Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 6ed Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar Eitem 3 ar yr agenda Craffu a'r eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet:

 

         Eitem 9 - Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2024 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023)

 

         Eitem 10b Cynnig i brydlesu hen safle Wilko Retail Limited sy'n cynnwys rhan o'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf o fewn y maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (Superstores Internationaol) Limited, sy'n masnachu fel The Range

 

         Eitem 11 Ildio prydles bresennol a chaniatáu cytundeb newydd am brydles, a phrydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ar ben gorllewinol glan môr Aberafan, Port Talbot.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

3.

Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd. Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar ba mor galed yr oedd y pwyllgor wedi gweithio a chyflawniadau'r pwyllgor megis cwblhau dau grŵp gorchwyl a gorffen a sesiynau craffu dwys. Gwnaeth y cadeirydd sylw hefyd ar y diwygiadau llwyddiannus i bolisi a dogfennau yr oedd y pwyllgor wedi'u sicrhau. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled a chefnogaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar ba mor dda yw'r adroddiad a'i fod yn rhoi amlinelliad ardderchog o'r gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn.

 

Nododd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a'r Strydlun Adroddiad Blynyddol 2022/2023 a atodwyd yn Atodiad A a'i gymeradwyo i'r cyngor.

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023)

 

Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd i'r Aelodau ac amlygodd ei fod mewn fformat cyflwyno newydd fel ymateb i adborth gan Aelodau. Dywedodd swyddogion y byddent yn cofnodi unrhyw adborth ac yn trosglwyddo hynny i'r tîm perfformiad corfforaethol a gynigiodd y fformat cyflwyno newydd.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o'r sesiwn hyfforddi sydd ar ddod ar y fformat DPAau newydd a'u hannog i fynd iddi gan y bydd yn helpu aelodau i ddehongli Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn well.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn credu bod y fformat newydd yn gliriach ac yn well ac yn dangos tueddiadau tymor hwy a'r cyfeiriad teithio. Teimlai'r Aelodau hefyd y byddai'n ddefnyddiol cael llinell ar graffiau sy'n dangos beth yw'r targed fel cymhorthyn gweledol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 64 o'r adroddiad yn ymwneud â'r casgliadau gwastraff a gollwyd a gofnodwyd. Roedd yr Aelodau eisiau gwybod a yw hyn hefyd yn cynnwys adroddiadau ar-lein ac adroddiadau gan Aelodau am gasgliadau nad oedd y gwasanaethau gwastraff wedi'u casglu.

 

Esboniodd swyddogion fod adroddiadau ar-lein wedi'u cofnodi ac anogwyd yr Aelodau i adrodd am faterion drwy'r ganolfan alwadau fel y byddent yn sicrhau bod adroddiadau'n cael eu cofnodi'n gywir. Nid yw swyddogion unigol yn defnyddio'r system y mae'r ganolfan gyswllt yn ei defnyddio, ac mae'n llai tebygol o gael ei gofnodi'n gywir.

 

Dywedodd yr Aelodau fod perygl na fydd y casgliadau a gollwyd yn cael eu casglu'r diwrnod hwnnw oherwydd erbyn i'r wybodaeth gael ei chofnodi, mae'n bosib y byddai'r criw casglu wedi gadael yr ardal yn barod.

 

Dywedodd swyddogion fod y cynllun gweithredu gwastraff wedi'i gymeradwyo ar gyfer y system ddata 'In-cab' felly bydd y criwiau'n cael gwybod am y casgliadau a gollwyd. Bydd y system olrhain yn golygu y bydd swyddogion yn gwybod ble mae'r criwiau, a bydd system ddata 'In-cab' yn rhoi gwybod i'r criw agosaf am y casgliad a gollwyd.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw adroddiadau o dipio anghyfreithlon a wnaed gan Aelodau wedi'u cynnwys yn DPA 17 yn ogystal ag a yw adroddiadau'n cael eu categoreiddio'n wahanol nawr gan fod nifer is yn y chwarter hwn.

Esboniodd swyddogion fod System FLARE yn cael ei defnyddio i ddogfennu popeth am dipio anghyfreithlon gan ei fod yn broses gyfreithiol. Dywedodd swyddogion hefyd fod problemau cyflwyno weithiau gyda phreswylwyr yn rhoi'r gwastraff allan ar yr wythnos anghywir.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod tipio anghyfreithlon, yn hanesyddol, wedi amrywio, ac yn ystod y cyfyngiadau symud cynyddodd tipio anghyfreithlon. Cafodd y broses gyfreithiol ar gyfer tipio anghyfreithlon ei hatal am gyfnod gan atal cyfweliadau fel rhan o'r broses orfodi. Gyda gorfodaeth bellach wedi dychwelyd, mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw cwynion am lanast sy'n cael ei adael ar ôl pan gesglir gwastraff yn cael eu cofnodi. Dywedodd swyddogion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnod Camau Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 479 KB

For the Committee to comment on and note the actions and the progress from the previous meetings.

Cofnodion:

Nododd Aelodau'r Pwyllgor y Cofnod Gweithredu.

6.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 448 KB

Cofnodion:

Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith.

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Roedd tair eitem frys, a phenderfynodd yr Aelodau graffu ar ddwy ohonynt.

 

Penderfynwyd:

 

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Eitem 10b Cynnig i brydlesu hen safle Wilko Retail Limited sy'n cynnwys rhan o'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf o fewn y maes parcio aml-lawr yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (Superstores Internationaol) Limited, sy'n masnachu fel The Range

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Eitem 11 Ildio prydles bresennol a chaniatáu cytundeb newydd am brydles, a phrydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ar ben gorllewinol glan môr Aberafan, Port Talbot.

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.