Cofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 8fed Mehefin, 2023 2.00 pm

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 ar agenda Bwrdd y Cabinet a 9A a 10A ar agenda atodol Bwrdd y Cabinet.

 

Gan gyfeirio at agenda atodol Bwrdd y Cabinet, dywedodd y Cadeirydd fod gwall yr y pennawd; Dylai Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Gwasanaeth Cyfiawnder ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023 ddarllen Dadansoddiad Graddio Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar, dosbarthwyd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid hefyd er hwylustod cyfeirio.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai eitem frys ar Ofalwyr Di-dâl i'w hystyried.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 383 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Diweddariad ar Tai Tarian

 

Rhoddodd Prif Weithredwr Tai Tarian drosolwg i'r aelodau o'r gwaith a wnaed yn 2022-2023 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae Tai Tarian yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod i benderfynu ar ofynion tai a'r angen mwyaf.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod Tai Tarian wedi cael eu marcio'n gadarnhaol ym mhob un o'r 45 o elfennau sydd ar gael yng Ngwobr Aur Considerate Constructor; Dyma'r tro cyntaf i'r wobr hon gael ei chyflawni yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Holodd yr Aelodau am y berthynas rhwng Cynghorwyr a Tai Tarian. Nid oes unrhyw gynghorwyr sy'n aelodau o'r Bwrdd ar hyn o bryd ond mae perthynas agos gydag aelodau. Pan fyddant yn gweithio'n lleol, gwahoddir aelodau i ymweliadau safle.

 

Nododd yr Aelodau fod yr awdurdod yn datblygu Strategaeth Tai newydd a holwyd sut yr oedd Tai Tarian yn gweld y berthynas strategol yn datblygu rhwng y gymdeithas a'r awdurdod lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? Ymatebodd Prif Weithredwr Tai Tarian fod perthynas gref wedi bod erioed ac mae'r gallu i ddatblygu o fewn y fwrdeistref wedi tyfu. Mae'r berthynas wedi datblygu i fod yn un gref iawn. Mae Tai Tarian hefyd yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau tai eraill a'r gobaith yw y bydd perthynas agored gyda'r awdurdod lleol, lle byddai ceisiadau yn cael eu hateb yn brydlon.

 

Diolchodd yr Aelodau i Tai Tarian am eu cefnogaeth a nodwyd y manteision i fasnachwyr lleol sy'n chwilio am waith.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

Gwiriad Iechyd Bach Rheoli Risg y Gwasanaethau Plant

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i'w ystyried.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth yw'r heriau a'r gwendidau a pha gamau sydd ar waith i gael gwared ar unrhyw wendidau a ble ydynt yn cael eu rhoi ar waith. A oes monitro ar waith a beth yn union yw rôl aelod y cabinet ac a rhoddwyd unrhyw hyfforddiant? Beth sy'n gweithio'n dda a sut?

Cadarnhaodd swyddogion eu bod wrth eu bodd â chanlyniad yr arolygiad ond cydnabuwyd bod lle i wella bob amser. Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant yn cael ei hysbysu am bob mater. Cyflwynwyd seminarau ar Ddiogelu ac Amddifadu o Ryddid i aelodau'n ddiweddar. Mae llawer o heriau, ond  mae'r gwasanaeth yn ymdrechu i wella'n barhaus. Yr her allweddol yw ymateb yr awdurdodau i niwed y tu allan i'r cartref teuluol ac roedd swyddogion yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud o hyd ar draws y bartneriaeth.

 

Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith yr ystyrir bod y sefyllfa cadw staff yn dda, ond nid yw hyn bob amser wedi bod yn wir a gofynnwyd beth sydd wedi newid?

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yr awdurdod yn parhau i fod dan bwysau oherwydd prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol cymwys ond ei fod wedi symud i sefyllfa lle'r oedd cynnydd bach yn y lefelau staffio yn ystod COVID-19. Nododd swyddogion fod cefnogaeth y cyngor i gynnig taliad atodol ar sail y farchnad wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2023/2024 pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

Bydd aelodau'n derbyn gwahoddiad i sesiwn flaenraglen waith  yn fuan.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylid cynnwys yr eitem ganlynol ar y Flaenraglen Waith:

 

Grŵp Tasg a Gorffen Bondiau Effaith Arbennig

 

Cynigiodd y Cadeirydd Grŵp Tasg a Gorffen i drafod Bondiau Effaith Arbennig. Rhoddodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd gyngor y dylid trefnu cyfarfod ar wahân i ystyried y grŵp Tasg a Gorffen ac i gytuno arno, ac i gytuno ar gwmpas a chylch gorchwyl, gellir gwahodd swyddogion perthnasol i roi cyngor.

 

Cytunwyd y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu cyfarfod i aelodau fynychu cyfarfod i ystyried y grŵp tasg a gorffen ac i gytuno arno, ynghyd â chwmpas y grŵp tasg a gorffen a'r cylch gorchwyl. Hefyd, byddant yn gwahodd y swyddogion perthnasol fel y gallant roi cyngor ar y pynciau.

 

6.

Eitemau brys

Cofnodion:

Gofalwyr Di-dâl

 

Amlinellodd swyddogion gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd er gwybodaeth. Holodd yr Aelodau pam nad yw anghenion gofalwyr yn cael eu diwallu, pam nad oes ganddynt wybodaeth ar amser a pham nad ydynt yn ymwybodol o asesiad? Roedd swyddogion yn cydnabod nad yw'r prosesau presennol sydd ar waith mor gadarn ag y mae angen iddynt fod, mae llawer o'r gwaith yn digwydd ond nid yw'r data'n cael ei nodi.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr na ddylai aelodau fod o dan unrhyw gamargraff, mae'r awdurdod mewn sefyllfa dan bwysau o ran y gwasanaethau a ddarparwn i ofalwyr a mynegodd ei farn nad ydym eto wedi adfer o'r problemau a brofwyd yn ystod y pandemig. Mae gwaith sylweddol i'w wneud yn y maes hwn ond rhoddwyd llongyfarchiadau i'r swyddog am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Awgrymwyd y dylai adroddiad ddod yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ymhen chwe mis.

 

O ystyried y twf disgwyliedig dros y saith mlynedd nesaf, gofynnodd yr aelodau pa fesurau lliniaru sy'n cael eu rhoi ar waith, mae'n rhaid aros tair wythnos am frysbennu ar hyn o bryd a bydd hyn yn cynyddu. Ymatebodd y Swyddog  o ran y prosiect sy'n cael ei wneud gan y Swyddog Datblygu Gofalwyr, rhan o'u rôl fydd ymgymryd â brysbennu a gweithio gyda'r gwasanaeth gofalwyr i leihau'r rhestr aros a'i monitro. Gan mai swydd brawf yw hon, bydd gwaith yn cael ei fonitro a bydd adborth yn cael ei gasglu gan ofalwyr.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

Nid oedd angen hyn.

8.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau preifat.