Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).
Cofnodion:
Rheolau a rheoliadau
mynwentydd
Cafodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch y diwygiadau i
Reolau a Rheoliadau Mynwentydd yr awdurdod, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Nododd yr aelodau
bwysigrwydd meinciau coffa i deuluoedd gan ddweud bod lle ar gael yn rhai o'r
amlosgfeydd mwy ar gyfer meinciau ychwanegol. Mewn ymateb i ymholiadau a
godwyd, eglurwyd bod ceisiadau am seddi coffa wedi'u gohirio; fodd bynnag,
roedd yr adroddiad hwn yn gofyn am ailddechrau gosod seddi coffa, ond ar sail
gymunedol. Rhoddodd y swyddog a oedd yn bresennol enghraifft sef bod 30 o
geisiadau am feinciau ym Mynwent Margam ar hyn o bryd, ac y byddai 30 o
feinciau unigol yn defnyddio llawer iawn o’r lle sydd ar gael ar gyfer beddau.
Pe bai Bwrdd y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad, roedd swyddogion yn cynnig
gosod tair mainc gymunedol, gyda deg plac coffa ar bob un ohonynt. Cadarnhawyd
y cysylltwyd â'r teuluoedd a gyflwynodd y ceisiadau i egluro y byddai'n fainc
gymunedol.
Mewn ymateb i
ymholiadau'r aelodau ynghylch ym mha fynwentydd y gosodwyd y meinciau
cymunedol, eglurwyd bod meinciau wedi'u gosod lle bu rhestr aros o geisiadau am
sedd goffa. Fodd bynnag, cadarnhaodd y swyddog y gallant ystyried gosod y rhain
mewn mynwentydd eraill os oedd Aelodau Ward yn dymuno codi hyn gyda nhw.
Ar ôl craffu, cafodd yr
argymhellion eu cefnogi i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.
Polisi a Ffioedd Enwi a
Rhifo Strydoedd
Diweddarwyd yr aelodau
ar ddogfen bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor, gan fod swyddogion yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y taliadau priodol am wasanaethau a ddarparwyd ac
ailenwi'r strydoedd presennol ac enwi strydoedd newydd yng Nghastell-nedd Port
Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nododd yr aelodau
bwysigrwydd sicrhau bod y cyfieithiad Cymraeg o'r enwau ffyrdd yn gywir, gan y
gwnaed rhai camgymeriadau yn y gorffennol. Nodwyd hefyd fod yr wybodaeth yn yr
adroddiad, ac i aelodau, i gyd wedi bod yn Saesneg, ac y byddai'n well sicrhau
bod y cyfieithiadau Cymraeg yn yr adroddiadau lle bo hynny'n bosib.
Cododd aelodau bryderon
ynghylch y diffyg ymgynghori ynglŷn â'r polisi, yn enwedig o ran peidio ag
enwi strydoedd bellach ar ôl ymadawedigion. Eglurwyd nad oedd angen cynnal
ymgynghoriad ynglŷn â'r polisi hwn, fodd bynnag, roedd y swyddogion yn
hapus i newid y polisi o ran enwi strydoedd ar ôl ymadawedigion, neu y gallent
ei drosi'n dilyn ymgynghoriad pe bai aelodau'n gofyn amdanynt. Cadarnhaodd
Aelodau'r Pwyllgor y byddai'n well ganddynt petai swyddogion yn ymgynghori ar y
polisi'n ôl-weithredol, ac i adrodd yn ôl am yr ymgynghoriad hwn wrth y
Pwyllgor Craffu.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd
yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.
Gwasanaeth Bysus
Cymorthdaledig – Estyniadau i Gontractau
Hysbysodd y swyddogion
yr aelodau ar y cais i estyn y contractau bysus cymorthdaledig presennol tan 31
Mawrth 2023, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Esboniodd aelodau'r
Pwyllgor eu bod yn cefnogi'r argymhellion, fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon
am y rhwydwaith bysus ehangach. Awgrymodd adroddiad Bwrdd y Cabinet y byddai
diffyg yn y dyfodol agos, ac y byddai angen torri gwasanaethau neu y byddai
angen i'r cyngor ailddyrannu cyllid. Nodwyd pe bai'r cyngor yn cyflawni newid
moddol tuag at ddulliau teithio mwy cynaliadwy a gweithredol o fewn y
fwrdeistref, y byddai angen gwneud y rhain yn fwy fforddiadwy a hygyrch. Gofynnodd
aelodau am ddatganiad sefyllfa gan swyddogion ynglŷn â chyhoeddiad
diweddar Llywodraeth Cymru o Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: cynllunio
bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru. Mewn ymateb, cadarnhaodd y
swyddogion bod y papur wedi'i gyhoeddi ym mis Mawrth 2022, a bod yr ymatebion
i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, felly
nid oedd y canlyniadau wedi'u cyhoeddi eto. Fodd bynnag, cytunodd y swyddog y
gellid gwneud gwelliannau i'r ffordd yr oedd y gwasanaethau bysus yn cael eu
gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mynegodd rai pryderon ynghylch sut caiff
y newidiadau eu gwneud yn ymarferol a lefel y cyllid a fyddai ar gael i helpu i
fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi trafnidiaeth. Am y tro, esboniodd
y swyddogion fod yr adroddiad yn argymell estyn y contract presennol i fynd i'r
afael â'r mater ar unwaith, wrth i swyddogion ddod o hyd i arian cyfalaf o fewn
y cyngor i gynnal y gwasanaeth o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Gofynnodd yr aelodau am
eglurder pellach ynghylch y prisiau a gyflwynwyd gan y cwmnïau bysus sy'n fwy
na'r arian sydd ar gael i gefnogi'r lefel bresennol o wasanaethau, fel y nodwyd
yn adroddiad Bwrdd y Cabinet. Cadarnhaodd swyddogion y cafwyd y cynnydd o
ganlyniad i ddiffyg nawdd; yn ystod Covid-19, y cyfarwyddyd oedd i neb deithio,
a ddinistriodd y diwydiant bysus lleol. Roedd prisiau'n sylweddol uwch er mwyn
digolledu colli refeniw; roedd y contractau wedi bron â dyblu mewn pris ers y
dyfyniad, ac yn werth tua £360,000 erbyn hyn. Codwyd pryder, gan ei bod yn
debygol y byddai'r contract am bum mlynedd o fis Mawrth 2023, ac nid oedd y
nawdd na meintiau’r elw amcangyfrifedig yn hysbys. Nododd y swyddogion, o
safbwynt tendro, fod yn rhaid iddynt roi rhywfaint o sicrwydd i weithredwyr o
ran y contract, ac amlinellwyd bod hyn yn caniatáu i weithredwyr fuddsoddi yn y
gwasanaeth a'u cerbydau. Roedd cymalau terfynu o fewn y contractau y gellid eu
diwygio, felly nid oedd y swyddogion yn bryderus ynghylch tymor y contract.
Gofynnodd aelodau'r
Pwyllgor Craffu am ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon
Castell-nedd Port Talbot, gan fod llawer o bethau anhysbys o ran y Papur Gwyn,
a'r ffaith na dderbyniwyd canlyniadau'r ymgynghoriad. Gofynnwyd i'r llythyr
gynnwys esboniad o'r angen i ddeall amserlenni dangosol gweithredu'r Papur
Gwyn, gan ei fod yn allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol. Hefyd,
dylid gofyn am fanylion pellach trosglwyddo trefniadau ariannu dros dro; roedd
yr adroddiad yn nodi bod y Grant Cynnal Gwasanaeth Bysiau (BSSG) presennol ar
fin dod i ben ac nid oedd unrhyw wybodaeth am y grant nesaf ar gael ar hyn o
bryd.
Cytunodd swyddogion i
ddrafftio llythyr at Lywodraeth Cymru gydag Aelodau'r Cabinet, mewn
ymgynghoriad â'r Pwyllgor Craffu.
Yn dilyn craffu,
cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.
Adroddiad Twnnel Tai'r
Gelli
Cafodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch cyflwr y twnnel
rheilffordd segur a'i flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi cyfalaf, fel y nodwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnodd yr aelodau am
fanylion pellach ynghylch y cyfleoedd buddsoddi cyfalaf, a sut roedd hyn yn
cyd-fynd â Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf y cyngor. Cynigiwyd bod adroddiad yn cael
ei ddychwelyd i'r Pwyllgor Craffu o fewn y 12 mis nesaf gydag arfarniad
opsiynau, a oedd yn archwilio cyfleoedd buddsoddi cyfalaf posib, a oedd yn
adlewyrchu agwedd yr AEI.
Mewn ymateb i'r
Aelodau, eglurodd y swyddog fod Twnnel Tai'r Gelli bellach yn ased y cyngor,
gan mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot oedd yn berchen ar y
tir. Roedd y cyngor wedi derbyn ceisiadau ffilmio; felly, gofynnwyd i'r
adroddiad hwn gael ei gyflwyno i nodi'r materion sy'n gysylltiedig â'r ased, yn
dilyn archwiliad. Eglurwyd nad oedd ar y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf ar hyn o
bryd, gan fod materion mwy dybryd ar y rhaglen, gan nad oedd Twnnel Tai'r Gelli
ar y Rhwydwaith Teithio Llesol, na'r rhwydwaith mabwysiedig. Roedd pedwar
opsiwn wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad, ac roedd y swyddogion yn argymell
Opsiwn 2 i Fwrdd y Cabinet; roedd hyn er mwyn cadw'r ased fel yr oedd, i
alluogi'r cyngor i barhau i gynnal archwiliadau perthnasol, ar gyfer unrhyw
fuddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol a allai fod ar gael.
Cytunodd swyddogion i
ddod ag adroddiad yn ôl o fewn 12 mis sy'n amlinellu unrhyw gyfleoedd asedau a
dichonoldeb y rhain yn unol â’r y cais. Mae'n debygol y byddai'n dod o dan y
Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant newydd, felly byddai
hyn yn cael ei drafod ag ef pan fydd rhywun wedi'i benodi i'r swydd.
Cynigiodd Aelodau'r
Pwyllgor y dylid ychwanegu argymhelliad ychwanegol i'r rheini a amlinellir o
fewn adroddiad Bwrdd y Cabinet, ac eiliwyd hyn ganddynt
Cytunodd y Pwyllgor i
ychwanegu'r argymhelliad canlynol:
“Caiff astudiaeth
dichonoldeb ei gynnal ar gyfer defnydd yn y dyfodol, a chyflwynir yr opsiynau
dilynol i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun o
fewn y 12 mis nesaf.”
Yn dilyn Craffu, ac yn
ogystal â'r gwelliant uchod, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i
Fwrdd y Cabinet.
Ailddatblygu Ciosg
Arlwyo a Chyfleustra Cyhoeddus ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan
Diweddarwyd yr aelodau
ar y bwriad i ailddatblygu ciosg arlwyo a chyfleustra cyhoeddus ar ben
gorllewinol Glan Môr Aberafan, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn
breifat.
Yn dilyn craffu,
cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.