Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023)

 

Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd i'r Aelodau ac amlygodd ei fod mewn fformat cyflwyno newydd fel ymateb i adborth gan Aelodau. Dywedodd swyddogion y byddent yn cofnodi unrhyw adborth ac yn trosglwyddo hynny i'r tîm perfformiad corfforaethol a gynigiodd y fformat cyflwyno newydd.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o'r sesiwn hyfforddi sydd ar ddod ar y fformat DPAau newydd a'u hannog i fynd iddi gan y bydd yn helpu aelodau i ddehongli Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn well.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn credu bod y fformat newydd yn gliriach ac yn well ac yn dangos tueddiadau tymor hwy a'r cyfeiriad teithio. Teimlai'r Aelodau hefyd y byddai'n ddefnyddiol cael llinell ar graffiau sy'n dangos beth yw'r targed fel cymhorthyn gweledol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 64 o'r adroddiad yn ymwneud â'r casgliadau gwastraff a gollwyd a gofnodwyd. Roedd yr Aelodau eisiau gwybod a yw hyn hefyd yn cynnwys adroddiadau ar-lein ac adroddiadau gan Aelodau am gasgliadau nad oedd y gwasanaethau gwastraff wedi'u casglu.

 

Esboniodd swyddogion fod adroddiadau ar-lein wedi'u cofnodi ac anogwyd yr Aelodau i adrodd am faterion drwy'r ganolfan alwadau fel y byddent yn sicrhau bod adroddiadau'n cael eu cofnodi'n gywir. Nid yw swyddogion unigol yn defnyddio'r system y mae'r ganolfan gyswllt yn ei defnyddio, ac mae'n llai tebygol o gael ei gofnodi'n gywir.

 

Dywedodd yr Aelodau fod perygl na fydd y casgliadau a gollwyd yn cael eu casglu'r diwrnod hwnnw oherwydd erbyn i'r wybodaeth gael ei chofnodi, mae'n bosib y byddai'r criw casglu wedi gadael yr ardal yn barod.

 

Dywedodd swyddogion fod y cynllun gweithredu gwastraff wedi'i gymeradwyo ar gyfer y system ddata 'In-cab' felly bydd y criwiau'n cael gwybod am y casgliadau a gollwyd. Bydd y system olrhain yn golygu y bydd swyddogion yn gwybod ble mae'r criwiau, a bydd system ddata 'In-cab' yn rhoi gwybod i'r criw agosaf am y casgliad a gollwyd.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw adroddiadau o dipio anghyfreithlon a wnaed gan Aelodau wedi'u cynnwys yn DPA 17 yn ogystal ag a yw adroddiadau'n cael eu categoreiddio'n wahanol nawr gan fod nifer is yn y chwarter hwn.

Esboniodd swyddogion fod System FLARE yn cael ei defnyddio i ddogfennu popeth am dipio anghyfreithlon gan ei fod yn broses gyfreithiol. Dywedodd swyddogion hefyd fod problemau cyflwyno weithiau gyda phreswylwyr yn rhoi'r gwastraff allan ar yr wythnos anghywir.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod tipio anghyfreithlon, yn hanesyddol, wedi amrywio, ac yn ystod y cyfyngiadau symud cynyddodd tipio anghyfreithlon. Cafodd y broses gyfreithiol ar gyfer tipio anghyfreithlon ei hatal am gyfnod gan atal cyfweliadau fel rhan o'r broses orfodi. Gyda gorfodaeth bellach wedi dychwelyd, mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw cwynion am lanast sy'n cael ei adael ar ôl pan gesglir gwastraff yn cael eu cofnodi. Dywedodd swyddogion fod y system gwasanaethau cwsmeriaid yn nodi popeth.

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu bod codi'r materion drwy'r ganolfan alwadau neu ar-lein yn achosi oedi cyn i faterion gael eu datrys ac roeddent am wirio a fydd y system 'In-cab' yn cael y diweddariadau o hysbysu trwy'r gwasanaethau cwsmeriaid.

 

Cadarnhaodd swyddogion y bydd, unwaith y bydd y system fewnol yn ei lle. Mae'r system 'gwasanaeth yn gyntaf' hefyd yn cael ei hadolygu er mwyn cyflwyno gwelliannau, yn ogystal ag edrych ar yr hyn y mae'n ei gasglu fel ei bod yn dal popeth.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn tueddu i siarad â swyddogion yn uniongyrchol gan fod hyn yn tueddu i olygu bod camau'n cael eu cymryd yn gyflymach. Roedd yr Aelodau am wirio y byddai'r system In-cab newydd yn sicrhau y byddai hyn yn golygu ymatebion cyflym i ddigwyddiadau.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod data o'r holl rowndiau wedi'u lanlwytho i i'r System 'Gwasanaeth yn Gyntaf' a bydd Swyddogion yn gallu dadansoddi cwynion yn erbyn rowndiau unigol yn y dyfodol, er na fydd hyn ar gael am ychydig fisoedd.

 

Nodwyd yr adroddiad.