Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Rees E-bost: t.rees1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar eitemau 3a, 3b a 3c o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd y Cyng. G Rice gysylltiad personol ag Eitem 3c. Cynllun peilot mynediad i barciau a gerddi ffurfiol. Mae'n un o ymddiriedolwyr Cyfeillion Parc Llansawel. |
|
Ystyried eitemau ar Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd David Griffiths, Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth wrth aelodau ei fod yn adolygiad lefel uchel cynnar o gapasiti'r
meysydd parcio ac mae wedi cael ei gyflwyno oherwydd ymholiadau y mae'r Cyngor
yn ymdrin â nhw mewn modd strategol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Signal
Capital wedi cyflwyno cynnig i'r awdurdod ynghylch rheoli maes parcio Aml-lawr
Port Talbot. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod angen buddsoddiad cyfalaf
sylweddol gwerth o leiaf £2.5 miliwn ar y maes parcio yn y tymor byr a'r tymor
canolig ac roedd yr argymhellion yn gofyn am ganiatâd i swyddogion ddechrau
trafodaethau pellach gyda Signal Capital ynghylch rheoli'r maes parcio. Esboniodd swyddogion fod maes parcio Sgwâr Bethany, maes
parcio Stryd Rosser a Maes Parcio Ffordd Osgoi Pontardawe wedi cael eu
hystyried i gefnogi'r Cynllun Datblygu Lleol ac mae ganddynt botensial fel
safleoedd datblygu tai at ddibenion adfywio. Byddai'r meysydd parcio hyn yn
cael eu cadw nes y bydd cyfleoedd yn cael eu cyflwyno at ddibenion tai newydd
neu adfywio gyda gwaith arolygu manwl yn cael ei wneud ar y pwynt hwnnw. Nid oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiynau a oedd yn ymwneud
â maes parcio Stryd Rosser. Mewn perthynas â maes parcio Heol Milland (Castell-nedd),
gofynnodd yr aelodau a oedd y swm a dalwyd gan ffair Castell-nedd a gynhelir
adeg y Pasg ac yn yr Haf yn cael ei ystyried yn yr incwm ar gyfer y maes
parcio. Esboniodd swyddogion nad yw'r gwasanaeth parcio yn derbyn
unrhyw incwm o ffair Castell-nedd ond mae'r cyngor a National Rail yn sicrhau
bod y maes parcio ar gael i'r ffair gael ei chynnal. Mae cyfrifwyr a swyddogion
eiddo sy'n rheoli'r ffair wedi cadarnhau bod cost wirioneddol i'r awdurdod ac
roedd yr awdurdod wedi rhoi cymhorthdal i bob pwrpas y llynedd, sef cyfanswm o
£42,340. Cafodd yr aelodau eu synnu gan y gost i'r cyngor ac roeddent
yn meddwl y byddai'r cyngor yn gwneud arian o'r ffair. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod maes parcio Heol Milland
wedi'i rannu tua 50/50 gydag un rhan yn eiddo i Network Rail sy'n ei is-osod i
Trafnidiaeth Cymru fel rhan o'u portffolio rheilffyrdd. Mae'r rhan arall yn
eiddo i'r Arch Co. ac mae'r adran honno ar brydles i'r cyngor. Mae'r brydles
bron yn costio cymaint â'r incwm parcio y mae'n ei ennill a chyda chostau
cynnal a chadw ar ben hyn, mae'n arwain at golled net i'r cyfrif gweithredol
parcio. Fodd bynnag, dywedwyd wrth yr aelodau fod y cyngor bellach
yn meddiannu maes parcio Network Rail hefyd, heb gymeradwyaeth ffurfiol gan
Network Rail. Dywedodd swyddogion fod yr adran ystadau'n gweithio ar resymoli'r
brydles honno ar hyn o bryd. Esboniodd swyddogion mai'r awdurdod sy'n gyfrifol am
drwsio'r maes parcio a'r gwanwyn diwethaf, bu'n rhaid i'r pennaeth gwasanaeth
gael £75,000 o'r gyllideb gyfalaf i atgyweirio wal gynnal er mwyn i'r ffair
gael ei chynnal ym mis Medi. Gofynnodd yr is-gadeirydd a oedd swyddogion yn gwybod faint fyddai'r Arch Co. yn cynyddu'r rhent. Esboniodd swyddogion y disgwylir i'r brydles yn Heol Milland ddod i ben ar ddiwedd mis Rhagfyr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Gwella perfformiad ailgylchu a chyflawni'r gyllideb Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd
Mike Roberts, Pennaeth Gofal Strydoedd, gyflwyniad i'r adroddiad i'r aelodau. Teimlai
aelod fod casgliadau biniau bob tair wythnos yn rhywbeth nad oedd unrhyw un
heblaw am y swyddogion yn ei gefnogi a dywedodd fod casgliadau bob tair wythnos
yn parhau i ailymddangos er gwaethaf y sicrwydd gan y Cabinet a'r arweinydd na
fyddai'r cyngor yn symud i gasgliadau bob tair wythnos. Roedd
yr aelod yn teimlo mai barn y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad oedd na ddylai'r
cyngor gael casgliadau bob tair wythnos. Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith
bod awdurdodau sydd â chasgliadau gwastraff pythefnosol yn cyrraedd y targed
ailgylchu, sef 70%. Dywedodd
aelod fod gan y Cabinet a'r arweinyddiaeth yr awdurdod i gael gwared ar yr
opsiwn o gasgliadau bob 3 wythnos. Dywedodd yr aelod hefyd fod ei blaid wedi
cael ei chyhuddo o beri gofid a dweud celwydd ynghylch y casgliadau bob 3
wythnos. Teimlai'r
aelodau na fyddai casgliadau bob 3 wythnos yn boblogaidd iawn os caiff y
penderfyniad ei gymeradwyo. Roedd
aelodau'n teimlo bod eu biniau'n yn llawn ar ôl pythefnos hyd yn oed pan fydd
pobl yn ailgylchu popeth, ac roeddent yn teimlo na fyddai pobl yn gallu ymdopi
pe bai'n newid i gasgliadau bob 3 wythnos. Dywedodd
yr Aelodau eu bod yn deall y cyfyngiadau ariannol a'r targedau ailgylchu, ond
roeddent yn teimlo y byddai'n amhoblogaidd iawn, yn enwedig yn Aberafan, sy'n
ardal drefol lle mae aelodau'n ceisio gwneud gwelliannau'n araf a phe bai'n
newid i gasgliadau bob tair wythnos, byddai pobl yn mynd yn erbyn hyn ac yn
atal cynnydd. Dywedodd
Aelod y Cabinet dros Strydlun, y Cynghorydd Scott Jones, ei fod yn
gwerthfawrogi rhai o'r sylwadau a wnaed a nododd ei fod yn fater dadleuol iawn
ymhlith preswylwyr a chytunodd y byddai'n ddewis amhoblogaidd. Dywedodd
Aelod y Cabinet ei fod am osgoi trafod unrhyw faterion rhagbenderfyniad gan ei
fod yn ymwybodol iawn y byddai'n rhan o'r broses hon o wneud penderfyniadau
maes o law, ond dywedodd ei fod yn gyfforddus wrth gofnodi ac awgrymu bod
ganddo bryderon gyda'r cynigion hyn gerbron yr aelodau. Dywedodd
Aelod y Cabinet ei fod wedi ystyried ymatebion yr arolwg a'i fod wedi cymryd
llawer o ddiddordeb mewn llawer o'r sylwadau a wnaed. Dywedodd nad oes unrhyw
beth yn newid o ran y ffaith bod y cynnig yn rhan o'r arbedion cyllideb
adrannol gwerth 5% y mae angen eu bodloni a bod yr awdurdod yn edrych ar yr hyn
sy'n cyfateb i arbediad angenrheidiol o £739,000. Dywedodd
Aelod y Cabinet fod angen i'r pwyllgor craffu a'r Cabinet fod yn ystyriol o'r
ffaith os yw'r cynnig yn cael ei dynnu'n ôl, mae'n bosib y bydd angen opsiwn
arall i lenwi'r bwlch o £739,000 mewn arbedion. Teimlai'r
cadeirydd fod y pwyllgor yn gwerthfawrogi bod Aelod y Cabinet yn onest am ei
farn gychwynnol ar y cynnig hwn fel rhan o'r drafodaeth. Gofynnwyd i'r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd y Cyngor, ddatrys dryswch ynghylch sylwad gan aelod a oedd yn ymwneud â gwybodaeth anghywir ynghylch y casgliadau biniau bob 3 ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cynllun peilot ynghylch newid mynediad i barciau a gerddi ffurfiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth swyddogion hysbysu'r aelodau o gamgymeriad yn adran
effeithiau ariannol yr adroddiad, ac esboniwyd bod y gost sy'n gysylltiedig â
gosod bolardiau i atal mynediad cerbydau yn £2076 nid £1000. Esboniodd swyddogion y bydd ymgynghoriad â'r Bwrdd Prosiect
Diogelwch Cymunedol yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod prawf os caiff y peilot
ei gefnogi gan yr aelodau, i ganfod a oes unrhyw effeithiau anhrefn yn
gysylltiedig â'r cynllun peilot. Esboniodd swyddogion y bydd ymgynghoriad â rhanddeiliaid
parciau a gerddi megis Cyfeillion Parc Jersey yn ystod y dwy i dair wythnos cyn
dechrau'r cyfnod prawf ym mis Rhagfyr. Roedd yr aelodau'n poeni bod yr adroddiad yn dweud y gallai
fod yn rhaid i swyddogion ymgysylltu â phartneriaid ynghylch gweithwyr rhyw a
chamddefnyddio cyffuriau. Roeddent yn teimlo bod hyn yn rhoi'r argraff bod y
cyngor yn rhagweld y gallai'r problemau godi yn y dyfodol os yw'r parciau'n
cael eu gadael ar agor gyda goleuadau cyfyngedig a gallent ddod yn lleoedd lle
bydd pobl yn ymgynnull yn hwyr yn y nos. Dywedodd swyddogion fod un unigolyn yn ymgymryd â'r dasg hon
bob dydd, ond oherwydd diffyg adnoddau o ganlyniad i salwch, mae yna gyfnod
prawf answyddogol eisoes wedi bod ar waith o ran peidio â chau'r parciau.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod swyddogion yn trefnu goramser lle bo hynny'n
bosib ond nid yw hyn bob amser yn bosib. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau nad oes unrhyw wybodaeth wedi
cyrraedd am waith rhyw drwy eu gwaith gyda'r heddlu a'r Swyddogion Cymorth
Cymunedol lleol. Mae swyddogion yn teimlo'u bod wedi bod yn canolbwyntio'n fwy
ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gan y cyngor ddyletswydd o ran trosedd ac
anhrefn a'r risg sy'n gysylltiedig â hynny a dyna pam eu bod wedi ei nodi yn yr
adroddiad. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r tîm Diogelwch
Cymunedol i nodi problemau posib a allai ddod i'r amlwg, ond nid yw swyddogion
yn rhagweld y bydd y rhain yn dod yn broblemau. Dywedodd swyddogion y byddant yn siarad â'r Tîm Diogelwch
Cymunedol ac maent yn bwriadu gwneud cyflwyniad yn ystod cyfarfod y bwrdd
prosiect diogelwch cymunedol ar 5 Rhagfyr i ddweud wrth yr asiantaethau allanol
eraill am fanylion y cynllun peilot. Esboniodd swyddogion hefyd tua diwedd y
cyfnod prawf fydd cyfarfod bwrdd y prosiect ar 11 Mawrth, ac maent am fod yn
bresennol i ofyn am adborth ac i nodi a oes unrhyw effeithiau sy'n gysylltiedig
â'r newidiadau. Mae swyddogion hefyd yn dymuno rhoi cyfrifoldeb ar yr
asiantaethau allanol eraill i feddwl am unrhyw fesurau y gallent eu cyflwyno i
liniaru unrhyw effeithiau. Bydd swyddogion wedyn yn dod â hynny yn ôl mewn
adroddiad pellach i'r aelodau ei ystyried. Gofynnodd yr Aelodau am gost gosod y bolardiau a gofynnwyd a oes gan swyddogion unrhyw syniad o faint o folardiau y bydd y cyllid hwn yn talu amdanynt a faint y gellid eu gosod ym mhob lleoliad? Rhoddodd yr aelodau enghraifft o barc Tollgate lle mae ganddynt 3 giât sy'n cael eu cadw ar agor a allai ddarparu mynediad i gerbydau a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Nid oedd unrhyw eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i'w hystyried. Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith. |
|
Monitro Perfformiad Nid oedd unrhyw eitemau monitro perfformiad i'w hystyried Cofnodion: Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried. |
|
Dewis eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol • Blaenraglen
Waith y Cabinet • Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |