Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y bydd sylwadau o'r
cyfarfod yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb
2024/25. Atgoffwyd yr Aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori
ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllideb nad
ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn
gynted â phosib.
Atgoffwyd yr Aelodau y dylent ystyried elfennau'r gyllideb
sy'n dod o dan gylch gwaith y pwyllgor craffu hwn.
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg byr o'r broses
ymgynghori. Dechreuodd ymgynghoriad y gyllideb ar 20 Rhagfyr 2023 a'r dyddiad
cau fydd 10 Ionawr 2024. Ystyriwyd bod yr amserlen hon yn ddigonol i aelodau
ystyried y cynigion a byddai'n rhoi digon o amser i swyddogion ystyried adborth
cyn cyflwyno cynigion terfynol i'r Cabinet ym mis Mawrth 2024.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o fisoedd i nodi maint y bwlch
cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar sicrhau gwasanaethau a diogelu swyddi.
Rhoddodd Penaethiaid Gwasanaethau drosolwg o'r cynigion
cynilo a chynhyrchu incwm a gynhwysir yn Atodiad 4 o becyn adroddiadau'r agenda.
Mewn perthynas â Pharc Gwledig Margam (ELLL1), holodd yr
aelodau am oblygiadau'r golled staff a grybwyllwyd.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw staff yn cael eu
colli o safbwynt gweithredol gan fod y cyfeiriad yn ymwneud ag ymddeoliad hyblyg
aelod o staff, a bod y trefniant hwn yn golygu y cedwir sgiliau a phrofiad.
Holodd yr aelodau ynghylch y cynigion blaenorol ar gyfer
llinell sip ym Mharc Margam.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
y byddai adroddiad llawn mewn perthynas â chyfeiriad strategol Parc Margam yn y
dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Holodd yr aelodau a fyddai'r cyllid codi'r gwastad yn
effeithio ar gynigion arbedion Theatr y Dywysoges Frenhinol (ELLL3).
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw fanylion yn hysbys ar
hyn o bryd, a chynhelir cyfarfod cynllunio'n fuan a disgwylir i'r cyfnod
datblygu bara oddeutu 12 mis. Byddai'r theatr ar gau am gyfnod sylweddol tra
bod y gwaith yn mynd rhagddo.
Mewn perthynas â'r cynnig Hamdden Dan Do (ELLL4), holodd yr
aelodau ynghylch y swm uchel o arbedion a nodwyd yn yr adroddiad a'r
goblygiadau os na chaiff yr arbediad hwn ei wireddu. Holodd yr aelodau hefyd a
ystyriwyd costau dibrisiant offer a digwyddiadau byd-eang a allai achosi i
brisiau ynni godi.
Cytunodd swyddogion fod angen monitro'r cynnig yn ofalus.
Byddai'r rhan fwyaf o'r incwm yn cael ei gyflawni o ganlyniad i gostau
aelodaeth ac arbedion ynni. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes y risgiau a chadarnhaodd fod dealltwriaeth o anwadalrwydd y ffigurau y gall
digwyddiadau'r byd effeithio arnynt. Mae'r ffigwr arbedion a nodir yn yr
adroddiad yn dangos gostyngiad mewn diffygion gweithredu, nid elw.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 21 o'r adroddiad a'r sôn am
oedi pellach ynghylch dod â Celtic Leisure yn fewnol a'r costau cysylltiedig.
Nododd yr Aelodau fod Undebau Llafur yn adrodd am ansicrwydd staff ac effaith
barhaus ar forâl ac yn cwestiynu a allai morâl staff effeithio ar gyflawni'r
arbedion effeithlonrwydd arfaethedig. Mae undebau llafur wedi gofyn am weithgor
i ddatblygu cynllun busnes ymarferol dros y misoedd nesaf a gofynnodd yr
aelodau sut y byddai'r cyngor yn ymateb.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
y bydd cynllun busnes ar gyfer Cyfarwyddiaeth y Gwasanaeth Hamdden yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor hwn cyn i Celtic Leisure ddod yn ôl yn fewnol.
Cyfrifoldeb y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fyddai'r
Cynllun Busnes fel rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Hamdden gyffredinol.
Byddai unrhyw gais am weithgor yn digwydd er mwyn i Fwrdd Celtic gynnal
trafodaethau ag Undebau Llafur. Mae gan Celtic Leisure gynllun busnes cyfredol
a fydd yn caniatáu iddo gyflawni'r arbedion effeithlonrwydd a nodir yn yr
adroddiad.
Mewn perthynas â Glanhau Ysgolion Cynradd (ELLL9), cododd yr
Aelodau bryder y gallai ysgolion ddewis cyflogi cwmnïau preifat na fyddai
ganddynt o bosib yr wybodaeth a'r profiad a gafwyd yn ystod y pandemig
diweddar. Roedd yr aelodau hefyd yn cwestiynu'r gwahaniaeth mewn prisiau rhwng
y ddarpariaeth bresennol a chwmnïau preifat.
Nid yw swyddogion yn rhagweld y byddai ysgolion yn dewis
cyflogi cwmnïau preifat gan fod gan y gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd enw
da. Trefnir cyfarfod gyda'r Rheolwr Glanhau i nodi goblygiadau i ysgolion a
sicrhau bod ysgolion yn cael sicrwydd y byddant yn derbyn yr un gwasanaeth o
ansawdd uchel. Nododd swyddogion na allai cwmnïau preifat ddarparu'r mesurau diogelwch
gofynnol sydd eu hangen ar gyfer glanhau ysgolion cyn COVID-19 ac mae'n
annhebygol y byddai hyn wedi newid.
Holodd yr aelodau a fyddai ysgolion yn parhau i ddefnyddio'r
gwasanaeth ond yn lleihau eu horiau glanhau.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes
fod hyn yn bosibilrwydd, ond nododd fod angen glanhau rhai ardaloedd mewn
ysgolion yn ddyddiol ac na fyddai lle i doriadau yn yr ardaloedd hyn. Dywedodd
y Cyfarwyddwr fod y cynnig yn anffodus ond na ellir ei osgoi yn yr hinsawdd
economaidd bresennol a gwneir pob ymdrech i ddiogelu'r gwasanaeth a'i gadw'n
fewnol.
Cytunodd yr Aelodau fod gan y gwasanaeth glanhau enw da ond
dywedodd fod rhai ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd, yn wynebu amgylchiadau
ariannol heriol a gallai unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth gael effaith
niweidiol ar gyllid ysgolion ac ar ddiogelwch plant.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd gwiriadau a monitro ar waith pe
bai ysgolion yn cyflogi cwmnïau preifat i sicrhau bod ysgolion yn cael eu
cynnal ar y safon ofynnol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
nad oes unrhyw weithredwyr preifat yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd. Pe bai'r
sefyllfa hon yn newid, byddai'r awdurdod yn cynorthwyo ysgolion i baratoi
manyleb, ond byddai'r cyfrifoldeb ar y corff llywodraethu. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai hyn yn gyfrifoldeb enfawr oherwydd ar hyn o bryd gwneir hyn
gan wasanaethau glanhau sy'n cadw at yr holl reoliadau mewn perthynas â
hyfforddiant/COSHH.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad pellach mewn perthynas â
chynigion ELLL 11/12 a 13 a gwrthbwyso grantiau yn erbyn costau craidd.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw ganlyniad i'r
cynigion. Mewn perthynas â chynnig y Gwasanaeth Ieuenctid, cafwyd cynnydd o
£10k sy'n cael ei hawlio yn erbyn y costau craidd. O ran urddas y misglwyf, mae
llawer iawn o adnoddau eisoes ar gael mewn ysgolion sy'n galluogi'r costau
gweinyddol i gael eu hailgyfeirio yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddai
arbediad RCSIG yn cael ei gymryd o unrhyw danwariant.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnig i gynyddu incwm dros drothwy o 7.5% ar
y gwasanaeth rheoli plâu (ENV20); a holwyd sut y bu cynnydd mewn taliadau'r
cyngor o'i gymharu â ffioedd cwmnïau preifat.
Nododd swyddogion ei bod yn anodd cymharu gan nad yw llawer o gwmnïau
preifat yn cyhoeddi eu ffioedd, ond deallir bod ffioedd rheoli plâu
Castell-nedd Port Talbot yn ffafriol o'u cymharu â'r sector preifat.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
sylw'r aelodau at gynnig cyllideb nad oedd yn dod o dan gylch gwaith y pwyllgor
ond a oedd yn ymwneud â chynnal a chadw tiroedd ysgolion (ENV14).
Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw fiwrocratiaeth ychwanegol
ynghylch newidiadau i gaffael mewn perthynas â'r cynnig arbedion SCH1.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
fod biwrocratiaeth ychwanegol yn bosibilrwydd, ond os bydd ysgolion yn dilyn y
cyngor a roddir, byddant yn gallu sicrhau nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd
fwy effeithlon na fydd yn feichus.
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Swyddogion a'u timau am eu
gwaith caled parhaus.
Ystyriodd yr Aelodau Adroddiad Ymgynghoriad ar Gyllideb
2024/25 fel y'i cyflwynwyd. Ni chyflwynwyd cynigion cyllidebol ychwanegol gan
aelodau yn y cyfarfod.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau yr adroddiad.
Dogfennau ategol: