Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2022-23

 

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod yr adroddiad blynyddol yn gysylltiedig â 2022/2023 ac nad oedd yn adlewyrchiad o'r sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 45 yr adroddiad a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch targedau profi mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod profion yn cael eu cynnal lle'r oedd risg uwch o firysau a gludir yn y gwaed fel hepatitis a HIV. Mae'r targed yn ymwneud â chynnig profion gwaed i bobl sydd mewn cysylltiad â'r gwasanaethau, i brofi eu hiechyd ehangach.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 35 yr adroddiad a gofynnwyd a oedd diweddariad o ran cynnydd mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau mai un o'r themâu allweddol yn y strategaeth bresennol yw darparu rhagor o adnoddau a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Mae arian grant wedi galluogi tri Hyrwyddwr Gofalwyr i weithio o fewn y rhwydwaith ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i ofalwyr di-dâl a'u cefnogi. Nodwyd efallai bydd y ffigur a ddyfynnir o 20k o ofalwyr di-dâl yn uwch mewn gwirionedd.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Mewn perthynas â'r tair eitem agenda ganlynol, dywedodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth yr aelodau eu bod wedi adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn yn flaenorol ynghylch manylion y bwriad strategol ar gyfer y pedair i bum mlynedd nesaf. Mae'r cynlluniau ar gamau datblygu gwahanol. Bu'n rhaid adrodd ar rai agweddau o'r adroddiadau'n breifat oherwydd gwybodaeth sensitif am y farchnad.

 

 

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 80 yr adroddiad a dywedodd y byddai gweithio'n strategol gyda landlordiaid preifat yn heriol yn yr hinsawdd bresennol a gofynnwyd beth yw'r strategaeth wrth symud ymlaen mewn perthynas â gweithio gyda landlordiaid preifat?

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau y byddai fforwm Landlordiaid y Sector Rhentu Preifat yn cael ei gynnal yn fuan. Bydd y fforwm hwn yn ein helpu i ddeall yr heriau y mae landlordiaid preifat yn eu hwynebu, codi ymwybyddiaeth o gynlluniau a all eu cefnogi i ddarparu rhent fforddiadwy a cheisio ysgogi mwy o dai fforddiadwy yn y sector preifat.

Mynegodd yr Aelodau bryder mewn perthynas ag anawsterau a gafwyd rhwng datblygwyr a cheisiadau cynllunio a nodwyd bod angen trafodaethau pellach rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a chynllunio. Mae angen edrych yn fanwl ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn perthynas â chyd-berchnogaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau mai diben y weithred hon oedd sicrhau bod mwy o waith ar y cyd. Mae angen ystyried cymunedau'n gyffredinol a sut y gall y Cyngor sicrhau bod datblygiadau a chamau gweithredu'n cynnig y manteision mwyaf.

 

Roedd yr Aelodau'n falch bod Teithio Llesol wedi'i gynnwys yn y strategaeth a dywedwyd bod rhai trigolion yn betrusgar ynghylch symud i gymunedau'r cymoedd oherwydd problemau trafnidiaeth.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynghylch natur uchelgeisiol y cynllun a gofynnwyd faint o hyder oedd ganddynt y gellid cyflawni'r cynllun yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau fod costau digartrefedd yn codi ac roedd swm sylweddol o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar lety gwely a brecwast. Mae achos busnes y tu ôl i'r cynllun. Yn y tymor hir bydd yn fwy cost effeithiol i fuddsoddi yn y cynlluniau gan y bydd costau'n parhau i gynyddu'n sylweddol, os na wneir buddsoddiad. Nodwyd bod y grant cymorth tai wedi cael ei leihau.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol i'r aelodau craffu am eu cwestiynau perthnasol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am seminar arfaethedig a fyddai'n helpu i dynnu sylw at rai o'r pryderon a godwyd ynghylch ymgysylltu â datblygwyr a diwallu anghenion ar draws cymunedau gwahanol.

 

Dywedodd yr Aelodau fod y cyhoeddiad diweddar i gau Tata Steel wedi effeithio ar drigolion sydd wedi prynu gan ddatblygwyr preifat.

 

Diolchodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i'r aelodau am y cwestiwn a oedd yn ymwneud â fforddiadwyedd, a chydnabuwyd, er ei fod yn fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor, roedd hyn yn angenrheidiol yn y tymor hir. Gofynnodd y Cyfarwyddwr i'r pwyllgor ystyried, o ystyried y costau dan sylw, sut y byddent yn dymuno goruchwylio a chael sicrwydd bod hyn yn cael ei roi ar waith yn effeithiol ac mewn modd amserol wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Cytunodd Is-gadeirydd y pwyllgor y byddai diweddariadau o ran cynnydd yn briodol a gofynnodd a oedd modd darparu'r diweddariadau hyn gyda diweddariadau ar ddangosyddion perfformiad allweddol gan Bennaeth y Gwasanaeth.

 

Cododd yr aelodau bryderon a oedd yn ymwneud ag eiddo rhent preifat sy'n is na'r safon a holwyd a oedd y cynllun yn mynd i'r afael â sut y gallai'r Cyngor orfodi landlordiaid i wella ansawdd eiddo penodol.

 

Cytunodd y Pennaeth Tai a Chymunedau gyda phwysigrwydd gwella safonau ond dywedodd nad oedd gorfodi aelodau wedi'i gynnwys yn y cynllun gan fod hyn yn gyfrifoldeb statudol ar Gynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd. Cytunodd yr Aelodau i drafod hyn gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot 2023 - 2026

 

Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc wrth aelodau fod y cynllun wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â theuluoedd, plant, y gymuned a rhanddeiliaid dros gyfnod o 10 mlynedd.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 163 a gofynnwyd pa gyfryngau a fforymau a ddefnyddiwyd i hyrwyddo'r ymgynghoriad. Oherwydd y nifer isel o ymatebion a dderbyniwyd, holodd yr aelodau a oedd modd iddynt wneud unrhyw beth yn wahanol.

 

Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc fod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal dros y rhyngrwyd a chynhaliwyd trafodaethau ynghylch ehangu hyn yn y dyfodol i gynnwys meysydd eraill.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod swyddog dynodedig sy'n gweithio'n barhaus gyda phobl ifanc ynghylch ymgynghori a chyfranogi.

 

Ailadroddodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i Aelodau'r Pwyllgor Craffu fod prif bileri'r strategaeth yn ymwneud â mynd i'r afael â digonolrwydd lleoliadau. Mae plant wedi cael eu rhoi mewn gofal preswyl oherwydd nad yw'r gofal maeth cywir ar gael. Mae'n bwysig bod digonolrwydd lleoliadau'n gytbwys, gan greu swyddi gofalwyr maeth proffesiynol gyda thaliad cydnabyddiaeth priodol. Nodwyd bod yr ymagwedd hon wedi cael ei rhoi ar brawf o'r blaen ond mae'r amodau presennol yn fwy ffafriol.

 

Soniodd yr Aelodau am y Lansiad Gofal Maeth sydd ar y gweill yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd ar 19 Chwefror a gofynnwyd beth arall y gellid ei wneud i hyrwyddo'r digwyddiad pwysig hwn.

 

Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn agored i glywed awgrymiadau'r Aelodau ynghylch sut y gellid hyrwyddo'r digwyddiad yn ehangach. Cadarnhawyd bod Gweithgor wedi'i sefydlu i hyrwyddo'r digwyddiad gyda chymorth Swyddog Marchnata a chefnogaeth ehangach y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol. Caiff gwybodaeth am y digwyddiad ei dosbarthu i'w lledaenu ymhellach o fewn Wardiau.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-2026#

 

Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion drosolwg i'r aelodau o rai o'r rhaglenni gwaith uchelgeisiol o fewn y strategaeth. Bydd adroddiadau manwl o holl linynnau'r strategaeth yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor hwn dros y misoedd nesaf.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.