Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Cliona May E-bost: c.may1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd ymddiheuriad oddi
wrth y Cynghorydd Shelia Penry. Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu
wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet: - Eitem 6: Grant Eiddo Masnachol: Canolfan Busnes Stryd y Dŵr, Port
Talbot - Eitem 7: Grant Eiddo Masnachol: Unedau 1 a 2 Adeiladau Masnachol, Heol
Talbot, Port Talbot - Eitem 8: Grant Eiddo Masnachol: 20 Heol y Frenhines, Castell-nedd - Eitem 10: Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd CBS Castell-Nedd Port Talbot
ar gyfer Datblygiadau Preswyl a Masnachol |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Stephanie Lynch gysylltiad
ag Eitem 6 a restrir ar agenda Bwrdd y Cabinet. Eglurodd ei bod yn gweithio yng
Nghanolfan Busnes Stryd y Dŵr ym Mhort Talbot, ond nid oedd yn ymwneud â'r
grant ac nid oedd yn effeithio arni. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Eitem 6: Grant Eiddo Masnachol: Canolfan Busnes
Stryd y Dŵr, Port Talbot Eitem 7: Grant Eiddo Masnachol: Unedau 1 a 2
Adeilad Masnachol, Heol Talbot, Port Talbot Eitem 8: Grant Eiddo Masnachol: 20 Heol y
Frenhines, Castell-nedd Esboniodd y Cadeirydd fod yr aelodau wedi codi
ambell gwestiwn o ran y grantiau eiddo masnachol, a chynigiodd ateb y
cwestiynau hyn ar yr un pryd. Holodd yr aelodau a fyddai'r grant ar gael ar gyfer
gwaith a oedd eisoes wedi'i wneud a'i gwblhau. Cadarnhaodd swyddogion fod y
grant fel arfer yn cael ei dalu ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, gan fod angen
i syrfëwr meintiau ei archwilio a’i gymeradwyo. Cadarnhawyd, yn benodol o ran
Eitem 7, Unedau 1 a 2 Commercial Buildings, Talbot Road, nad oedd y deiliaid
wedi derbyn llythyr i gadarnhau'r grant, gan nad oedd wedi'i gymeradwyo gan
aelodau eto. Cytunodd y swyddogion i gadarnhau gyda'r Cynghorydd
R. Davies a allai elusennau cofrestredig wneud cais am 100% o arian grant ar
gyfer eiddo masnachol ai peidio. Cadarnhawyd i'r Pwyllgor nad oedd yn rhaid i
ymgeiswyr ddefnyddio contractwyr a gymeradwywyd gan y cyngor ond roedd yn rhaid
iddynt wahodd cynigion am dendr gan dri chontractwr a byddai'r syrfëwr meintiau
annibynnol wedyn yn gwirio'r costau. Eglurwyd mai menter gan Lywodraeth Cymru o dan y
rhaglen Trawsnewid Trefi oedd y Grant Creu Lleoedd a nodwyd yn yr adroddiad, a
byddai'r tîm adfywio'n ymdrin â hyn. Holodd aelodau'r Pwyllgor ynghylch y cynnig grant
arfaethedig o £47,966.08 ar gyfer 20 Heol y Frenhines, Castell-nedd, gan ei fod
yn ymddangos yn gostus ar gyfer to newydd. Cadarnhawyd bod cost y grant i'w
weld yn uchel iawn gan fod angen ailosod holl adeiladwaith y to, yn hytrach na
gorchuddion y to'n unig; roedd y grant yn cynnwys y gwaith i dynnu'r to a'r
adeiladwaith presennol ac ailosod y cyfan. Gofynnodd y Pwyllgor i bob aelod o'r cyngor gael
rhestr o'r holl grantiau a oedd yn cael eu cynnig gan y cyngor. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion gan
Fwrdd y Cabinet. Eitem 10: Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd CBS
Castell-Nedd Port Talbot ar gyfer Datblygiadau Preswyl a Masnachol Cyflwynodd y swyddogion yr adroddiad a oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd newydd ar
gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Eglurwyd bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
wedi sefydlu Tasglu i gynnal adolygiad ar briffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
Roedd rhan o'r adolygiad hwnnw'n golygu safoni dyluniad a manylebau priffyrdd
mewn dogfen Safonau Cyffredin Cymru Gyfan at ddefnydd pob awdurdod lleol. Roedd
y Tasglu'n cynnwys Awdurdodau Lleol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan
gynnwys y Ffederasiwn Adeiladwyr Tai, Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru a
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Nod y canllaw dylunio oedd cyflwyno ymagwedd fwy cyson er mwyn galluogi Cytundebau Priffyrdd, megis cytundeb mabwysiadu priffyrdd adran 38 a hefyd gytundebau adran 278 ar gyfer gwaith oddi ar y safle sy'n ymwneud â datblygiadau newydd. Gallai'r rhain wedyn gael eu cwblhau'n llwyddiannus ar gyfer mabwysiadu ffyrdd sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd PDF 312 KB Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol
ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Nid oedd angen hyn. |
|
Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Nid oedd angen hyn. |