Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).
Cofnodion:
Eitem 6: Grant Eiddo Masnachol: Canolfan Busnes
Stryd y Dŵr, Port Talbot
Eitem 7: Grant Eiddo Masnachol: Unedau 1 a 2
Adeilad Masnachol, Heol Talbot, Port Talbot
Eitem 8: Grant Eiddo Masnachol: 20 Heol y
Frenhines, Castell-nedd
Esboniodd y Cadeirydd fod yr aelodau wedi codi
ambell gwestiwn o ran y grantiau eiddo masnachol, a chynigiodd ateb y
cwestiynau hyn ar yr un pryd.
Holodd yr aelodau a fyddai'r grant ar gael ar gyfer
gwaith a oedd eisoes wedi'i wneud a'i gwblhau. Cadarnhaodd swyddogion fod y
grant fel arfer yn cael ei dalu ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, gan fod angen
i syrfëwr meintiau ei archwilio a’i gymeradwyo. Cadarnhawyd, yn benodol o ran
Eitem 7, Unedau 1 a 2 Commercial Buildings, Talbot Road, nad oedd y deiliaid
wedi derbyn llythyr i gadarnhau'r grant, gan nad oedd wedi'i gymeradwyo gan
aelodau eto.
Cytunodd y swyddogion i gadarnhau gyda'r Cynghorydd
R. Davies a allai elusennau cofrestredig wneud cais am 100% o arian grant ar
gyfer eiddo masnachol ai peidio.
Cadarnhawyd i'r Pwyllgor nad oedd yn rhaid i
ymgeiswyr ddefnyddio contractwyr a gymeradwywyd gan y cyngor ond roedd yn rhaid
iddynt wahodd cynigion am dendr gan dri chontractwr a byddai'r syrfëwr meintiau
annibynnol wedyn yn gwirio'r costau.
Eglurwyd mai menter gan Lywodraeth Cymru o dan y
rhaglen Trawsnewid Trefi oedd y Grant Creu Lleoedd a nodwyd yn yr adroddiad, a
byddai'r tîm adfywio'n ymdrin â hyn.
Holodd aelodau'r Pwyllgor ynghylch y cynnig grant
arfaethedig o £47,966.08 ar gyfer 20 Heol y Frenhines, Castell-nedd, gan ei fod
yn ymddangos yn gostus ar gyfer to newydd. Cadarnhawyd bod cost y grant i'w
weld yn uchel iawn gan fod angen ailosod holl adeiladwaith y to, yn hytrach na
gorchuddion y to'n unig; roedd y grant yn cynnwys y gwaith i dynnu'r to a'r
adeiladwaith presennol ac ailosod y cyfan.
Gofynnodd y Pwyllgor i bob aelod o'r cyngor gael
rhestr o'r holl grantiau a oedd yn cael eu cynnig gan y cyngor.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion gan
Fwrdd y Cabinet.
Eitem 10: Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd CBS
Castell-Nedd Port Talbot ar gyfer Datblygiadau Preswyl a Masnachol
Cyflwynodd y swyddogion yr adroddiad a oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd newydd ar
gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Eglurwyd bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
wedi sefydlu Tasglu i gynnal adolygiad ar briffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
Roedd rhan o'r adolygiad hwnnw'n golygu safoni dyluniad a manylebau priffyrdd
mewn dogfen Safonau Cyffredin Cymru Gyfan at ddefnydd pob awdurdod lleol. Roedd
y Tasglu'n cynnwys Awdurdodau Lleol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan
gynnwys y Ffederasiwn Adeiladwyr Tai, Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru a
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Nod y canllaw dylunio oedd cyflwyno ymagwedd fwy
cyson er mwyn galluogi Cytundebau Priffyrdd, megis cytundeb mabwysiadu
priffyrdd adran 38 a hefyd gytundebau adran 278 ar gyfer gwaith oddi ar y safle
sy'n ymwneud â datblygiadau newydd. Gallai'r rhain wedyn gael eu cwblhau'n
llwyddiannus ar gyfer mabwysiadu ffyrdd sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd.
Cafwyd sêl bendith Llywodraeth Cymru ar gyfer y
canllaw dylunio a dechreuwyd ei rhoi ar waith ledled Cymru. Amlygwyd hefyd i'r
Pwyllgor fod y canllaw’n ddogfen fyw, gan fod newidiadau deddfwriaethol yn
digwydd ar hyn o bryd a chytunwyd ar ddiweddariadau i'r canllawiau teithio
llesol. Roedd y ddogfen yn cael ei llunio a'r bwriad oedd i’w hadolygu eto yn
2023, ac mae'n bosib y bydd diweddariadau pellach i'w hystyried bryd hynny.
Nodwyd mai pwrpas y ddogfen oedd ei darllen gyda'r
holl ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol eraill o ran priffyrdd. Cadarnhawyd
ymhellach fod CLlLC yn awyddus i ychwanegu'r canllawiau Teithio Llesol at y
canllaw dylunio, ac roedd y gwaith hwn yn parhau.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am gyflwyno'r
adroddiad. Nododd fod gan yr aelodau bryderon ynghylch y ffaith na fydd y
ddogfen efallai’n gwbl gyfredol bob amser, gyda'r holl ddarpariaethau
cyfreithiol a pholisi perthnasol, a'u bod am gynnig gwelliant i'r argymhellion.
PENDERFYNWYD: Bod y
Pwyllgor Craffu wedi cytuno i argymell y gwelliant isod i Fwrdd y Cabinet i'w
ystyried:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i sgrinio'r Asesiad Effaith
Integredig, argymhellwyd y bydd yr Aelodau’n cymeradwyo'r Canllaw Dylunio
Priffyrdd Newydd i'w roi ar waith yn amodol ar roi ymwadiad priodol ar wefan y
cyngor sy'n esbonio nad yw rhai darpariaethau cyfreithiol a pholisi o bosib yn
gyfredol a thynnu sylw at gydymffurfiaeth â Llwybr Newydd, PPW11 a chyfeiriad
penodol at Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol 2021 (sy’n cadarnhau ymrwymiad y
cyngor hwn i Deithio Llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy). Yn ogystal, rhaid i
ddiwygiadau i'r ddogfen yn y dyfodol gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w
hadolygu cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan CSS neu yn dilyn fersiynau
wedi'u diweddaru gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn Craffu, ac yn ogystal â'r gwelliant uchod,
cefnogwyd yr argymhellion i Fwrdd y Cabinet.