru preswyl ar y stryd ar
gyfer cerbydau trydan fel y'i
cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
O ystyried yr adnoddau
cyfyngedig sydd gan yr awdurdod,
teimlai'r aelodau y dylent fynd gydag
un system ac edrych i mewn
i sut i wneud hynny'n gywir yn
hytrach na sawl opsiwn.
Gofynnodd yr aelodau a yw'r awdurdod
yn datblygu'r polisi nawr oherwydd
bod problem eisoes neu oherwydd
eu bod yn credu y bydd yn
broblem gyda phobl yn llusgo
ceblau ar y palmentydd. Os yw pobl yn
gwneud hyn eisoes, byddai angen i'r awdurdod
gynnig dewis arall iddynt.
Teimlai'r aelodau y gellid defnyddio'r bobl hyn mewn treial
o atebion amgen i gael ceblau ar
y palmant.
Dywedodd swyddogion mai un rheswm y gwnaethon nhw gyflwyno'r adroddiad oedd codi ymwybyddiaeth am eu bod yn credu
y bydd problem. Mae nifer fach o bobl wedi
bod yn gofyn i swyddogion am ganiatâd i roi ceblau ar
y palmant ac mae'r rhain wedi cael
eu gwrthod o dan rwymedigaethau'r cyngor, ond nid oes
polisi ffurfiol arno. Mae swyddogion hefyd yn teimlo
bod angen canllawiau cenedlaethol ar Gymru ar hyn
ac mae angen cydlynu'r treialon sy'n digwydd. Mae swyddogion hefyd yn credu efallai
bod angen diwygiadau i'r Ddeddf Priffyrdd
a/neu ganllawiau fel bod pawb yn gwybod
ym mhle ydyn
nhw. Mae angen ystyriaeth gydlynol ar hyn. Mae swyddogion
yn sylweddoli y bydd hyn yn
broblem gynyddol gyda chynnydd yn
nifer y bobl sy'n prynu cerbydau
trydan a byddant yn gweld beth
y gallant ei wneud. Gallai'r Strategaeth Isadeiledd Di-allyriadau ddod i rym lle
gallai hybiau cymunedol helpu gyda gwefru.
Gofynnodd yr aelodau a oes gan
Lywodraeth Cymru neu Trafnidiaeth
Cymru awydd i edrych ar hyn. Cytunodd
swyddogion fod LlC a TrC yn
awyddus i edrych ar hyn a'u
bod yn ymchwilio iddo. Ar hyn
o bryd mae arloesedd ar y blaen o'i gymharu
â deddfwriaeth ac mae perygl o ymgyfreitha os nad oes
cynllun cydlynol. Byddai swyddogion yn fodlon i CNPT gymryd rhan mewn
treial na wnaed gan awdurdod
lleol arall eisoes i hyrwyddo'r agenda a symud pethau ymlaen
a dangos i breswylwyr bod yr awdurdod yn
symud y cynllun ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru'n derbyn adborth gan ALl
a darparwyr datrysiadau er mwyn dod o hyd
i ffordd o wneud i hyn weithio.
Gofynnodd yr Aelodau pam nad yw gwefrwyr
dros dro/pwyntiau mynediad dros dro at fannau
gwefru yn y palmant sydd wedi'i
gysylltu â'r cyflenwad cartref wedi cael eu
hystyried. Nododd swyddogion fod treialon gwahanol
o'r systemau yn yr adroddiad. Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd
a Thwf Economaidd fod systemau sy'n
mapio mannau gwefru preifat lle gallwch dalu
i wefru ac ystyriwyd y gallai gwella mapio
fel rhan o'r strategaeth i gynnwys y mannau gwefru ychwanegol hyn fod o gymorth.
Mae
swyddogion yn edrych ar enghreifftiau
o fannau gwefru dros dro ond
mae ystyriaethau i'w gwneud ynglŷn
â safonau gofynnol teithio llesol ar gyfer llwybrau
troed ac ati, felly mae goblygiadau o ran yr atebion y gellir
eu defnyddio, a dyna pam mae safonau cenedlaethol
yn bwysig.
Yn
dilyn craffu roedd yr aelodau’n
gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan - y diweddaraf ar drosglwyddo
i allyriadau isel iawn
Dywedodd yr Aelodau fod y lorïau sbwriel
sy'n cael eu treialu nawr
yn gorfod mynd yn ôl
i gymunedau fwy nag unwaith ac mae'n bryder na all y cerbyd a ddefnyddir wneud ail ymweliad â rhai cymunedau. Yn seiliedig ar hyn
roeddent am wybod a oedd modd
gosod gwefrydd yn yr ardaloedd
hynny.
Dywedodd swyddogion eu bod yn ceisio disodli'r
cerbydau ailgylchu a'u bod wedi prynu
un ac mae'n gweithio'n dda. Dywedodd swyddogion
nad ydynt wedi dod o hyd
i lori sbwriel trydan sy'n addas ar gyfer amgylchiadau
daearyddol yr awdurdod ac sy'n gallu cwblhau dwy
daith i fyny ac i lawr y dyffryn gyda storfeydd batris digonol hefyd. Ystyriaethau pwysau lorïau sbwriel
trydan wedi'u llenwi yw'r brif
broblem o ran eu diffyg addasrwydd gan fod llawer
o straen ar y batris a'r moduron.
Dywedodd swyddogion, os nad ydynt
yn dod o hyd i gerbydau trydan amgen addas yn lle'r cerbydau
diesel erbyn y dyddiad y mae angen eu
hadnewyddu, byddant yn edrych ar
gerbydau hydrogen fel dewis amgen, er, nodwyd y byddai angen cyflenwad hydrogen gwyrdd sydd ar
gael yn rhwydd.
Mewn perthynas â gwefrwyr
yn ardal y Cymer, mae gwaith yn
mynd rhagddo mewn perthynas â'r cynllun 5 mlynedd
ar gyfer trosglwyddo'r cerbydlu i gerbydau trydan a gadael llys Tregellis ac fel rhan o'r
cynllun hwnnw maent yn gobeithio
gosod cyfleusterau gwefru gwaith trwm
ym mhob un o gymunedau'r cymoedd ac maent yn chwilio
am grantiau i alluogi'r strategaeth hon. Mae swyddogion yn gobeithio am leoliadau Cwm Tawe, Cwm Dulais,
Cwm Nedd a Chwm Afan fel y gall y gweithlu wefru cerbydau'n gyflym os oes
angen yn yr ardaloedd hynny.
Dywedodd swyddogion wrth aelodau hefyd fod
de-orllewin Cymru'n arwain Cymru gyfan ar y rhaglen drosglwyddo
i gerbydau allyriadau isel iawn. O ran CNPT, caiff ei ddosbarthu
fel awdurdod lleol cymysg ac mae arwyddion cynnar
yn dangos bod CNPT ymhell ar y blaen
o ran awdurdodau lleol cymysg ar gyfartaledd,
yn CNPT mae 11.9% o'r cerbydlu'n drydanol o'i gymharu
â gweddill yr awdurdodau cymysg lle mae 5.67% o'u
cerbydlu'n drydanol. Nodwyd hefyd bod 90% o faniau a'r
holl geir a brynwyd yn ystod
y flwyddyn ddiwethaf yn gerbydau di-allyriadau.
Mae
swyddogion wedi cyflwyno tendr ar wefan Gwerthwch
i Gymru ar gyfer y contract i ymestyn parcio'r lorïau ac i osod y pwyntiau gwefru cysylltiedig yn yr orsaf
trosglwyddo gwastraff ar gyfer y cerbydlu
gwastraff. Bydd gwefrwyr cyflym ac wrth i yrwyr gymryd
eu seibiant gyrru statudol, bydd y cerbydau'n cael eu gwefru
er mwyn cwblhau'r rowndiau.
Nodwyd yr adroddiad.