Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).
Cofnodion:
Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8,
10, 11, 14, 15 ac 16 o Agenda Bwrdd y Cabinet.
Caniatâd i ddarparu gwybodaeth am y 'Rhaglen Trawsnewid -
Achos Busnes Amlinellol y Gynghrair' (tudalennau 11 - 76)
Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r adroddiad
a gynhwysir yn y pecyn agenda.
Canmolodd yr Aelodau'r swyddogion ar yr adroddiad a
chyfeiriwyd at dudalen 14 - Effeithiau Cymunedol y Cymoedd. Gofynnodd yr
Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch darparu cymorth o ran
camddefnyddio sylweddau; mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwella'r
ddarpariaeth hon. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at dudalennau 19 a 22 o'r
adroddiad gan gwestiynu pam roedd bwlch o dair blynedd rhwng y cytundeb ar
gyfer dull gweithredu ar y cyd gydag Iechyd y Cyhoedd a dechrau'r rhaglen.
Ymatebodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod Bwrdd Cynllunio
Ardal Bae'r Gorllewin ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (BCA) a'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi ymrwymo i leihau marwolaethau a niwed sy'n
gysylltiedig â chyffuriau, ond roedd oedi wedi bod oherwydd y pandemig. Mae
aelod newydd o staff wedi'i benodi a gellir blaenoriaethu'r gwaith hwn yn awr.
Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid Defnyddio
Sylweddau, er gwaethaf llawer o oedi, y gwnaed gwaith cadarnhaol hefyd i
ddatblygu rhai o ganlyniadau arfaethedig y rhaglen. Cylch gwaith Rheolwyr y
Rhaglen yw dod ag ystod o wasanaethau cydweithredol at ei gilydd i gyflawni'r
amcanion yn gyflym gan fod niwed parhaus ar draws cymunedau.
Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion i Fwrdd
y Cabinet.
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Drafft Cyfiawnder Ieuenctid
ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2023-2024 (Tudalennau 77 - 156)
Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn
y pecyn agenda.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 91 gan gwestiynu sut mae
cyfraniad yr Awdurdod Iechyd o £82 yr wythnos yn cael ei bennu.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr Awdurdod Iechyd wedi penderfynu
ar y cyfraniad ond nid oedd unrhyw rwymedigaeth i gyfrannu. Yn ogystal â'r
cyfraniad ariannol mae'r Awdurdod Iechyd yn darparu mynediad at Therapyddion
Iaith a Lleferydd a Nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
(CAHMS).
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 143 o’r adroddiad; a
gofynnwyd am esboniad pellach mewn perthynas ag eitemau 9.1 a 10.1.
Cadarnhaodd swyddogion fod eitemau 9.1 a 10.1 yn ymwneud â
chynllun wedi dyddio sydd wedi cael ei ddiweddaru ers hynny.
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a
Theuluoedd i staff am eu gwaith yn helpu pobl ifanc i drawsnewid eu bywydau, a
soniodd am yr ystod o weithgareddau a ddarperir gan y gwasanaeth. Mae'n ddefnyddiol i bobl ifanc glywed am droseddau
bywyd go iawn a all eu helpu i fyfyrio ar eu bywydau eu hunain.
Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am gynnal ymweliad diweddar
â Chanolfan 15 ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Craffu; hoffai'r pwyllgor drefnu
ymweliadau yn y dyfodol i gael cip ar y gweithgareddau. Holodd y Cadeirydd a
oedd staff a phartneriaid asiantaeth wedi derbyn hyfforddiant gan Autside neu
gan unrhyw ddarparwyr eraill ar gyflyrau niwroamrywiol.
Cadarnhaodd swyddogion fod y gweithlu’n weithlu sy'n
ystyriol o drawma ac mae hyfforddiant ar gael i'r holl staff. Mae staff sy'n
gweithio gyda phobl ifanc ag anawsterau niwrowahanol wedi ymgymryd â'r
hyfforddiant priodol. Nodwyd bod pob person ifanc sy'n ymuno â'r gwasanaeth yn
derbyn asesiad sgrinio Iaith a Lleferydd ac mae ymyriadau ac adnoddau ar gael.
Holodd yr Aelodau am y nifer isel o atgyfeiriadau a
dderbyniwyd gan ysgolion o gymharu â'r gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu,
gan ystyried y nifer uchel o waharddiadau ysgol a gofnodwyd.
Cadarnhaodd swyddogion fod gweithiwr Hyfforddiant a
Chyflogaeth Addysg wedi cael ei gyflogi i lenwi swydd wag. Mae gwaith ar y cyd
yn cael ei wneud gydag ysgolion ac mae timau’n gweithio'n agos mewn perthynas â
rheoli risgiau. Nodwyd bod angen gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaethau Plant
hefyd. Mae strategaethau'n cael eu
datblygu i leihau gwaharddiadau, a fydd yn cynnwys darparu darpariaeth amgen
lle gall plant weithio yn ôl amserlen lai ac osgoi cael eu gwahardd.
Cyfeiriodd yr Aelodau at nifer y bobl ifanc rhwng 13-15 oed
a oedd yn aros am ddiagnosis ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol, a holwyd a oedd
amserau aros yn broblem.
Cadarnhaodd swyddogion fod problemau gydag amserau aros ar
gyfer diagnosis o ASA a chyflyrau niwroamrywiol. Mae'r asesiadau iaith a lleferydd yn nodi
anawsterau cyfathrebu na fyddai ysgolion wedi eu nodi o'r blaen efallai; mae
hyn yn cael ei amlygu fel pryder wrth symud ymlaen.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 120 o'r adroddiad gan holi
a oedd y cyfraddau aildroseddu, o ystyried yr ôl-groniad yn y system
gyfiawnder, yn gywir.
Cadarnhaodd swyddogion fod y cyfraddau aildroseddu wedi'u
cyfrifo gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, drwy'r heddlu a'u bod yn cael eu
cyfrifo yn ôl ffigur 12 mis ond eu bod 18 mis ar ei hôl hi er mwyn nodi unrhyw
ddata am aildroseddu. Nodwyd bod y Cyfarwyddwr Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol a
Diogelwch Cymunedol wedi codi pryder gyda'r llysoedd ynghylch yr amser hir y
mae pobl ifanc wedi bod ar remand cyn y cynhelir treial. Mae'r sefyllfa hon
wedi lleihau ers i'r pandemig COVID ddod i ben ond mae pryderon yn parhau
ynghylch amserlenni cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae pryderon y gall pobl
ifanc wynebu treial fel oedolyn ac nid fel person ifanc.
Holodd yr Aelodau a yw'r adroddiadau am amserlenni llai yn
cael eu cyflwyno i'r pwyllgor hwn neu i Fwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet.
Cadarnhaodd swyddogion fod y ffigurau amserlenni llai yn
rhan o'r adroddiadau a gyflwynwyd i Fwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a
Diogelwch Cymunedol y Cabinet, a bydd Y Bwrdd Rheoli hefyd yn craffu arnynt.
Mae'r adroddiad mewn fformat rhagnodedig i sicrhau cysondeb ar draws y bwrdd.
Gall swyddogion ddarparu ffigurau ar gyfer yr Aelodau.
Holodd yr Aelodau pam nad oedd pobl ifanc yn cael diagnosis
drwy'r system addysg.
Ymatebodd swyddogion fod cyfuniad o ffactorau o fewn iechyd
ac addysg ac mae gwaith ar y cyd yn parhau. Mae'r materion yn cynnwys diffyg
asesiadau iaith a lleferydd, ac amserau aros hir ar gyfer cael arbenigedd
meddygol ynghylch ASA. Nodwyd bod tystiolaeth wedi'i chyflwyno i'r Senedd yn
gynharach eleni a bod Castell-nedd Port Talbot yn cael ei gydnabod fel
enghraifft o arfer da o ran darpariaeth iaith a lleferydd o fewn cyfiawnder
ieuenctid.
Dywedodd y Cadeirydd wrth Aelodau y bydd y Cynllun
Strategaeth Niwroamrywiaeth yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor yn fuan ac y
gwneir cais i arweinwyr ASA o'r Adran Addysg fod yn bresennol.
Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion i Fwrdd
y Cabinet.
Pwynt Cyswllt Unigol (PCU) Plant a Phobl Ifanc y
Gwasanaethau Cymdeithasol (tudalennau 167-174)
Amlinellodd swyddogion fanylion yr adroddiad a'r pwysau
presennol sy'n wynebu'r tîm PCU a sut mae'r pwysau'n cael eu rheoli.
Holodd Aelodau am yr amser aros ar gyfartaledd ar gyfer
galwadau sy'n dod i mewn i'r PCU.
Dywedodd swyddogion wrth Aelodau fod galwadau'n cael eu
hateb gan staff y ganolfan gyswllt o fewn y Gwasanaethau Oedolion, ac nid yw'r
ffigurau ar gael ar hyn o bryd. Mae cynllun ar waith i gymryd galwadau ffôn o
fewn y gwasanaethau plant, ond ni chytunwyd ar ddyddiad gweithredu eto. Gellir
darparu rhagor o ddata yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu. Nodwyd bod yr
anawsterau recriwtio yn ymwneud â Gweithwyr Cymdeithasol ac nid staff y
ganolfan gyswllt.
Holodd yr Aelodau am yr amser aros ar gyfartaledd ar gyfer
ymweliadau gweithwyr cymdeithasol yn dilyn atgyfeiriad.
Cadarnhaodd swyddogion fod ymatebion yn cael eu rhoi ar sail
achos i achos, ond ym mhob achos gwnaed y cyswllt cychwynnol o fewn 24 awr.
Ymdrinnir ag atgyfeiriadau diogelu ar yr un diwrnod ac mae cefnogaeth ymyrryd
yn gynnar ac atal yn dibynnu ar argaeledd. Ni fydd unrhyw achos yn cymryd mwy
nag wythnos ond mae cyswllt cychwynnol yn digwydd o fewn 24 awr ym mhob
achos.
Gofynnodd yr Aelodau beth oedd ar waith er mwyn i uwch staff
profiadol gydnabod pan oedd staff dan bwysau, a gofynnwyd a oedd gweithwyr
cymdeithasol yn gweithio oriau hirach wrth weithio gartref er mwyn cyrraedd
targedau.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod
gweithwyr cymdeithasol plant rheng flaen yn gallu cyflawni cydbwysedd rhwng
bywyd a gwaith yn ystod y pandemig i ddechrau, ond mae hyn wedi newid wrth i
amser fynd yn ei flaen. Maent wedi ceisio dysgu gwersi o'r pandemig i
gyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
Cadarnhaodd swyddogion er bod staff yn wynebu pwysau a bod
rhai anawsterau recriwtio wedi bod, roedd y gyfarwyddiaeth yn perfformio'n dda
o ran y farchnad bresennol. Mae adborth cyffredinol gan staff yn gadarnhaol.
Cynhelir goruchwyliaeth bob 4 wythnos a rhoddir ffocws ar les staff. Mae
rheolwyr yn gweithredu polisi drws agored i gefnogi staff a nodwyd bod pwysau
gwaith yn mynd lan a lawr.
Canmolodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a
Theuluoedd y staff am fod yn broffesiynol yn y cyfnod hwn o bwysau uchel.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.
Plant a Phobl Ifanc, y Gwasanaethau Oedolion a Thai a
Diogelwch Cymunedol - Adroddiad Perfformiad yr 2il Chwarter (Ebrill 2023 - Medi
2023) (Tudalennau 175 - 238)
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y weithdrefn ar
gyfer preswylwyr sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar unwaith, a gofynnwyd a
oedd y system yn ychwanegu at bryder pobl.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd pam nad oedd cofrestr tai ganolog.
Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Chymunedau nad oedd cofrestr
tai gyffredin na pholisi dyrannu cyffredin ar waith ar draws yr holl
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Sefydlwyd y system bresennol pan drosglwyddwyd y stoc tai i landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig ond mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu proses
gyffredin fel bod un broses ymgeisio - bydd angen i'r holl landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig gytuno i hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu
papur gwyn sy'n awgrymu y dylai fod gan awdurdodau gofrestr tai gyffredin.
Eglurodd swyddogion dri cham y broses troi allan a nodwyd
taw'r ymgeisydd sy'n dewis ar ba bwynt yr hoffai fynd i lety dros dro.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd cymorth arbenigol ar gael ar
gyfer pobl anabl neu'r rheini ar salwch tymor hir sy'n cael eu gwneud yn
ddigartref, gan y gall fod ganddynt anghenion
penodol.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod nifer o wasanaethau
a all ddarparu cymorth. Gall anableddau amrywio'n fawr; mae gwasanaethau
arbenigol i gefnogi cyflyrau iechyd meddwl ond nid oes gwasanaethau penodol i
gefnogi'r rheini ag anabledd corfforol. Fodd bynnag, nodwyd bod y cymorth a
gynigir yn canolbwyntio ar yr unigolyn felly byddai'n canolbwyntio ar anghenion
unigol.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 184 o'r pecyn agenda a
gofynnwyd pryd y byddai'r adroddiad manwl ar yr Adolygiad PDG ar gael.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr adroddiad drafft yn aros am
eglurhad pellach ynghylch rhai pwyntiau, ond y byddai ar gael i'r Aelodau yn
fuan.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 219; salwch tymor hir a
swyddi gwag staff a holwyd sut roedd gwaith y rheini ar salwch tymor hir yn
cael ei gyflawni.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod
yr holl gyfrifoldebau statudol yn cael eu cyflawni o hyd. Ar gyfer
swyddogaethau drws blaen, gellir defnyddio staff asiantaeth, fel arall mae gwaith
yn cael ei wneud o fewn y tîm. Caiff yr
angen am staff cyflenwi ei adolygu'n wythnosol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth
yn gallu cyflawni cyfrifoldebau statudol.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd llwyth gwaith ychwanegol yn
effeithio ar waith mewn timau eraill.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc nad yw
staffio yn effeithio ar berfformiad y gwasanaeth. Mae'r bar wedi'i osod yn
uchel ac er bod y gwasanaeth o fewn y tri uchaf yng Nghymru o ran bodloni
amserlenni statudol, mae'r tîm yn ymdrechu i wella. Mae natur y gwaith yn anodd, ond mae llwythi
achos o fewn y tri llwyth achos isaf yn y wlad ar gyfer gwasanaethau plant.
Nodwyd bod ansawdd yr ymweliadau yn cymryd amser, ac er bod staff yn hyblyg,
heb y lefelau staffio presennol gellid effeithio ar gydbwysedd rhwng bywyd a
gwaith staff.
Yn dilyn craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.