Lleoliad: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Cliona May E-bost: c.may1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gyhoeddiadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 184 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Rheolau a rheoliadau
mynwentydd Cafodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch y diwygiadau i
Reolau a Rheoliadau Mynwentydd yr awdurdod, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nododd yr aelodau
bwysigrwydd meinciau coffa i deuluoedd gan ddweud bod lle ar gael yn rhai o'r
amlosgfeydd mwy ar gyfer meinciau ychwanegol. Mewn ymateb i ymholiadau a
godwyd, eglurwyd bod ceisiadau am seddi coffa wedi'u gohirio; fodd bynnag,
roedd yr adroddiad hwn yn gofyn am ailddechrau gosod seddi coffa, ond ar sail
gymunedol. Rhoddodd y swyddog a oedd yn bresennol enghraifft sef bod 30 o
geisiadau am feinciau ym Mynwent Margam ar hyn o bryd, ac y byddai 30 o
feinciau unigol yn defnyddio llawer iawn o’r lle sydd ar gael ar gyfer beddau.
Pe bai Bwrdd y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad, roedd swyddogion yn cynnig
gosod tair mainc gymunedol, gyda deg plac coffa ar bob un ohonynt. Cadarnhawyd
y cysylltwyd â'r teuluoedd a gyflwynodd y ceisiadau i egluro y byddai'n fainc
gymunedol. Mewn ymateb i
ymholiadau'r aelodau ynghylch ym mha fynwentydd y gosodwyd y meinciau
cymunedol, eglurwyd bod meinciau wedi'u gosod lle bu rhestr aros o geisiadau am
sedd goffa. Fodd bynnag, cadarnhaodd y swyddog y gallant ystyried gosod y rhain
mewn mynwentydd eraill os oedd Aelodau Ward yn dymuno codi hyn gyda nhw. Ar ôl craffu, cafodd yr
argymhellion eu cefnogi i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet. Polisi a Ffioedd Enwi a
Rhifo Strydoedd Diweddarwyd yr aelodau
ar ddogfen bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor, gan fod swyddogion yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y taliadau priodol am wasanaethau a ddarparwyd ac
ailenwi'r strydoedd presennol ac enwi strydoedd newydd yng Nghastell-nedd Port
Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nododd yr aelodau
bwysigrwydd sicrhau bod y cyfieithiad Cymraeg o'r enwau ffyrdd yn gywir, gan y
gwnaed rhai camgymeriadau yn y gorffennol. Nodwyd hefyd fod yr wybodaeth yn yr
adroddiad, ac i aelodau, i gyd wedi bod yn Saesneg, ac y byddai'n well sicrhau
bod y cyfieithiadau Cymraeg yn yr adroddiadau lle bo hynny'n bosib. Cododd aelodau bryderon
ynghylch y diffyg ymgynghori ynglŷn â'r polisi, yn enwedig o ran peidio ag
enwi strydoedd bellach ar ôl ymadawedigion. Eglurwyd nad oedd angen cynnal
ymgynghoriad ynglŷn â'r polisi hwn, fodd bynnag, roedd y swyddogion yn
hapus i newid y polisi o ran enwi strydoedd ar ôl ymadawedigion, neu y gallent
ei drosi'n dilyn ymgynghoriad pe bai aelodau'n gofyn amdanynt. Cadarnhaodd
Aelodau'r Pwyllgor y byddai'n well ganddynt petai swyddogion yn ymgynghori ar y
polisi'n ôl-weithredol, ac i adrodd yn ôl am yr ymgynghoriad hwn wrth y
Pwyllgor Craffu. Yn dilyn craffu, cefnogwyd
yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet. Gwasanaeth Bysus
Cymorthdaledig – Estyniadau i Gontractau Hysbysodd y swyddogion
yr aelodau ar y cais i estyn y contractau bysus cymorthdaledig presennol tan 31
Mawrth 2023, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd aelodau'r Pwyllgor eu bod yn cefnogi'r argymhellion, fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon am y rhwydwaith bysus ehangach. Awgrymodd adroddiad Bwrdd y Cabinet y byddai ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
eitemau brys. |