Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 16eg Tachwedd, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Declarations of Interest

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Adroddiad Diweddaru Cynnydd Atal Gwasanaethau Oedolion, Ymyrryd yn Gynnar a Gwasanaethau Cymunedol pdf eicon PDF 838 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymorth Cymunedol ac Ymyrryd yn Gynnar drosolwg o'r gwaith a wnaed gan y tîm fel y nodir yn yr adroddiad. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm a dywedodd, yn ogystal â'r adborth cadarnhaol, y byddai'n ddefnyddiol hefyd i dderbyn enghreifftiau o anawsterau a wynebir gan y gwasanaeth.

 

Nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

5.

Pre-Decision Scrutiny

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8, 10, 11, 14, 15 ac 16 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

Caniatâd i ddarparu gwybodaeth am y 'Rhaglen Trawsnewid - Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair' (tudalennau 11 - 76)

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Canmolodd yr Aelodau'r swyddogion ar yr adroddiad a chyfeiriwyd at dudalen 14 - Effeithiau Cymunedol y Cymoedd. Gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch darparu cymorth o ran camddefnyddio sylweddau; mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwella'r ddarpariaeth hon. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at dudalennau 19 a 22 o'r adroddiad gan gwestiynu pam roedd bwlch o dair blynedd rhwng y cytundeb ar gyfer dull gweithredu ar y cyd gydag Iechyd y Cyhoedd a dechrau'r rhaglen.

 

Ymatebodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (BCA) a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi ymrwymo i leihau marwolaethau a niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ond roedd oedi wedi bod oherwydd y pandemig. Mae aelod newydd o staff wedi'i benodi a gellir blaenoriaethu'r gwaith hwn yn awr.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid Defnyddio Sylweddau, er gwaethaf llawer o oedi, y gwnaed gwaith cadarnhaol hefyd i ddatblygu rhai o ganlyniadau arfaethedig y rhaglen. Cylch gwaith Rheolwyr y Rhaglen yw dod ag ystod o wasanaethau cydweithredol at ei gilydd i gyflawni'r amcanion yn gyflym gan fod niwed parhaus ar draws cymunedau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2023-2024 (Tudalennau 77 - 156)

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 91 gan gwestiynu sut mae cyfraniad yr Awdurdod Iechyd o £82 yr wythnos yn cael ei bennu.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yr Awdurdod Iechyd wedi penderfynu ar y cyfraniad ond nid oedd unrhyw rwymedigaeth i gyfrannu. Yn ogystal â'r cyfraniad ariannol mae'r Awdurdod Iechyd yn darparu mynediad at Therapyddion Iaith a Lleferydd a Nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS).

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 143 o’r adroddiad; a gofynnwyd am esboniad pellach mewn perthynas ag eitemau 9.1 a 10.1.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod eitemau 9.1 a 10.1 yn ymwneud â chynllun wedi dyddio sydd wedi cael ei ddiweddaru ers hynny.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd i staff am eu gwaith yn helpu pobl ifanc i drawsnewid eu bywydau, a soniodd am yr ystod o weithgareddau a ddarperir gan y gwasanaeth.  Mae'n ddefnyddiol i bobl ifanc glywed am droseddau bywyd go iawn a all eu helpu i fyfyrio ar eu bywydau eu hunain.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am gynnal ymweliad diweddar â Chanolfan 15 ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Craffu; hoffai'r pwyllgor drefnu ymweliadau yn y dyfodol i gael cip ar y gweithgareddau. Holodd y Cadeirydd a oedd staff a phartneriaid asiantaeth wedi derbyn hyfforddiant gan Autside neu gan unrhyw ddarparwyr eraill ar gyflyrau niwroamrywiol. 

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y gweithlu’n weithlu sy'n ystyriol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 389 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r cofnod gweithredu.

 

7.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 432 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

8.

Urgent Items

disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

9.

Access to Meetings

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) canlynol yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

10.

Pre-Decision Scrutiny of Private Item/s

Cofnodion:

Trefniadau Cytundebol ar gyfer y Gwasanaeth Ataliaeth a Lles (Tudalennau 245 - 286)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Adroddiad Ailgynllunio Hillside (Tudalennau 287 - 324)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Diweddariad ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Chartref Diogel i Blant Hillside (tudalennau 325 - 348)

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.