Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 25ain Ionawr, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8, 9, 10 a 15 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023 a 4 Ionawr 2024 fel cofnodion gwir a chywir.

 

4.

Prosesau Derbyn i'r Ysbyty a Rhyddhau o'r Ysbyty pdf eicon PDF 480 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion grynodeb byr o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau pa fewnbwn sydd gan gleifion i'r broses Rhyddhau i Adfer ac Asesu.

 

Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod cleifion sy'n ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau yn cael eu rhoi ar lwybr a chynhelir asesiad gwaith cymdeithasol gyda'r unigolyn a'i deulu. Nodwyd ei bod yn fwy buddiol asesu anghenion cleifion o'u cartref eu hunain yn hytrach nag yn yr ysbyty.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2022-23

 

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod yr adroddiad blynyddol yn gysylltiedig â 2022/2023 ac nad oedd yn adlewyrchiad o'r sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 45 yr adroddiad a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch targedau profi mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod profion yn cael eu cynnal lle'r oedd risg uwch o firysau a gludir yn y gwaed fel hepatitis a HIV. Mae'r targed yn ymwneud â chynnig profion gwaed i bobl sydd mewn cysylltiad â'r gwasanaethau, i brofi eu hiechyd ehangach.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 35 yr adroddiad a gofynnwyd a oedd diweddariad o ran cynnydd mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau mai un o'r themâu allweddol yn y strategaeth bresennol yw darparu rhagor o adnoddau a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Mae arian grant wedi galluogi tri Hyrwyddwr Gofalwyr i weithio o fewn y rhwydwaith ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i ofalwyr di-dâl a'u cefnogi. Nodwyd efallai bydd y ffigur a ddyfynnir o 20k o ofalwyr di-dâl yn uwch mewn gwirionedd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Mewn perthynas â'r tair eitem agenda ganlynol, dywedodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth yr aelodau eu bod wedi adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn yn flaenorol ynghylch manylion y bwriad strategol ar gyfer y pedair i bum mlynedd nesaf. Mae'r cynlluniau ar gamau datblygu gwahanol. Bu'n rhaid adrodd ar rai agweddau o'r adroddiadau'n breifat oherwydd gwybodaeth sensitif am y farchnad.

 

 

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 80 yr adroddiad a dywedodd y byddai gweithio'n strategol gyda landlordiaid preifat yn heriol yn yr hinsawdd bresennol a gofynnwyd beth yw'r strategaeth wrth symud ymlaen mewn perthynas â gweithio gyda landlordiaid preifat?

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau y byddai fforwm Landlordiaid y Sector Rhentu Preifat yn cael ei gynnal yn fuan. Bydd y fforwm hwn yn ein helpu i ddeall yr heriau y mae landlordiaid preifat yn eu hwynebu, codi ymwybyddiaeth o gynlluniau a all eu cefnogi i ddarparu rhent fforddiadwy a cheisio ysgogi mwy o dai fforddiadwy yn y sector preifat.

Mynegodd yr Aelodau bryder mewn perthynas ag anawsterau a gafwyd rhwng datblygwyr a cheisiadau cynllunio a nodwyd bod angen trafodaethau pellach rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a chynllunio. Mae angen edrych yn fanwl ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn perthynas â chyd-berchnogaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau mai diben y weithred hon oedd sicrhau bod mwy o waith ar y cyd. Mae angen ystyried cymunedau'n gyffredinol a sut y gall y Cyngor sicrhau bod datblygiadau a chamau gweithredu'n cynnig y manteision mwyaf.

 

Roedd yr Aelodau'n falch bod Teithio Llesol wedi'i gynnwys yn y strategaeth a dywedwyd bod rhai trigolion yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cofnod Gweithredu’r Pwyllgor pdf eicon PDF 486 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor

 

7.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 429 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

10.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

 

Cofnodion:

Achos busnes dros sefydlu Gwasanaeth Lleoli Oedolion mewn Teuluoedd mewnol

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda preifat.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.