Agenda a Chofnodion

Special (Budget), Pwyllgor Craffu Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles - Dydd Llun, 8fed Ionawr, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Chivers  E-bost: p.chivers@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Dim

 

3.

Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y bydd sylwadau o'r cyfarfod yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb 2024/25. Atgoffwyd yr Aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllideb nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn gynted â phosib.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y dylent ystyried elfennau'r gyllideb sy'n dod o dan gylch gwaith y pwyllgor craffu hwn.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg byr o'r broses ymgynghori. Dechreuodd ymgynghoriad y gyllideb ar 20 Rhagfyr 2023 a'r dyddiad cau fydd 10 Ionawr 2024. Ystyriwyd bod yr amserlen hon yn ddigonol i aelodau ystyried y cynigion a byddai'n rhoi digon o amser i swyddogion ystyried adborth cyn cyflwyno cynigion terfynol i'r Cabinet ym mis Mawrth 2024.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o fisoedd i nodi maint y bwlch cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar sicrhau gwasanaethau a diogelu swyddi.

 

Rhoddodd Penaethiaid Gwasanaethau drosolwg o'r cynigion cynilo a chynhyrchu incwm a gynhwysir yn Atodiad 4 o becyn adroddiadau'r agenda.

 

Mewn perthynas â Pharc Gwledig Margam (ELLL1), holodd yr aelodau am oblygiadau'r golled staff a grybwyllwyd.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw staff yn cael eu colli o safbwynt gweithredol gan fod y cyfeiriad yn ymwneud ag ymddeoliad hyblyg aelod o staff, a bod y trefniant hwn yn golygu y cedwir sgiliau a phrofiad.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y cynigion blaenorol ar gyfer llinell sip ym Mharc Margam. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai adroddiad llawn mewn perthynas â chyfeiriad strategol Parc Margam yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Holodd yr aelodau a fyddai'r cyllid codi'r gwastad yn effeithio ar gynigion arbedion Theatr y Dywysoges Frenhinol (ELLL3).

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw fanylion yn hysbys ar hyn o bryd, a chynhelir cyfarfod cynllunio'n fuan a disgwylir i'r cyfnod datblygu bara oddeutu 12 mis. Byddai'r theatr ar gau am gyfnod sylweddol tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

 

Mewn perthynas â'r cynnig Hamdden Dan Do (ELLL4), holodd yr aelodau ynghylch y swm uchel o arbedion a nodwyd yn yr adroddiad a'r goblygiadau os na chaiff yr arbediad hwn ei wireddu. Holodd yr aelodau hefyd a ystyriwyd costau dibrisiant offer a digwyddiadau byd-eang a allai achosi i brisiau ynni godi.

 

Cytunodd swyddogion fod angen monitro'r cynnig yn ofalus. Byddai'r rhan fwyaf o'r incwm yn cael ei gyflawni o ganlyniad i gostau aelodaeth ac arbedion ynni. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y risgiau a chadarnhaodd fod dealltwriaeth o anwadalrwydd y ffigurau y gall digwyddiadau'r byd effeithio arnynt. Mae'r ffigwr arbedion a nodir yn yr adroddiad yn dangos gostyngiad mewn diffygion gweithredu, nid elw.

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 21 o'r adroddiad a'r sôn am oedi pellach ynghylch dod â Celtic Leisure yn fewnol a'r costau cysylltiedig. Nododd yr Aelodau fod Undebau Llafur yn adrodd am ansicrwydd staff ac effaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.